news and blogs Archives
461 canlyniadau
Mae Dydd Mawrth Porffor yn fudiad cymdeithasol byd-eang a'r prif frand ar gyfer gwella profiad y cwsmer i bobl anabl a'u teuluoedd, 365 diwrnod y flwyddyn. Mae'r fenter yn ysbrydoli arweinyddiaeth a staff sefydliadau o bob sector a maint i hyrwyddo ymwybyddiaeth, datblygu dealltwriaeth, a gweithredu atebion ar gyfer gwell hygyrchedd yn amgylcheddau eu cwsmeriaid. Mae sefydliadau sy'n cymryd rhan yn gwneud ymrwymiadau cyhoeddus (o leiaf un gweithgaredd neu fenter newydd) bob blwyddyn sy'n gwella...
Mae'r Gweinidog Materion Gwledig Lesley Griffiths wedi cyhoeddi bod diwydiant bwyd a diod Cymru'n parhau i fynd o nerth i nerth wrth i'r ffigyrau diweddaraf ddangos bod trosiant cadwyni cyflenwi'r sector wedi cynyddu i £23 biliwn yn 2021. Dyma gynnydd o 2.9% o'r trosiant o £22.4 biliwn yn 2020. Gwelwyd twf cadarn iawn yn y sector gweithgynhyrchu bwyd a diod yng Nghymru, sy'n cynhyrchu cynhyrchion amrywiol, yn 2021 gyda throsiant yn cynyddu 10.2% o £4.9bn...
Mae Llywodraeth y DU wedi bod yn adeiladu a phrofi gwasanaeth ar-lein newydd i gyflogwyr sy'n rhoi cyngor ac arweiniad ar reoli iechyd ac anabledd yn y gweithle. Mae'r gwasanaeth yn esbonio eich rhwymedigaethau cyfreithiol ac arfer da - gallai fod yn arbennig o ddefnyddiol i fusnesau llai heb gymorth Adnoddau Dynol mewnol neu fynediad at wasanaeth iechyd galwedigaethol. Mae’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE) yn cefnogi datblygu'r gwasanaeth hwn a hoffai eich cymorth...
Mae’r Comisiwn Elusennau wedi cyhoeddi bod y rhaglen ‘Adfywio Ymddiriedolaethau’ wedi rhyddhau £1 miliwn i gynorthwyo achosion elusennol yn uniongyrchol ledled Cymru. Mae rhaglen Adfywio Ymddiriedolaethau yn helpu elusennau i oresgyn heriau sy'n llesteirio eu gallu i ddatblygu'r achosion elusennol yn effeithiol y maent yn eu heirioli a chynorthwyo elusennau segur i ryddhau eu hasedau elusennol. Gwneir hyn trwy eu helpu i ddirwyn asedau i ben neu drosglwyddo asedau i elusen arall sydd â dibenion...
Rhwng 31 Hydref a 4 Tachwedd 2022, mae Wythnos Masnach Ryngwladol yn ôl a bydd yn arddangos cyfres newydd sbon o ddigwyddiadau a gynlluniwyd i helpu busnesau o bob siâp a maint i gynyddu eu potensial byd-eang. Bydd busnesau'n gallu darganfod mwy am fentrau Strategaeth Allforio allweddol, fel y Gwasanaeth Cymorth Allforio a'r Academi Allforio. I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol https://www.events.great.gov.uk/website/8822/ Mae Llywodraeth Cymru'n darparu ystod o gymorth, arweiniad a...
Mae Innovate UK yn cynnig hyd at £25 miliwn mewn benthyciadau i fentrau micro, bach a chanolig eu maint (BBaCh). Mae benthyciadau ar gyfer prosiectau ymchwil a datblygu cyfnod hwyr hynod arloesol sydd â’r potensial gorau ar gyfer y dyfodol. Dylai fod llwybr clir at fasnacheiddio ac effaith economaidd. Rhaid i'ch prosiect arwain at gynhyrchion, prosesau neu wasanaethau newydd sy’n sylweddol o flaen eraill sydd ar gael ar hyn o bryd neu'n cynnig defnydd arloesol...
Cynllun newydd ledled y DU yw Help to Grow: Digital sy’n helpu busnesau bach a chanolig i fabwysiadu technolegau digidol sydd wedi’u profi fel rhai sy’n cynyddu eu cynhyrchiant. Bydd y cynllun yn cynnig cyngor diduedd ac am ddim i BBaChau ar sut gall technoleg helpu eu busnes. Bydd platfform ar-lein yn eu helpu i: nodi eu hanghenion technoleg ddigidol asesu opsiynau o ran prynu technoleg rhoi technolegau newydd ar waith yn eu gweithrediadau Bydd...
Mae Gweinidogion wedi cadarnhau heddiw bod rhaglen a ariennir gan Lywodraeth Cymru sy'n helpu pobl 19 oed a hŷn i wella eu sgiliau a'u rhagolygon cyflogaeth wedi cael hwb o £3 miliwn i ganolbwyntio ar sgiliau digidol a sgiliau sero net. Mae Cyfrifon Dysgu Personol yn cefnogi unigolion ar incwm is a'r rheini y mae eu swyddi mewn perygl, i ddysgu sgiliau newydd, ennill cymwysterau newydd a helpu i newid trywydd eu gyrfaoedd. Bydd £1...
Helpwch ni i dorri'r stigma fel bod pobl o bob oed yn gallu cyflawni eu gwir botensial yn y gwaith. Mae'r menopos yn gyfnod naturiol o fywyd ac eto mae'n parhau'n bwnc tabŵ mewn sawl gweithle. Mae pobl sy'n profi symptomau'r menopos angen yr un gefnogaeth a dealltwriaeth gan eu cyflogwr ag unrhyw un sy'n profi unrhyw gyflwr iechyd parhaus. Mae angen i gyflogwyr dorri'r stigma a'r tabŵ sy'n gysylltiedig â'r menopos yn y gwaith...
Mae’n bleser gan FareShare Cymru gyhoeddi bod Cronfa Bwyd dros Ben ag Amcan Cymru ar agor ar gyfer ceisiadau gan fusnesau bwyd a diod o bob maint, sector a lleoliad yng Nghymru. Ar ôl llwyddiant y cyllid cychwynnol, mae FareShare Cymru wedi derbyn ail rownd o gyllid gan Lywodraeth Cymru i wneud llwyth o les i nifer aruthrol o bobl ledled Cymru. Er enghraifft, gallai ffermwr neu dyfwr cynnyrch ffres wynebu costau o gynaeafu cnydau...
Pagination
- Previous page
- Page 46
- Next page