BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

news and blogs Archives

821 canlyniadau

Mae'r Gweinidog Materion Gwledig, Lesley Griffiths, wedi cyhoeddi bod Llywodraeth Cymru yn darparu £227 miliwn dros y tair blynedd nesaf er mwyn helpu i sicrhau bod economi wledig Cymru a'n hamgylchedd naturiol yn parhau’n gryf ac yn gydnerth. Mae'r dyraniad cyllid hwn yn ymateb i ddiwedd Rhaglen Datblygu Gwledig (RhDG) yr UE, a fydd yn cau yn 2023. Bydd yn sicrhau cysondeb o ran cefnogaeth ar gyfer camau gweithredu pwysig a gyllidwyd yn flaenorol o...
Mae Cymru – sy’n drydydd yn y byd am ailgylchu domestig – wedi ymuno â gwledydd eraill y DU i gyflwyno rheolau ‘y llygrwr sy’n talu’ newydd i wneud i fusnesau sy’n gosod nwyddau wedi’u pecynnu ar y farchnad dalu am ailgylchu eu gwastraff. Ond mae Cymru, ochr yn ochr â’r Alban, yn mynd un cam ymhellach drwy ymrwymo i sicrhau bod cwmnïau sy’n gyfrifol am yr eitemau sbwriel mwyaf cyffredin sy’n anharddu strydoedd, cymunedau...
Bydd Gwobrau AD Cymru yn dathlu timau mewnol, ymgynghorwyr ac arbenigwyr diwydiant AD gorau Cymru am eu cyfraniad anhygoel at AD. Byddant hefyd yn dathlu arwyr tawel Cymru sy’n gweithio yn y cefndir i gefnogi busnesau a sefydliadau o bob maint dros y deuddeg mis diwethaf. Mae categorïau eleni yn cynnwys: Ysbrydoli Arweinyddiaeth Wych Tîm y Flwyddyn yn y sector cyhoeddus Menter AD Orau Prentis Gorau’r Flwyddyn Y Gymraeg Gweithiwr AD Proffesiynol Gorau Cyfarwyddwr AD...
Mae Llywodraeth Cymru yn gwahodd sylwadau ar gynigion ar gyfer deddfwriaeth bysiau newydd. Mae'r papur gwyn hwn yn amlinellu cynigion ar gyfer gwasanaethau bysiau trafnidiaeth gyhoeddus er mwyn cynllunio a datblygu'r rhwydwaith bysiau yn well, sicrhau ei fod yn diwallu anghenion y cyhoedd, sicrhau’r gwerth mwyaf posibl am ein buddsoddiadau mewn gwasanaethau bysiau a thorri ein dibyniaeth ar geir preifat. Mae'r papur gwyn yn cynnig: gwneud masnachfreinio gwasanaethau bysiau yn ofynnol ledled Cymru caniatáu i...
Mae meddylfryd newydd yn elfen allweddol o lywio syniadau newydd ac arloesi. Cofiwch, mae'n hanfodol ein bod ni'n cynnal mantais gystadleuol drwy archwilio’n barhaus ffyrdd newydd o wneud pethau. Er mwyn osgoi mynd i rigol bersonol, edrychwch ar bethau o onglau gwahanol yn rheolaidd. Dyma rai syniadau ar sut i arfer meddylfryd newydd. Meddyliwch am bethau yn eich bywyd neu'ch gyrfa y credwch sydd angen eu newid – ydych chi’n colli’ch sglein? Nodwch y pethau...
Mae Gwobrau Merched Cymru Mewn Busnes 2022 yn agored i unrhyw ferch sy'n rhedeg busnes yma yng Nghymru. Tydy maint ddim o bwys i ni! Gallwch chi fod yn fand un ferch neu'n sylfaenydd benywaidd cwmni enfawr. Efallai eich bod chi'n fusnes newydd fel ni, neu efallai bod eich busnes wedi bod o gwmpas ers hanner canrif - rydych chi i gyd yr un mor anhygoel! Mae gennym 16 categori i adlewyrchu'r amrywiaeth o fusnesau...
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi cyfarwyddyd yn amlinellu’r hyn sydd angen i chi ei wybod am gyflwyno safleoedd rheoli ffiniau ym Mhorthladdoedd Cymru. Mae’r cyfarwyddyd hefyd yn rhoi trosolwg o’r gofynion ar ôl ymadael â’r UE ar gyfer archwilio nwyddau ar y ffin sy’n symud rhwng yr Undeb Ewropeaidd (UE) a’r Deyrnas Unedig (DU). Mae safleoedd rheoli ffiniau eisoes yn bodoli mewn meysydd awyr a phorthladdoedd sydd wedi bod yn mewnforio o wledydd y tu...
Yn dathlu Gweithwyr Technoleg Ariannol Proffesiynol Cymru, cynhelir Gwobrau FinTech Cymru ar 16 Medi 2022 yn Tramshed, Caerdydd a gellir rhoi cynnig arni ac enwebu nawr. A hithau’n wlad dechnoleg sy’n datblygu, mae gan Gymru’r economi ddigidol sy’n tyfu gyflymaf y tu allan i Lundain a gyda thwf cadarn yn y sector ariannol a phroffesiynol yng Nghymru, mae’r llwyfan wedi’i osod i gefnogi chwyldro digidol y wlad. Mae gan Wobrau FinTech Cymru y gwobrau canlynol...
Heddiw, cyhoeddodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething, y bydd dros £13 miliwn yn helpu Undebau Llafur i ddarparu atebion sgiliau a chymorth dysgu i weithwyr dros y tair blynedd nesaf. Mae rhaglen Cronfa Ddysgu Undebau Cymru (WULF) a rhaglen Addysg Undebau Llafur TUC Cymru yn cefnogi Undebau Llafur yng Nghymru i ddatblygu sgiliau hanfodol a chyflogadwyedd y gweithlu, gyda phwyslais arbennig ar ddileu rhwystrau i ddysgwyr traddodiadol nad ydynt yn ddysgwyr. Bydd cam nesaf y...
Bydd Troi Treth yn Ddigidol (MTD) yn orfodol i fusnesau sydd wedi'u cofrestru ar gyfer TAW o 1 Ebrill 2022. Mae MTD yn helpu trethdalwyr i gael eu ffurflenni treth yn iawn drwy leihau camgymeriadau cyffredin, yn ogystal ag arbed amser wrth reoli eu materion treth, ac mae'n rhan allweddol o'r broses gyffredinol o ddigidoleiddio treth y DU. Dylai busnesau sydd wedi'u cofrestru ar gyfer TAW nad ydynt eto wedi cofrestru ar gyfer MTD ar...

Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.