news and blogs Archives
451 canlyniadau
Gyda llawer o swyddi tymhorol yn cael eu llenwi ar yr adeg hon o’r flwyddyn, mae’n bwysig bod gweithwyr yn diogelu iechyd a diogelwch gweithwyr yr economi gìg, gweithwyr asiantaeth a gweithwyr dros dro. Mae gan wefan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch ganllawiau ar gyfer defnyddwyr a chyflenwyr gweithwyr asiantaeth a dros dro i’w helpu i ddeall eu cyfrifoldebau iechyd a diogelwch. Os ydych chi’n weithiwr asiantaeth neu’n weithiwr dros dro yna mae’ch iechyd...
Mae Llywodraeth y DU wedi lansio arolwg i helpu amlygu busnesau a sefydliadau y bydd angen cymorth arnynt o hyd gyda biliau ynni o fis Ebrill 2023. Mae'r arolwg yn cynnwys cwestiynau ar amrywiaeth o bynciau fel costau a defnydd ynni, a disgwyliadau ar gyfer y dyfodol. Bydd ymatebion i'r arolwg yn helpu gydag adolygu'r Cynllun Rhyddhad ar Filiau Ynni. Bydd yr arolwg yn cau am 11:55pm ar 30 Hydref 2022. I lenwi'r arolwg, cliciwch...
Mae'r Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol (NCSC) wedi cyhoeddi canllawiau newydd sy'n disgrifio camau ymarferol i helpu sefydliadau i asesu seiberddiogelwch yn eu cadwyni cyflenwi. Mae wedi'i anelu at sefydliadau canolig i fawr sydd angen magu hyder neu sicrwydd bod camau lliniaru ar waith ar gyfer gwendidau sy'n gysylltiedig â gweithio gyda chyflenwyr. Yn fwy penodol, mae'r canllawiau: yn disgrifio perthnasoedd nodweddiadol â chyflenwyr, a ffyrdd y mae sefydliadau'n agored i fregusrwydd ac ymosodiadau seiber drwy'r gadwyn...
Mae Diwrnod Fegan y Byd yn ddigwyddiad blynyddol sy'n cael ei ddathlu gan feganiaid ledled y byd bob 1 Tachwedd. Bathwyd y term 'fegan' ym 1944 gan yr aelodau sefydlu. Crëwyd Diwrnod Fegan y Byd i nodi 50 mlynedd ers sefydlu'r gymdeithas, a gynhaliwyd ar 1 Tachwedd 1994. Mae'n adeg i ddathlu'r gymuned fegan a'r camau gafodd eu cymryd tuag at wneud feganiaeth yn rhywbeth prif ffrwd. I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y...
Mae Three Business wedi ffurfio partneriaeth â'r Samariaid i ddarparu cwrs Meithrin Lles a Gwydnwch ar gyfer perchnogion busnesau bach. Bydd y cwrs ar-lein am ddim yn darparu strategaethau ymarferol i berchnogion busnesau bach gryfhau eu gwydnwch personol a gwella eu lles. Cewch glywed gan un perchennog BBaCh a fydd yn rhannu ei brofiad o oresgyn amseroedd anodd a chlywed gan y Samariaid am y gefnogaeth sydd ar gael. Cynhelir y gweminar am ddim ar...
Gall busnesau bwyd a diod yng Nghymru gael cymorth ac arweiniad am ddim i fanteisio ar gyfleoedd caffael mawr yn y sector cyhoeddus. Hwb bwyd a diod yw Larder Cymru. Mae'n dwyn ynghyd cynhyrchwyr a phroseswyr o Gymru fel eu bod mewn gwell sefyllfa i ymateb i gyfleoedd i gyflenwi’r sector gyhoeddus yng Nghymru. Fel rhan o’u prosiect Larder Cymru, mae Menter Môn yn targedu cynhyrchwyr a phroseswyr bwyd yng Nghymru, gyda gweledigaeth i leoleiddio’r...
Bydd Pont Menai yn cau ar gyfer gwaith cynnal a chadw hanfodol o ddydd Gwener 21 Hydref 2022 yn dilyn argymhellion diogelwch gan beirianwyr strwythurol. Cafodd y cyhoeddiad ei wneud yn dilyn profion diweddar ar hangeri presennol y bont. Mae peirianwyr strwythurol wedi cadarnhau y dylai Pont Menai gau i unrhyw draffig, gan gynnwys cerddwyr a beicwyr, er mwyn caniatáu i waith cynnal a chadw hanfodol gael ei wneud. Bydd hyn yn digwydd o 14:00...
Mae Llywodraeth y DU wedi diweddaru eu Ffeithlen Cymorth â Biliau Ynni ac wedi nodi camau i gefnogi pobl a busnesau gyda'u biliau ynni a mynd i'r afael ag achosion sylfaenol y materion ym marchnad ynni'r DU trwy fwy o gyflenwad. Dyma'r cynnwys: Cymorth i gartrefi Cymorth i fusnesau ac eiddo annomestig Diwygio i fynd i’r afael â materion hirdymor yn sector ynni’r DU Help arall I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen...
Bydd yr ŵyl genedlaethol gweithgynhyrchu uwch yn cael ei chynnal yn Lerpwl rhwng 14 a 18 Tachwedd 2022 a bydd yn croesawu miloedd o arweinwyr o’r diwydiant a gweithgynhyrchwyr sy’n meddwl mewn modd digidol. Mae pob agwedd or wythnos yn dathlu rhagoriaeth: siaradwyr arbenigol, dylanwadwyr sy'n llunio diwydiant, cynrychiolwyr o'r gweithgynhyrchu gorau a'r dalent fwyaf disglair sy'n datblygu. I gael rhagor o wybodaeth ewch i wefan Wythnos Gweithgynhyrchu Digidol.
Mae pobl ledled Cymru yn cael eu hannog i gynnal ymddygiadau allweddol sy'n amddiffynnol – i gadw eu hunain a'r bobl o'u cwmpas yn ddiogel. Mae yna gamau y gallwn eu cymryd i helpu i leihau'r risg o ddal COVID-19, a heintiau anadlol eraill, fel y ffliw, a'u trosglwyddo i eraill. Mae asedau digidol ar gael i chi allu eu defnyddio ar eich sianeli eich hun i gefnogi a chyfathrebu'r canllawiau. Diogelu Cymru: Coronafeirws (COVID-19)...
Pagination
- Previous page
- Page 45
- Next page