BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

news and blogs Archives

731 canlyniadau

Mae Innovate UK KTN yn cyhoeddi adroddiad rhyngweithiol 'Meeting Net Zero with the Power of Place' a chyfres o bodlediadau ar sut y gall data lleoliad ein helpu i frwydro yn erbyn newid yn yr hinsawdd. Mae'r adroddiad, sy'n cynnwys fideos, astudiaethau achos, yn ogystal â sylwebaeth ysgrifenedig, yn archwilio potensial enfawr data geo-ofodol, twf cynhwysol arloesi, cydweithio, meddwl system a newid diwylliannol wrth ddelio â heriau byd-eang. Mae enghreifftiau traws-sector yn cynnwys: Ynni –...
Dywedodd y Prif Weinidog Mark Drakeford heddiw y gall Cymru edrych ymlaen at ddyfodol mwy disglair, wrth i’r cyfyngiadau coronafeirws cyfreithiol olaf gael eu dileu. Ar ôl mwy na dwy flynedd o fyw gyda rheoliadau coronafeirws, daw'r rhain i ben ddydd Llun 30 Mai 2022 pan ddaw’r gofyniad i wisgo gorchudd wyneb mewn lleoliadau iechyd a gofal i ben. Ond bydd Llywodraeth Cymru’n parhau i argymell bod pobl yn cymryd camau syml i ddiogelu eu...
Rebecca Evans AS, Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol “Ar 2 Mawrth 2022, cyhoeddais y camau nesaf sy’n cael eu cymryd gan Lywodraeth Cymru, yn dilyn ein hymgynghoriad ar drethi lleol ar gyfer ail gartrefi a llety hunanddarpar. Mae’r camau yn rhan o’n cynlluniau i sicrhau bod perchnogion eiddo yn gwneud cyfraniad teg i’r cymunedau lle mae ganddyn nhw gartrefi neu’n rhedeg busnesau. Mae’r gwaith hwn, yn ei dro, yn rhan o ddull tair elfen...
Ydych chi wedi eich lleoli yn Sir Conwy? Eisiau dechrau busnes Gwyddoniaeth, Technoleg neu Greadigol? Mae Miwtini i chi! Bwriad rhaglen Miwtini yw i'ch helpu chi i gychwyn eich busnes. Gyda sesiynau yn cwmpasu popeth o gynllunio busnes, i greu gwefan, i sgiliau gwerthu ac yn gorffen gyda phitsh lle mae cyfle i ennill rhan o pot arian £5,000 i’ch helpu i gychwyn. Mae’r cyfan wedi'i ariannu'n llawn felly does dim cost i chi! 6...
Mae hon yn gystadleuaeth Small Business Research Initiative (SBRI) a ariennir gan yr UK Atomic Energy Authority (UKAEA). Gall sefydliadau wneud cais am gyfran o £2 filiwn i ddatblygu atebion i annog arloesedd yn y diwydiant ymasiad drwy ddefnyddio: systemau gwresogi ac oeri newydd ac arloesol defnyddiau gweithgynhyrchu a thechnolegau I arwain prosiect, gallwch: fod yn sefydliad o unrhyw faint gweithio ar eich pen eich hun neu gyda sefydliadau eraill fel isgontractwyr Dyfernir contractau i...
Gwybodaeth am gysylltiadau ac arweiniad a rhoddir gan Gyllid a Thollau EM. Sylwer fod yr wybodaeth hon yn gywir ar 1 Ebrill 2022 ac mae’n bosibl y gall pethau newid. Cymhellion a Rhyddhadau sydd ar gael Blwch Patent Nod y Blwch Patent yw rhoi cymhelliant ychwanegol er mwyn i gwmnïau gadw a masnacheiddio patentau sy’n bodoli eisoes a datblygu cynhyrchion patent arloesol newydd: Treth Gorfforaeth: y Blwch Patent – GOV.UK Arweiniad CIRD200000 a thudalennau dilynol...
Heddiw (dydd Mercher, 25 Mai 2022), mae Julie James, y Gweinidog Newid Hinsawdd, wedi cyhoeddi £26m i gyfyngu ar ôl troed carbon twristiaeth yng Nghymru, hybu bioamrywiaeth a gwella mynediad i gefn gwlad fel y gall pawb fwynhau ei harddwch. Gwnaeth y Gweinidog y cyhoeddiad wrth iddi agor rhwydwaith cerbydau trydan (EV) ym Mharc Cenedlaethol Arfordir Penfro – credir mai dyma'r rhwydwaith mwyaf helaeth mewn unrhyw barc cenedlaethol yn y DU gyda 74 o bwyntiau...
Mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi un ychwanegiad arbennig i Wobr Flynyddol y Frenhines am Wasanaeth Gwirfoddol (QAVS), i anrhydeddu Jiwbilî Platinwm Ei Mawrhydi y Frenhines. Flynyddol y Frenhines am Wasanaeth Gwirfoddol (QAVS), i anrhydeddu Jiwbilî Platinwm Ei Mawrhydi y Frenhines. Mae Gwobr am Wasanaeth Gwirfoddol Jiwbilî Platinwm y Frenhines yn bellach ar agor ar gyfer ceisiadau hyd at 17 Mehefin 2022. Mae enwebiadau ar gyfer Gwobrau’r Frenhines am Waith Gwirfoddol 2023 bellach ar agor...
Hoffech chi gychwyn eich busnes eich hun, meithrin gyrfa lawrydd neu sefydlu menter gymdeithasol? Efallai eich bod eisoes ar waith, ond yn chwilio am ffyrdd o wella neu dyfu? Cynhelir Wythnos Cychwyn Busnes yr Haf, sy'n gwrs cychwyn busnes ar-lein o fri, rhwng 20 ac 24 Mehefin 2022. Cyflwynir ein cwrs ar-lein 5 diwrnod gan rai o’r entrepreneuriaid a’r arbenigwyr mwyaf disglair yng Nghymru, a bydd yn eich helpu i feithrin, datblygu a thyfu eich...
Vaughan Gething AS, Gweinidog yr Economi “Mae gwasanaeth Busnes Cymru Llywodraeth Cymru wedi bod yn rhaglen allweddol a ariennir gan yr UE i helpu i ysbrydoli unigolion i fod yn entrepreneuraidd, a sicrhau bod microfusnesau a busnesau bach a chanolig (BBaChau) yng Nghymru yn gallu cael gafael ar wybodaeth, canllawiau a chymorth priodol ac amserol. Arferai dderbyn cymorth gan gronfeydd yr UE. Fel y gwyddoch, mae Llywodraeth y DU wedi lleihau’n sylweddol gyfanswm y cyllid...

Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.