BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

news and blogs Archives

781 canlyniadau

Mae llywodraeth y DU wedi cyhoeddi na fydd y rheolaethau mewnforio ar nwyddau'r UE sy'n weddill yn cael eu cyflwyno eleni mwyach. Yn hytrach, bydd masnachwyr yn parhau i symud eu nwyddau o'r Undeb Ewropeaidd i Brydain Fawr fel y maen nhw nawr. Mae ymosodiad anghyfreithlon Rwsia ar yr Wcráin, a'r cynnydd diweddar mewn costau ynni byd-eang, wedi cael effaith sylweddol ar gadwyni cyflenwi sy'n dal i adfer yn dilyn y pandemig. Felly, mae llywodraeth...
Byddai greddf naturiol yn dweud wrth rywun nad nawr, wrth i’r storm ruo o’n cwmpas, yw’r adeg iawn i ddechrau busnes. Mae gwariant cyffredinol yn llawer is ac efallai nad yw rhwyd diogelwch y “Cynllun wrth gefn” o “allu mynd yn ôl i fyd cyflogaeth yn gyflym” mor syml ag yr arferai fod. Rwy’n deall hynny. Ond mae mwy iddi na hynny, does bosib? Rydym yn gweld bod yr oes COVID-19 hon yn arwain at...
Yn dilyn llwyddiant y digwyddiad Arloesi ac Arallgyfeirio Cymru cyntaf erioed yn 2019, dyma ddiwrnod allan gyda gwahaniaeth – diwrnod na fydd unrhyw ffermwr neu goedwigwr eisiau ei golli! Pryd: 15 Mehefin 2022 Ble: Maes Sioe Frenhinol Cymru, Llanelwedd, Llanfair-ym-muallt, Powys, LD2 3SY Bydd cyfres o brif siaradwyr a chyflwynwyr rhyngwladol yn rhannu eu profiadau a'u safbwyntiau, gan gynnig cymorthfeydd un-i-un, gweithdai a seminarau ar bynciau sy'n ymwneud ag amaeth, gan gynnwys: Arloesi – ffyrdd...
Mae Spar wedi lansio cynllun Arian Yn ôl Cymunedol gwerth £100,000 a fydd yn rhoi grantiau i elusennau lleol yn ogystal â grwpiau gwirfoddol a chymunedol. Gall cwsmeriaid Spar wneud cais am grant ar gyfer sefydliad neu elusen y maent yn teimlo y byddai'n elwa o’r cyllid. Ydych chi'n gwybod am sefydliad sy'n haeddu cyllid? Gwnewch gais yma drwy rannu'r cyfraniad eithriadol y maent wedi'i wneud i'r gymuned leol ac ar gyfer beth y byddai'r...
Ers lansio Cynllun Cyflogaeth a Sgiliau Prifddinas-Ranbarth Caerdydd (CCR) 2019-22 yn 2019 bu newid aruthrol yn y ffordd mae pobl yn gweithio a’r mathau o swyddi sy’n cael eu cynnig. Yn bwysicach, bu newid arwyddocaol yn y sgiliau mae eu hangen bellach ar ddiwydiant i yrru eu busnesau yn eu blaen mewn byd ôl-pandemig. Mae’r adegau cythryblus dros y ddwy flynedd diwethaf wedi golygu bod sgiliau newydd wedi cael eu hadnabod fel gofyniad allweddol ar...
Bydd y DU yn dathlu 70 mlwyddiant o deyrnasiad Ei Mawrhydi y Frenhines gyda phenwythnos o ddathliadau. Bydd Penwythnos Gŵyl y Banc mis Mai yn cael ei symud i ddydd Iau 2 Mehefin a bydd Gŵyl Banc ychwanegol ddydd Gwener 3 Mehefin yn gweld penwythnos pedwar diwrnod i ddathlu Jiwbilî Platinwm Ei Mawrhydi y Frenhines. Bydd medal Jiwbilî yn cael ei chreu a'i dyfarnu i weithwyr gwasanaethau cyhoeddus. Cynnwys cysylltiedig: UK bank holidays - GOV.UK...
Aeth dros flwyddyn heibio ers i reolau gweithio oddi ar y gyflogres(IR35) newid yn y sectorau preifat a gwirfoddol. Efallai y bydd angen i rai sefydliadau sy'n cyflogi contractwyr yn y sectorau hynny nad oedd angen iddynt gymhwyso'r rheolau ar gyfer 2021-22 gan nad oeddent yn bodloni'r amodau maint — gymhwyso'r rheolau erbyn hyn. Gwnewch yn siŵr eich bod yn gwirio'r Llawlyfr Statws Cyflogaeth i weld a yw'r rheolau'n berthnasol i'ch busnes bob blwyddyn. Mae...
Mae grantiau hyd at £3,000 ar gael i alluogi perchnogion tafarndai gwledig, trwyddedeion a chymunedau lleol i gydweithio i helpu i gefnogi a chynnal gwasanaethau lleol yng Nghymru, Lloegr a'r Alban. Bydd Cronfa Gwasanaethau Cymunedol Pub is the Hub yn cynorthwyo prosiectau sy'n cefnogi anghenion cymunedau lleol drwy ddefnyddio tafarndai i gynnig gwasanaeth newydd neu i gynnig gwasanaeth sydd eisoes wedi'i golli, megis siop leol, llyfrgell, swyddfa bost neu ganolfan gymunedol, neu’n annog tafarndai i...
Mae'r DU wedi cyhoeddi mesurau newydd i gefnogi'r Wcráin yn ei gwrthdaro â Rwsia drwy ddileu'r holl dariffau a gwmpesir gan fargen fasnach bresennol y DU-Wcráin. Mae'r mesurau'n cynnwys: Y DU i dorri tariffau ar yr holl nwyddau o'r Wcráin i sero o dan gytundeb masnach rydd y DU-Wcráin, gan ddarparu cymorth economaidd y mae ei angen yn fawr. Gwaharddiad allforio newydd ar gynhyrchion a thechnoleg y gallai Rwsia eu defnyddio i drechu pobl yr...
Mae llywodraeth y DU wedi cyhoeddi y bydd cyfraith newydd sy'n helpu cwmnïau'r DU i fasnachu a chynnal amddiffyniadau cryf i ddefnyddwyr yn dod i rym ar 1 Mehefin 2022. Ar hyn o bryd, mae'r DU wedi cadw rheolau'r UE sy'n eithrio busnesau o gyfraith cystadleuaeth mewn rhai amgylchiadau. Mae llywodraeth y DU wedi derbyn cyngor arbenigol gan Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd y DU, a argymhellodd eithriad newydd, pwrpasol i gyfraith cystadleuaeth ar gyfer y...

Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.