BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

news and blogs Archives

901 canlyniadau

Gallai’r rhaglen Cyber Security Academic Startup Accelerator Programme ( CyberASAP) fod yn llwybr effeithiol i’ch helpu i ymchwilio i botensial y syniad o ran y farchnad. Dyma’r unig raglen garlam cyn datblygu syniad yn ecosystem seiber y DU, ac mae’n cefnogi a galluogi academyddion i drawsnewid gwaith ymchwil gwych yn arloesedd seiber rhagorol. Gwnewch gais am hyd at £32,000 fesul prosiect er mwyn dod â’ch syniad seiberddiogelwch i’r farchnad. Bydd y gystadleuaeth yn cau am...
Pryderon ariannol yw’r achos mwyaf o straen i weithwyr ledled Cymru a’r DU ac maent yn niweidiol i fusnes hefyd. Mae pobl yn mynd â'u pryderon ariannol i'r gwaith, gan effeithio ar eu perfformiad a lefelau absenoldeb salwch. Mae’r pandemig a’r cynnydd diweddar mewn costau ynni wedi dangos ei bod yn bwysicach nag erioed i sefydliadau gefnogi eu gweithwyr i adeiladu eu lles ariannol. Gwyddom hefyd fod y pandemig wedi golygu heriau sylweddol i lawer...
Mae Llywodraeth Cymru wedi diddymu’r gofyn i ddangos pas COVID i fynd i rai digwyddiadau yng Nghymru, meddai Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon, Dawn Bowden. Hynny wrth i Lywodraeth Cymru barhau i godi rhai o’r cyfyngiadau covid ac i achosion barhau i ostwng. O heddiw 18 Chwefror 2022, ni fydd angen y Pas COVID domestig arnoch i fynd i ddigwyddiadau a lleoliadau dan do ac awyr agored mwyach, gan gynnwys clybiau nos, sinemâu, theatrau...
Ymgynghoriad ar ddarparu labelu alergenau rhagofalus a gwybodaeth ragofalus am alergenau, fel ‘gallai gynnwys’, ar lawer o fathau o fwyd a werthir yng Nghymru, Gogledd Iwerddon a Lloegr. Bydd yr ymgynghoriad hwn o ddiddordeb i'r canlynol: busnesau bwyd sefydliadau, er enghraifft, ysbytai, ysgolion cynhyrchwyr cynradd cwmnïau trafnidiaeth cyrff masnach timoedd diogelwch bwyd awdurdodau lleol gweithwyr gofal iechyd proffesiynol gwyddonwyr ac academyddion sefydliadau sy'n cefnogi pobl sydd â gorsensitifrwydd i fwyd defnyddwyr sydd â gorsensitifrwydd i...
Gall arloesi a phreifatrwydd weithio law yn llaw ac yn wir, fe ddylent wneud hynny. Mae Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth am weld busnesau arloesol yn ffynnu a thyfu, ac am gefnogi busnesau i ddod â chynhyrchion sy’n parchu preifatrwydd ar y farchnad, tra’n diogelu data personol y cyhoedd. Os ydych chi’n sefydliad technoleg ariannol bach sydd newydd ddechrau neu’n sefydliad mawr yn y sector cyhoeddus sy’n defnyddio data personol i wella canlyniadau iechyd, os ydych chi’n...
Yn dilyn llwyddiant y digwyddiad Ras i Sero, Ewrop – Countdown i COP26 a gynhaliwyd ym mis Hydref 2021, mae cyfle nawr i fusnesau ymuno â gweithdy unigryw yn archwilio sut y gall busnesau gyflawni'r uchelgais sero-net drwy lens 2030 Breakthroughs yr Hyrwyddwyr Hinsawdd a'r Glasgow Breakthroughs, a lansiwyd yn COP26. Bydd y gweithdy'n dwyn ynghyd fusnesau bach a chanolig a busnesau mwy, gydag arbenigwyr o blith cynghorwyr polisi, ymchwilwyr a swyddogion cyrff anllywodraethol, i...
Cymru heddiw (15 Chwefror 2022) yw’r wlad gyntaf yn y DU i fynnu bod System Monitro Cychod (VMS) yn cael ei gosod ar ei holl gychod pysgota masnachol trwyddedig. Mae eisoes gofyn ar bysgotwyr i osod dyfais o’r fath ar gychod 12 metr a mwy ond mae Gorchymyn yn dod i rym heddiw (15 Chwefror 2022) sy’n golygu bod cychod llai, mwy na 350 ohonyn nhw, yn gosod dyfais o’r fath. Cychod o dan 12...
Mae gwobrau Ysbrydoli! yn dathlu dysgu a sgiliau. Mae Ysbrydoli, sy’n rhan o’r Sefydliad Dysgu a Gwaith, yn chwilio am unigolion, prosiectau cymunedol a sefydliadau sydd wedi elwa yn sgil cyflawniadau dysgu. Mae’r gwobrau yn chwilio am enwebiadau sydd wedi cael profiad cadarnhaol o addysg oedolion – y rhai sydd wedi gwella eu bywydau eu hunain ynghyd â’r bobl o’u cwmpas ledled Cymru, gan arddangos sut gall dysgu gydol oes drawsnewid bywydau. Dyma’r categorïau eleni...
Pa un a ydych chi’n fusnes bach, canolig neu fawr, gall y tywydd effeithio arnoch chi mewn unrhyw le ac ar unrhyw adeg. Mae treulio amser yn cynllunio ac yn paratoi’ch busnes yn gallu arbed amser ac arian i chi pan fydd rhywbeth yn mynd o'i le. Gall pob busnes gymryd camau syml i wneud yn siŵr eu bod yn barod am dywydd gwael. Er enghraifft: cofrestru i gael rhybuddion o lifogydd gosod systemau diogelu...
Mae’r Ymddiriedolaeth Garbon wedi llunio canllawiau sy’n cynnig llwybr i fusnesau bach a chanolig (BBaChau) i sero net. Mae’n cyflwyno’r opsiynau syml sydd ar gael i BBaChau sy’n dechrau ar eu taith sero net ac yn tynnu sylw at yr heriau yn yr hirdymor. Mae’r canllawiau’n cynnwys: Beth mae sero net yn ei olygu? Beth yw ôl-troed carbon? Beth sy’n sbarduno cyflawni sero net? Cyfleoedd i leihau carbon ar gyfer BBaChau. Gwrthbwyso carbon a chael...

Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.