BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

news and blogs Archives

771 canlyniadau

Mae mentrau cymdeithasol yn fusnesau sy'n creu newid cymdeithasol neu amgylcheddol cadarnhaol. Maent yn creu cyfleoedd cyflogaeth ac yn ailfuddsoddi eu helw yn ôl yn eu busnes neu'r gymuned leol, ac yma yn y DU maent yn cyfrannu dros £60 biliwn bob blwyddyn i economi'r DU. Drwy ddechrau menter gymdeithasol, byddwch yn ymuno â mudiad, sydd eisoes yn fawr, o bobl sy'n tarfu ar fodelau busnes traddodiadol, gan ddangos bod ffordd decach, wyrddach a mwy...
Ffurflen Cais Sengl 2022 Mae Ffurflen Cais Sengl (SAF) 2022 bellach ar gael. Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno'ch SAF yw hanner nos 16 Mai 2022, neu erbyn 10 Mehefin 2022 gyda chosbau hwyr. Ni ellir cyflwyno na derbyn SAF ar ôl 10 Mehefin 2022. Ceir canllawiau a gwybodaeth ar LLYW.CYMRU Ni all Taliadau Gwledig Cymru (RPW) gynnig apwyntiadau 'Cymorth Digidol'. Defnyddiwch y canllaw i gwblhau eich SAF ar-lein cyn gynted â phosibl. Canllawiau Trosglwyddo...
Mae’r Prif Weinidog Mark Drakeford wedi cadarnhau y bydd y gofyniad cyfreithiol i wisgo gorchuddion wyneb mewn lleoliadau iechyd a gofal yn parhau. Daw sylwadau’r Prif Weinidog ar ôl i Lywodraeth Cymru gynnal yr adolygiad tair wythnos diweddaraf o’r rheoliadau coronafeirws. Dywedodd bod y sefyllfa iechyd y cyhoedd yn gwella yn dilyn brig diweddar mewn achosion a achoswyd gan is-deip BA.2 omicron. Ond mae cyfraddau achosion Covid yn parhau i fod yn uchel, felly bydd...
Gyda mwy a mwy o ymwelwyr yn dod i Gymru, mae angen mwy o staff ar y sector twristiaeth a lletygarwch. Mae ystod enfawr o swyddi ar gael, o weithio mewn bwytai a bariau ar y traeth, i westai pum seren a chyrchfannau ymwelwyr. Os ydych chi’n meddwl bod swydd ym maes twristiaeth a lletygarwch yn addas i chi, boed hynny ddim ond am yr haf neu’n rhan o’ch cynlluniau gyrfa hirdymor, mae rhai pethau...
Bydd busnesau sy’n defnyddio llawer o ynni, fel gweithgynhyrchwyr dur a phapur, yn cael cymorth pellach ar gyfer costau trydan gan fod Llywodraeth y DU wedi cadarnhau manylion cynllun iawndal y Diwydiannau Ynni Dwys. Bydd y cynllun yn cael ei ymestyn am 3 blynedd arall a bydd ei gyllideb dros ddwywaith y cyfanswm presennol. Mae'r cynllun yn rhoi rhyddhad i fusnesau ar gyfer costau Cynllun Masnachu Allyriadau'r DU (ETS) a mecanwaith Cymorth Prisiau Carbon yn...
Os bydd gweithiwr yn dod yn rhiant neu'n mynd yn sâl, darganfyddwch ba daliadau y mae ganddynt hawl iddynt drwy ymuno â'r gweminarau byw canlynol gan CThEM. Gallwch ofyn cwestiynau trwy ddefnyddio'r blwch testun ar y sgrin. Tâl Mamolaeth a Thadolaeth Statudol Mae'r weminar hon yn ymdrin â'r amodau y mae angen i'ch gweithiwr eu bodloni, faint y mae ganddynt hawl i'w gael, hawlio rhywfaint neu'r cyfan o'r hyn rydych yn ei dalu, a chadw...
“Unigrwydd” yw thema Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl eleni. Mae unigrwydd yn effeithio ar filiynau o bobl yn y DU bob blwyddyn ac yn cael effaith enfawr ar ein hiechyd meddwl yn ystod y pandemig. Cynhelir yr wythnos rhwng dydd Llun 9 Mai a dydd Sul 15 Mai 2022 a bydd yn codi ymwybyddiaeth o effaith unigrwydd ar ein lles meddyliol, ynghyd â’r camau ymarferol y gallwn eu cymryd i fynd i’r afael â’r mater. Am...
Lesley Griffiths AS, Y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru a’r Trefnydd datganiad ysgrifenedig. Yn gynharach y mis hwn, llofnodais Orchymyn Cyflogau Amaethyddol 2022. Mae'r Gorchymyn yn gwneud rhai newidiadau sylweddol i'r fframwaith Isafswm Cyflog Amaethyddol. Mae'r newidiadau hyn yn seiliedig ar argymhellion Panel Cynghori Amaethyddol Cymru i symleiddio a moderneiddio'r Gorchymyn, ac maent yn cynnwys: strwythur graddio a disgrifiadau graddau newydd; newidiadau i'r cyfraddau cyflog a lwfansau isaf; dileu'r Rhestrau cymwysterau sydd wedi dyddio...
Mae pecynnau adnewyddu blynyddol yn cael eu hanfon allan gan Gyllid a Thollau EM (CThEM). Bydd y pecynnau'n cael eu hanfon allan hyd at 27 Mai 2022, ac mae gan gwsmeriaid tan 31 Gorffennaf 2022 i wirio bod eu manylion yn gywir a diweddaru Cyllid a Thollau EM os bu newid yn eu hamgylchiadau. Mae credydau treth yn helpu teuluoedd sy'n gweithio gyda chymorth ariannol wedi'i dargedu, felly mae'n bwysig nad yw pobl yn colli...
Mae Llywodraeth Cymru wedi penodi Wavehill i gynnal ymarfer mapio ar gyfer y sector Gweithgynhyrchu yng Nghymru. Bydd y gwaith hwn yn helpu Llywodraeth Cymru i ddeall iechyd ac anghenion y sector yn well, ac yn llywio cymorth yn y dyfodol. Bydd y gwerthusiad hefyd yn helpu i gyflawni pwyntiau gweithredu penodol a amlinellir yn y Cynllun Gweithredu Gweithgynhyrchu (MAP) sy'n anelu at sicrhau y gall y sector gweithgynhyrchu helpu i gefnogi economi ffyniannus, economi...

Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.