BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

news and blogs Archives

671 canlyniadau

Gwobrwyo eich gwaith, eich pobl, a'ch busnes. Mae Gwobrau Gweithgynhyrchu Make UK 2022 yn cydnabod ac yn gwobrwyo gweithgynhyrchwyr a'u prentisiaid sydd wedi gwneud gwaith eithriadol yn y sector. Wedi'i farnu'n rhanbarthol ac yn genedlaethol gan arbenigwyr annibynnol yn y diwydiant, mae'r gystadleuaeth drylwyr hon yn taflu goleuni ar y gweithgynhyrchwyr a'r mentrau gorau ar draws ystod o gategorïau – gan wobrwyo newid, arloesi, arfer gorau, a phobl. Mae'r gwobrau'n agored i bob gweithgynhyrchydd. Gallwch...
Mae cyngor yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE) wedi newid, a rhaid i chi nawr gynnal asesiad risg unigol ar gyfer gweithwyr beichiog a mamau newydd. Ni fydd llawer o newid ymarferol gan fod rhaid i chi ystyried risgiau i fenywod o oedran geni yn eich asesiad risg cyffredinol yn barod. Y gwahaniaeth yw bod rhaid i chi hefyd gyflawni asesiad risg unigol sy'n cwmpasu anghenion penodol gweithiwr pan cewch eich hysbysu'n ysgrifenedig eu...
Cynhelir y Gynhadledd Ymarferwyr Diogelu Data ddydd Mawrth, 19 Gorffennaf 2022. Bydd digwyddiad eleni yn cael ei gynnal yn ddigidol, ar lwyfan pwrpasol. Cyhoeddir yr agenda a rhestr o siaradwyr a seminarau, maes o law. Bydd cofrestru ar agor tan ddydd Gwener 8 Gorffennaf 2022 am 5pm. Ni chodir tâl am fynychu'r gynhadledd ddigidol. I gael mwy o wybodaeth ac i gofrestru eich lle ewch i DPPC registration (snapsurveys.com)
Diogelu eich nodau masnach, patentau, dyluniadau a hawlfraint dramor. Mae hawliau Eiddo Deallusol (IP) yn diriogaethol. Dylech ystyried cael diogelwch Eiddo Deallusol os ydych eisiau masnachu dramor neu werthu i gwsmeriaid tramor drwy'r rhyngrwyd. Dechreuwch drwy ddatblygu strategaeth ryngwladol, gan nodi eich marchnadoedd, eich nodau busnes a'ch adnoddau. Gall diogelu a rheoli Eiddo Deallusol dramor fod yn gymhleth iawn. Er enghraifft, bydd angen i chi benderfynu: i ffeilio cais ar wahân mewn gwledydd unigol neu...
Mae costau cynyddol a chwyddiant yn her enfawr sy'n wynebu busnesau bach. Dysgwch sut i ddiogelu eich elw mewn oes o gostau cynyddol gyda Small Business Britain, Lloyds Bank Academy a'r arbenigwr gwerthu a manwerthu, Catherine Erdly. Os oes gennych fusnes bach, efallai eich bod yn tybio ble i ddechrau arni, hyd yn oed, o ran adolygu eich busnes a diogelu eich elw wrth i gostau godi. Yn y sesiwn hon, bydd yr arbenigwr busnesau...
Bydd cynllun gan lywodraeth y DU i hybu cynhyrchiant a thwf cymuned fusnes y wlad yn y dyfodol o fudd i hyd yn oed mwy o entrepreneuriaid. Mae'r Cynllun Rheoli Cymorth i Dyfu yn cynnig 50 awr o hyfforddiant arwain a rheoli i arweinwyr busnes ar draws 12 wythnos. Mae'n golygu y gall arweinwyr busnes, am gyn lleied â £750, elwa ar gymorth un-i-un gan fentor busnes, mynediad at rwydwaith o arweinwyr busnes o'r un...
Nod StartUp UK yw addysgu, dathlu a chynrychioli entrepreneuriaid newydd ac mae'n darparu'r dechnoleg, y cyngor a'r offer hanfodol ar gyfer bancio a chyfrifyddiaeth sydd eu hangen i ddechrau a thyfu busnes. Dyma bum ffordd y gallwch chi elwa ar ymuno â'r rhaglen: Mynychu digwyddiad – ymunwch â StartUp Saturday wyneb yn wyneb neu weminar Cinio a Dysgu ar-lein i gael y wybodaeth sydd ei hangen arnoch i ddod yn fos arnoch chi’ch hun. Archwliwch...
Oeddech chi'n gwybod y gall busnesau sydd â budd amgylcheddol ofyn am brosesu eu cais am batentau yn gyflymach? Mae'r Swyddfa Eiddo Deallusol (IPO) yn cynnig gwahanol ddulliau o gyflymu'r broses o brosesu eich cais am batentau. Cyflwynwyd y Sianel Werdd ar gyfer ceisiadau patentau ar 12 Mai 2009. Mae'r gwasanaeth hwn yn caniatáu i ymgeiswyr ofyn am brosesu eu cais am batentau yn gyflymach os oes gan y ddyfais fudd amgylcheddol. Rhaid i'r ymgeisydd...
Heddiw (24 Mehefin 2022), mae Eluned Morgan, y Gweinidog Iechyd, wedi cadarnhau y bydd profion LFD am ddim yn dal i fod ar gael yn awr yng Nghymru tan 31 Gorffennaf 2022. Bydd profion ar gael i'r cyhoedd sy'n dangos symptomau o’r coronafeirws (tymheredd uchel, peswch cyson sy’n newydd, newid yn eu synnwyr o arogl neu flas neu eu colli yn llwyr), a bydd profion hefyd ar gael am ddim i bobl sy'n ymweld â...
Mae Gwobrau Entrepreneuriaid Barclays yn ôl ac ar agor nawr ar gyfer enwebiadau. Mae'r Gwobrau'n dathlu'r entrepreneuriaid hynny sy'n tarfu ar y sefyllfa bresennol, gan yrru arloesedd a chefnogi cymunedau a'r economi yn ehangach. Dyma’ch cyfle i arddangos eich busnes a'r daith rydych chi wedi bod arni hyd yn hyn. Dyma gategorïau’r gwobrau ar gyfer 2022: Gwobr Busnes Newydd Gwobr Busnes sy’n Tyfu Gwobr Cymdeithasol Gwobr Cynaliadwyedd Gwobr Ehangu Rhyngwladol Gwobr Arloesedd Eagle Labs Gwobr...

Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.