news and blogs Archives
721 canlyniadau
Mae'r we bellach yn Gymreig yn sgil parthau .cymru a .wales. .cymru a .wales yw'r parthau lefel uchaf i Gymru ac fe'u lansiwyd ar 1 Mawrth 2015 gan Nominet, y sefydliad sy'n gyfrifol am sicrhau bod y rhyngrwyd .UK yn rhedeg yn ddidrafferth. I'r rheiny sydd eisiau tanlinellu eu cysylltiad neu eu treftadaeth Gymreig, mae diwedd enw parth yn arwydd gweladwy i unrhyw un sy'n ymweld â'u safle. Mae'n newyddion gwych i Gymru, i fusnesau...
Diwrnod Amgylchedd y Byd 2022, a gynhelir ar 5 Mehefin 2022, yw'r diwrnod rhyngwladol mwyaf i'r amgylchedd. Dan arweiniad Rhaglen Amgylcheddol y Cenhedloedd Unedig ( UNEP), ac wedi cael ei gynnal yn flynyddol ers 1974, mae wedi tyfu i fod y llwyfan byd-eang mwyaf ar gyfer allgymorth amgylcheddol. Mae'n cael ei ddathlu gan filiynau o bobl ledled y byd. #OnlyOneEarth yw slogan ymgyrch Diwrnod Amgylchedd y Byd 2022 ac mae’n galw am gydweithredu trawsnewidiol ar...
Mae gan y busnesau hynny sy’n sicrhau twf uchel a chynaliadwyedd hirdymor dri chynhwysyn allweddol: Gweledigaeth glir, strategaeth a chynllun Diwylliant cwsmeriaid sy’n asio gyda’r farchnad Prosesau a systemau disgybledig Cnoi cil: Mae’n hanfodol eich bod yn glir ynghylch yr hyn rydych chi am ei gyflawni – yr eglurder hwn sy’n sbarduno tîm llwyddiannus. Mae’n rhaid crisialu’r cynllun mewn cyfres o weithgareddau bach sy’n sbarduno camau a all greu momentwm. Mae llwyddiant yn dibynnu ar...
Fel rhan o ymgysylltu rhanbarthol y Sefydliad Technoleg Awyrofod (ATI) ymunwch â ni am ddiwrnod i drafod dyfodol awyrofod yng Nghymru. Mae’r Sefydliad Technoleg Awyrofod yn cydweithio â phartneriaid yng Nghymru er mwyn cynnig cyfle i gwmnïau ymgysylltu’n uniongyrchol â thîm ATI a dysgu mwy am strategaethau’r DU ar gyfer technoleg a phortffolio, casgliadau prosiect FlyZero a chyfleoedd ar gyfer cydweithio yn y dyfodol. Bydd cyfle i’r mynychwyr hefyd drefnu cyfarfod anffurfiol gydag ATI yn...
Mae llywodraeth y DU wedi lansio gwefan newydd i'ch helpu i ddod o hyd i'r cymorth sydd ar gael i chi i'ch helpu gyda chostau byw. Dysgwch fwy am: Ategu eich incwm Help gyda’ch biliau Help gyda chostau gofal plant Cymorth tai Help gyda chostau teithio Help i ddod o hyd i waith I gael mwy o wybodaeth, ewch i: Cost of Living Support – Get government support to help with the cost of living...
Bydd cynlluniau band eang ledled Cymru yn derbyn gwerth dros £9 miliwn o gyllid i'w helpu i ddarparu band eang cyflym a dibynadwy i gymunedau sydd ei angen, diolch i Gronfa Band Eang Lleol Llywodraeth Cymru. Mae'r gronfa, a sefydlwyd i helpu awdurdodau lleol a mentrau cymdeithasol i fynd i'r afael â materion cysylltedd yn eu cymunedau, eisoes wedi helpu nifer o brosiectau ledled Cymru, ac mae pedwar prosiect arall bellach yn derbyn cyllid. Bydd...
Bydd yr Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol (BEIS), ar y cyd ag Innovate UK KTN, yn cynnal gweminar friffio am gystadleuaeth ar-lein ar 8 Mehefin 2022 i rannu manylion am ffenestr cystadleuaeth am gyllid Cronfa Trawsnewid Ynni Diwydiannol (IETF) newydd Cam 2: Haf 2022. I gael mwy o wybodaeth a chadw lle, ewch i Cofrestru – Cronfa Trawsnewid Ynni Diwydiannol Cam 2 Haf 2022 (cvent.com) Mae ffenestr gystadleuaeth newydd Cam 2 ar gyfer Lloegr...
Bydd yr ap newydd ‘Craffwch Cyn Cysylltu’ (‘Think Before you Link’) yn helpu busnesau a’r cyhoedd i ddiogelu eu hunain rhag ysbïwriaeth bosibl. Mae ap arloesol wedi cael ei lansio sy’n caniatáu i ddefnyddwyr cyfryngau cymdeithasol a safleoedd rhwydweithio proffesiynol allu adnabod arwyddion proffiliau ffug a ddefnyddir gan ysbiwyr tramor a gweithredwyr maleisus eraill yn well, a chymryd camau i adrodd amdanynt a’u dileu. Mae’r ap newydd yn rhan o ymgyrch ‘Craffwch Cyn Cysylltu’ y...
Mae Llywodraeth Cymru a Chanolfan Rheoli Darbodus Toyota, Glannau Dyfrdwy, wedi cydweithio i gynnig cyfle unigryw i fusnesau yng Nghymru i sicrhau gwelliannau cynaliadwy mewn cystadleurwydd. Nod y rhaglen yw cyflwyno gwelliannau mesuradwy o ran cynhyrchiant, drwy rannu a darparu hyfforddiant mewn egwyddorion rheoli darbodus. Bydd ymarferwyr Toyota profiadol yn darparu cymysgedd o'r canlynol i’r rhai sy’n cymryd rhan: Theori ystafell ddosbarth. Arsylwi manwl ar lawr y siop. Enghreifftiau o ddefnydd ymarferol wedi'u cyflwyno yng...
Os oes gennych chi gynnyrch newydd gwych, yna mae The Grocer eisiau clywed amdano. Gall fod naill ai’n eitem bwyd neu’n eitem nad yw’n fwyd, cyn belled â’i fod yn dangos arloesedd go iawn – rhywbeth a fydd yn gwneud i bobl siarad – a phrynu! Mae Gwobrau Cynnyrch Newydd The Grocer 2022 yn dathlu ac yn gwobrwyo arloesedd rhagorol yn sector FMCG y DU (Nwyddau Defnyddwyr sy’n Symud yn Gyflym), yn y categorïau bwyd...
Pagination
- Previous page
- Page 72
- Next page