news and blogs Archives
711 canlyniadau
Mae gofod3 yn ddigwyddiad a drefnir gan WCVA, mewn cydweithrediad â'r sector gwirfoddol yng Nghymru a dyma'r digwyddiad mwyaf o'i fath gan y sector gwirfoddol yng Nghymru. P'un a ydych yn ymddiriedolwr, yn aelod o staff, yn wirfoddolwr neu bob un o’r tri, dyma ofod unigryw i chi fyfyrio, dysgu a chynllunio ar gyfer y dyfodol. Cynhelir y digwyddiad eleni o 20 i 24 Mehefin. Gyda dros 60 o ddigwyddiadau AM DDIM ar gael, gan...
Mae Gwobrau Busnes Cymdeithasol Cymru yn rhan o brosiect Busnes Cymdeithasol Cymru (BCC) a ariennir gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop. Darperir Busnes Cymdeithasol Cymru gan Cwmpas (enw newydd Canolfan Cydweithredol Cymru) ac mae’n rhan o wasanaeth Busnes Cymru. Hon fydd 7fed flwyddyn Gwobrau BCC, ac rydym am dynnu sylw, yn fwy nag erioed, at dwf a photensial aruthrol y sector a’i gyfraniad hanfodol i gymunedau ledled Cymru. Eleni mae yna 10 categori...
Gan fod llawer o swyddi tymhorol yn cael eu llenwi yr adeg hon o'r flwyddyn, mae'n bwysig bod cyflogwyr yn diogelu iechyd a diogelwch gweithwyr yr economi gig, gweithwyr asiantaeth a gweithwyr dros dro. Cofiwch fod gweithwyr yr un mor debygol o gael damwain yn y chwe mis cyntaf mewn gweithle ag y maent yn ystod gweddill eu bywyd gwaith. Mae gan wefan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE) arweiniad i helpu defnyddwyr a...
Mae gan fusnesau ran enfawr i'w chwarae i helpu Cymru gyrraedd ei tharged o gyrraedd carbon sero net cyn 2050. Gall cwmnïau ddefnyddio llai o ynni, newid i ffynonellau pŵer glanach a gweithio'n fwy cynaliadwy. Yn ogystal â hyn, gallant greu cynhyrchion a gwasanaethau i fynd i'r afael ag achosion newid yn yr hinsawdd. Bydd Digwyddiad Brecwast Insider yn dod â busnesau at ei gilydd i rannu mewnwelediadau i gyrraedd sero net yn gynt ac...
Mae Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething, wedi lansio rhaglen flaenllaw Newydd gan Lywodraeth Cymru, a fydd yn rhoi cymorth personol i bobl nad ydynt mewn addysg, hyfforddiant na chyflogaeth ar hyn o bryd i ddod o hyd i waith ac i aros mewn Gwaith. Yn fras: cynllun newydd gwerth £13.25 miliwn y flwyddyn i ddarparu cymorth wedi'i deilwra i helpu pobl i gael gwaith ledled Cymru bydd ReAct+ hefyd yn rhoi cymorth i gyflogwyr o...
Ydych chi’n ymwneud ag addysgu neu reoli ein harfordiroedd a’n moroedd, codi ymwybyddiaeth gyda chymunedau neu gynghorau neu waith cysylltiedig? Ydych chi eisiau helpu i ddatblygu cynllun gweithredu i adeiladu llythrennedd cefnforol yng Nghymru? Llythrennedd morol yw pan fydd pobl yn deall sut mae ein gweithredoedd cyfunol ac unigol yn effeithio ar iechyd y cefnforoedd a sut mae iechyd y cefnforoedd yn effeithio ar ein bywydau. Gallai gwell llythrennedd cefnforol arwain at welliannau yn y...
Bydd Diwrnod Diogelwch Bwyd y Byd yn cael ei gynnal ddydd Mawrth 7 Mehefin 2022 ac mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) yn lansio ymgyrch i atgoffa busnesau bwyd am gynnal safonau hylendid, fel bod bwyd yn ddiogel i ddefnyddwyr, ac i sicrhau bod busnesau yn barod ar gyfer eu harolygiadau. Ers dechrau’r pandemig, mae awdurdodau lleol wedi gweld gostyngiad o ran cydymffurfiaeth â safonau diogelwch bwyd, yn rhannol oherwydd problemau parhaus mewn perthynas â recriwtio...
Mae’r mandad i’r gymuned Iechyd a Gofal Cymdeithasol weithredu ar yr argyfwng hinsawdd yn gryfach nag erioed – mae’n amser gweithredu: Cymru Sero Net Cyllideb Garbon 2 (2021 i 25) | LLYW.CYMRU Cynllun cyflenwi strategol ar gyfer datgarboneiddio GIG Cymru | LLYW.CYMRU Effeithiau Newid Hinsawdd ar Iechyd Dylech wybod: Allyriadau Iechyd a Gofal Cymdeithasol yw’r mwyaf yn y sector cyhoeddus Mae angen i’r Sector Iechyd a Gofal Cymdeithasol leihau allyriadau o leiaf 16% erbyn 2025...
Mae'r ceisiadau ar gyfer 100 Busnes Bach eleni bellach ar agor yn swyddogol! Mae Dydd Sadwrn y Busnesau Bach unwaith eto eleni yn tynnu sylw at 100 o fusnesau bach, un y diwrnod am y 100 diwrnod sy’n arwain at Ddydd Sadwrn y Busnesau Bach, 3 Rhagfyr 2022. Am y naw blynedd diwethaf, mae’r 100 wedi cael sylw nid yn unig ar sianeli cyfryngau cymdeithasol Dydd Sadwrn y Busnesau Bach ac yn y wasg leol...
Mae saith o raglenni twf a rhaglenni sector mwyaf cyffrous Tech Nation wedi agor ar gyfer ceisiadau. Os ydych chi'n rhedeg cwmni technoleg ac eisiau cyflymu ei dwf, gall Tech Nation helpu i ddod o hyd i'r rhaglen iawn i chi. Dyma drosolwg o'r gwahanol raglenni isod: NET ZERO X – mae'r rhaglen hon yn newydd sbon, ac i gwmnïau technoleg hinsawdd cyfnod diweddarach sydd ar y trywydd iawn i ddod yn gigacorns nesaf y...
Pagination
- Previous page
- Page 71
- Next page