BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

news and blogs Archives

81 canlyniadau

Mae’r Help Llaw Mawr (gwefan Saesneg yn unig) yn gyfle cenedlaethol i gael mwy o bobl i ymhél â gwirfoddoli drwy annog pobl i gymryd rhan mewn gweithgareddau gwirfoddoli rhagarweiniol ar ŵyl y banc 8 Mai 2023. Mae’r ymgyrch yn cael ei harwain gan nifer o elusennau’r DU, gan gynnwys yr NSPCC, y Groes Goch Brydeinig, y Sgowtiaid ac Ambiwlans Sant Ioan, ymhlith llawer o rai eraill. Nod y diwrnod yw annog mwy o bobl...
Mae Llywodraeth Cymru yn dymuno ehangu Cronfa Balchder Llawr Gwlad i ardaloedd mwy gwledig a threfi llai, i helpu i greu cyfleoedd i bobl ddod at ei gilydd a bod yn driw i’w hunain ledled Cymru. Bydd y gronfa yn helpu i gefnogi digwyddiadau i greu amgylchedd diogel a chroesawus ar gyfer pobl LHDTC+. Bydd y gronfa yn helpu digwyddiadau Balchder llai ledled Cymru i ymgysylltu â phobl LHDTC+ a chymunedau ehangach a’u cefnogi. Dylid...
Mae system iechyd a gofal cymdeithasol Cymru yn wynebu heriau digynsail yn sgîl pandemig Covid-19, argyfwng costau byw a'r argyfwng byd-eang yn yr hinsawdd. I ymateb i hyn ac fel un o'i flaenoriaethau, mae Comisiwn Bevan yn canolbwyntio ei feddwl a’i ymdrechion i fynd i’r afael â gwastraff ym maes iechyd a gofal. Bydd y rhaglen Lleihau Gwastraff Gyda’n Gilydd yn datblygu'r ymchwil a gynhaliwyd gan y Comisiwn ymhellach, gan gyfuno ymrwymiad a chydweithrediad i...
Yn dilyn llwyddiant anferthol camau 1 a 2 ac ymateb calonogol rhanddeiliaid iddynt, mae’r Adran Diogelu’r Cyflenwad Ynni a Sero Net (DESNZ) wedi cyhoeddi ei bod am lansio Cam 3 y Gronfa Trawsnewid Ynni Diwydiannol (IETF). Bydd Cam 3 yr IETF yn werth £185 miliwn o grantiau i fusnesau’r DU ar gyfer cynnal astudiaethau a phrosiectau cyflawni ar gyfer arbed ynni a datgarboneiddio. Bydd yr adran yn ymgynghori â diwydiannau’r DU nes ymlaen eleni i...
Mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi'r Model Gweithredu Targed drafft (TOM), gan amlinellu sut mae'n bwriadu cyflawni Strategaeth Ffiniau 2025. Bydd hyn yn effeithio ar fewnforio nwyddau iechydol a ffytoiechydol (SPS) o'r UE (Gweriniaeth Iwerddon, yn bennaf) trwy borthladdoedd Cymru. Mae nwyddau SPS yn cynnwys: Planhigion Cynhyrchion sy’n dod o anifeiliaid Anifeiliaid byw Bwyd a bwyd anifeiliaid risg uchel nad ydynt yn dod o anifeiliaid Byddant yn destun gwiriadau ychwanegol ar bwyntiau mynediad i ddiogelu...
Mae Hybu Cig Cymru (HCC) wedi cyhoeddi y bydd yn derbyn ceisiadau ar gyfer ei ysgoloriaeth deithio o 3 Ebrill 2023, pan fydd y chwilio'n dechrau am enillydd yr Ysgoloriaeth eleni. Mae Ysgoloriaeth HCC ar agor i unrhyw un dros 18 mlwydd oed sy’n gweithio yn y sector cig coch yng Nghymru. Mae'n werth £4,000 ac mae'n gwobrwyo unigolion brwdfrydig i'w galluogi i astudio agwedd ar gynhyrchu neu brosesu cig coch unrhyw le yn y...
Sioeau Busnes Cymru yw'r arddangosfa fwyaf yng Nghymru ar gyfer busnesau - mae’n cynnwys tair sioe genedlaethol. Mae'r sioeau'n darparu llwyfan i fusnesau o bob maint arddangos eu cynnyrch a'u gwasanaethau. Mae’r sioeau’n gyfle i chi ddysgu technegau busnes newydd, gwrando ar brif siaradwyr sy’n ysbrydoli, cael cyngor arbenigol, cael gwybodaeth gan gynrychiolwyr ac arddangoswyr eraill a gwella cysylltiadau busnes drwy rwydweithio. Dyddiadau a lleoliadau eleni yw: 25 Ebrill 2023 – Stadiwm Dinas Caerdydd, Caerdydd...
Tra bod technoleg ddigidol a fideoalwadau yn ei gwneud hi'n llawer haws i gynnal perthynas gyda chwsmeriaid, mae busnesau'n dweud wrthym fod pobl yn gwneud busnes gyda phobl, a does dim yn adeiladu perthnasau newydd yn well na chyswllt wyneb yn wyneb. Mae ymweld â marchnadoedd i gwrdd â chwsmeriaid newydd a phosibl yn elfen hanfodol o ennill a chadw busnes. I gefnogi busnesau yng Nghymru i wneud hynny, datgelodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething...
Bydd y ddarpariaeth prydau ysgol am ddim yn ystod y gwyliau yn parhau i fod ar gael i blant o deuluoedd incwm is yn ystod gwyliau’r Pasg a’r Sulgwyn. Mae’r ddarpariaeth yn cael ei hariannu diolch i gytundeb rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru. Yn ystod gwyliau'r Pasg bydd awdurdodau lleol unigol yn penderfynu sut i weinyddu'r ddarpariaeth prydau ysgol am ddim, naill ai drwy greu cinio neu drwy ddarparu talebau neu daliadau uniongyrchol i...
Gallai niferoedd gyrwyr cerbydau nwyddau trwm, bysiau a choetsys gael hwb drwy ddiwygiadau arfaethedig i reolau hyfforddi gyrwyr. Nod rhai o'r newidiadau arfaethedig yw helpu i'w wneud yn fwy fforddiadwy ac yn fwy effeithlon i yrwyr adnewyddu eu cymwysterau neu ddychwelyd i'r diwydiant. Mae’r ymgynghoriad newydd yn cynnig diwygiadau i'r Dystysgrif Cymhwysedd Proffesiynol Gyrwyr (DCPC). Daw'r ymgynghoriad i ben ar 27 Ebrill 2023. I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol Driver Certificate...

Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.