BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

news and blogs Archives

801 canlyniadau

Mae Lynne Neagle AS, y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant yn annog teuluoedd cymwys i ymuno â’r cynllun Cychwyn Iach i’w galluogi i gael bwyd iach a fitaminau am ddim. Gall teuluoedd gael cerdyn wedi’i ragdalu, yr ychwanegir credyd iddo bob pedair wythnos, i brynu bwyd iach – ffrwythau, llysiau, codlysiau, llaeth a fformiwla babanod. Gallant hefyd gael fitaminau Cychwyn Iach am ddim. Ar hyn o bryd, nid yw bron i 40% o bobl...
Mae cystadleuaeth grant newydd gan Lywodraeth y DU yn cael ei lansio i hybu twf busnesau technoleg arloesol newydd a’r rhai sy’n tyfu ym mhob cwr o'r wlad. Bydd y Grant Twf Digidol gwerth £12.09 miliwn yn canolbwyntio ar agor mynediad at hyfforddiant a chyngor ar sgiliau, a darparu gwasanaethau cymorth i'r sector digidol a thechnoleg dros ddwy flynedd. Mae gwella rhwydweithiau cymorth rhanbarthol ar gyfer busnesau newydd a busnesau sy’n tyfu yn ffocws allweddol...
Cynhelir Prif Ddigwyddiad Caffael Sector Cyhoeddus Cymru ar 8 Tachwedd 2022. Gan gysylltu prynwyr a chyflenwyr ar draws y gadwyn gyflenwi caffael, bydd Procurex Cymru yn darparu cyfoeth o gyfleoedd datblygu sgiliau, rhwydweithio, cydweithio ac arddangos cynnyrch i sefydliadau sy’n gweithio’n frwd gyda’r sector cyhoeddus, neu sy’n chwilio am ffyrdd o weithio ar draws marchnad gaffael Cymru a thu hwnt. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i wefan Procurex.
Eleni, mae Cymru'n dathlu 10 mlynedd ers agor ei llwybr arfordirol 870 milltir yn swyddogol – y cyntaf o'i fath yn y byd. I nodi'r achlysur, mae Llwybr Arfordir Cymru wedi ymuno â Cadw – i ddod â chyfres o 20 o deithiau cerdded i chi ddarganfod treftadaeth Cymru ar hyd y llwybr eiconig. Mae’r teithiau, sy’n addas ar gyfer pobl o bob oed a gallu, yn amlinellu'r llwybrau gorau i ddarganfod 16 o gestyll...
Mae’r Prif Weinidog Mark Drakeford wedi dweud ei bod yn bwysig parhau i wneud y pethau syml i ddiogelu iechyd y cyhoedd i reoli lledaeniad y coronafeirws. Soniodd am bum peth hawdd y gallwn ni i gyd eu gwneud, gan gynnwys aros gartref os oes gennym symptomau’r coronafeirws. Daw ei sylwadau ar ôl i Lywodraeth Cymru gynnal yr adolygiad tair wythnos diweddaraf o’r rheoliadau coronafeirws. Bydd y gofyniad cyfreithiol i wisgo gorchudd wyneb mewn lleoliadau...
Os ydych chi'n fusnes bach i ganolig newydd sy'n gwerthu cynnyrch ffisegol arloesol i ddefnyddwyr, gwnewch gais heddiw am Wobrau Arloesedd Amazon Launchpad am gyfle i ennill €100,000 a mwy. Gwiriwch fod pob un o'r canlynol yn wir am eich busnes. Os felly, llongyfarchiadau – rydych yn gymwys i wneud cais! Rydych chi'n fusnes sydd wedi’i gofrestru mewn gwlad AEE (Ardal Economaidd Ewropeaidd), y DU neu'r Swistir. Rydych chi'n gwerthu cynnyrch ffisegol i ddefnyddwyr, nid...
Mae tystiolaeth yn dangos bod diwylliant diogelwch cryf wedi’i gysylltu â llai o achosion o anafiadau a damweiniau bu bron iddynt ddigwydd yn y gweithle. Mae'r Offeryn Hinsawdd Diogelwch (SCT) wedi'i gynllunio'n ofalus gan wyddonwyr i asesu agweddau unigolion o fewn sefydliad tuag at faterion iechyd a diogelwch. Gan ddefnyddio holiadur ar-lein syml, mae'n archwilio agweddau a chanfyddiadau eich gweithwyr mewn meysydd allweddol o iechyd a diogelwch, tra'n gwarantu anhysbysrwydd. Gallwch hefyd wylio fideo SCT...
O dan gynllun newydd, gall busnesau sy'n cyflogi cyn-filwyr arbed miloedd o bunnoedd mewn cyfraniadau Yswiriant Gwladol cyflogeion. O 6 Ebrill 2022, nid oes rhaid i gyflogwyr dalu cyfraniadau Yswiriant Gwladol i gyn-filwyr yn eu blwyddyn gyntaf o gyflogaeth sifil ar ôl gadael y lluoedd arfog. Gall busnesau hefyd hawlio'r rhyddhad hwn yn ôl-weithredol ar gyfer unrhyw weithwyr cymwys a gyflogwyd ganddynt yn ystod y 12 mis diwethaf. Mae'r rhyddhad ar gael i bob cyflogwr...
I gefnogi'r Strategaeth Diogelwch Ynni, mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi pecyn cymorth gwerth £375 miliwn ar gyfer technolegau ynni arloesol. Mae'r cyllid yn cynnwys £240 miliwn i gefnogi cynhyrchu hydrogen fel tanwydd glân, cost isel i ddiwydiant, £2.5 miliwn i ddatblygu technoleg niwclear y genhedlaeth nesaf, a £5 miliwn arall tuag at ymchwil i ddal carbon. Bydd y buddsoddiad hwn yn cefnogi ymchwil, datblygu a defnyddio'r technolegau hyn ac yn lleihau dibyniaeth ar danwydd...
Mae Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi (CThEM) yn ysgrifennu at fusnesau i ddweud wrthynt am newid i’r systemau tollau yn y DU. Mae'r llythyr yn cynnwys gwybodaeth am y gwaith sydd ar y gweill i symud i un platfform tollau yn y DU - y Gwasanaeth Datganiadau Tollau - ac mae’n amlinellu’r hyn sydd angen i fusnesau ei wneud i baratoi ar gyfer y newid, a pha gymorth a chyfarwyddyd sydd ar gael i’w cynorthwyo...

Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.