BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

news and blogs Archives

921 canlyniadau

Bydd degau o filoedd o staff gofal cymdeithasol a fydd yn gymwys i gael cyflog byw gwirioneddol o fis Ebrill yn cael taliad net ychwanegol o £1,000 wrth i Lywodraeth Cymru fuddsoddi yn y sector. Bydd y taliad ychwanegol, a fydd yn cael ei roi ar yr un adeg â chyflwyno’r cyflog byw gwirioneddol, yn £1,498 cyn didyniadau treth ac yswiriant gwladol. Gall gweithwyr gofal sy’n talu treth incwm ar y gyflog sylfaenol ddisgwyl cael...
Ymunwch â Busnes Cymdeithasol Cymru i ddysgu mwy am Berchnogaeth Gweithwyr yn eu gweminar am ddim ar 17 Chwefror 2022 rhwng 2pm a 3pm. Os ydych chi am werthu’ch busnes neu am ddatblygu’ch busnes a gwobrwyo a chadw staff, mae Perchnogaeth Gweithwyr yn opsiwn arloesol â manteision masnachol profedig. Dyma’r math o berchnogaeth busnes sy’n tyfu gyflymaf yn y DU bellach. Gall Perchnogaeth Gweithwyr fod yn fuddiol iawn os ydych chi’n: ystyried ymddeol o fusnes...
Cynhelir Sioe Frenhinol Cymru 2022 rhwng 18 Gorffennaf a 21 Gorffennaf. Yn ogystal â phedwar diwrnod cyffrous o gystadlaethau dangos da byw, â chystadleuwyr yn teithio o fannau pell ac agos i gystadlu, mae gan y sioe rywbeth o ddiddordeb i bawb, diolch i’w hamrywiaeth eang o weithgareddau yn cynnwys coedwigaeth, garddwriaeth, crefftau, chwaraeon cefn gwlad, siopa, bwyd a diod, a rhaglen 12 awr bob dydd o adloniant, atyniadau ac arddangosiadau cyffrous. Mae Sioe Frenhinol...
Diben cronfa’r Pethau Pwysig yw darparu cyfalaf ar gyfer cyflawni gwelliannau sylfaenol ar raddfa fach i seilwaith twristiaeth ledled Cymru er mwyn sicrhau bod pob ymwelydd yn cael profiad cadarnhaol a chofiadwy trwy gydol eu harhosiad. Bydd cronfa y Pethau Pwysig 2022-23 yn rhoi blaenoriaeth i fuddsoddiadau strategol mewn cyrchfannau twristiaeth allweddol a bydd felly’n agored i Awdurdodau Lleol ac Awdurdodau’r Parciau Cenedlaethol yn unig. Mae ffurflenni Datgan Diddordeb bellach ar gael. Y dyddiad cau...
Mae cyfreithiau ysmygu newydd yn cael eu cyflwyno yng Nghymru sy’n effeithio ar y diwydiant twristiaeth. O 1 Mawrth 2022, mae’n rhaid i bob gwesty, tŷ llety, tafarn, hostel a chlybiau aelodau fod yn ddi-fwg a ni fyddant bellach yn gallu cynnig ystafelloedd gwely lle ceir ysmygu. Bydd pob llety gwesty a dros dro hunangynhaliol, fel bythynnod, carafanau, chalets a mathau eraill o lety gosod tymor byr, yn ddi-fwg. Felly, dylai perchnogion fod wedi paratoi...
Fel rhan o Caru Cymru, mae Ardaloedd Di-sbwriel wedi’i lansio, sef cynllun newydd i annog busnesau i gadw eu cymunedau yn ddi-sbwriel. Gofynnir i fusnesau ledled Cymru fabwysiadu ardaloedd penodol i’w glanhau yn rheolaidd a’r gobaith yw y bydd busnesau bach a mawr o bob math yn cymryd rhan, o siopau pentref a swyddfeydd preifat i archfarchnadoedd a stadau diwydiannol. Am ragor o wybodaeth, ewch i Ardaloedd Di-sbwriel - Cadwch Gymru'n Daclus - Caru Cymru
Mae ceisiadau bellach ar agor ar gyfer Gwobrau Bwyd a Diod Cymru 2022, a gynhelir yng Nghaerdydd ar 13 Mai 2022. Bydd y gwobrau cenedlaethol yn darparu llwyfan i ddathlu cynhyrchwyr a chyflenwyr o Gymru. Byddant yn amlygu amrywiaeth y sector, ac yn tynnu sylw at fusnesau llwyddiannus sy'n tyfu, yn creu cyflogaeth ac yn llwyddo i ysbrydoli eraill. Dyma'r categorïau eleni: Busnes Newydd y Flwyddyn Entrepreneur y Flwyddyn Allforiwr y Flwyddyn Prentis y Flwyddyn...
Bydd Wythnos Cymru yn Llundain yn cael ei chynnal yn ystod wythnos Dydd Gŵyl Dewi yn Llundain. Digwyddiad blynyddol yw hwn, lle cynhelir gweithgareddau a digwyddiadau i ddathlu a hybu popeth sy’n wych am Gymru. Mae calendr o ddigwyddiadau wedi’i drefnu rhwng 20 Chwefror a 6 Mawrth 2022, gyda chyfleoedd gwych ar gyfer arddangoswyr a noddwyr. Mae rhagor o fanylion ar gael ar wefan Wythnos Cymru yn Llundain
Mae adolygiad technegol manwl wedi’i gwblhau o’r cynllun Cyber Essentials, a fydd yn helpu sefydliadau i sicrhau bod data pwysig yn cael ei drin yn ddiogel a bod eu rhwydweithiau yn ddiogel hefyd. Mae’r cynllun Cyber Essentials yn cael ei ddatblygu gan y Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol – rhan o GCHQ – a’i gyflwyno gan IASME. Mae’n gynllun ardystio sy’n cynorthwyo sefydliadau o bob maint i’w diogelu eu hunain yn erbyn bygythiadau ar-lein a dangos ymrwymiad...
Mae Vaughan Gething, Gweinidog yr Economi, wedi cyhoeddi ar ddechrau Wythnos Prentisiaethau Cymru 2022 y bydd Llywodraeth Cymru’n buddsoddi £366 miliwn dros y tair blynedd nesaf i ddarparu 125,000 o brentisiaethau pob oed ledled Cymru yn ystod tymor y llywodraeth hon. Dywedodd y Gweinidog y bydd y buddsoddiad mawr hwn yn helpu i gefnogi ymrwymiad Llywodraeth Cymru i sicrhau bod o leiaf 90% o bobl ifanc 16 i 24 oed yng Nghymru mewn addysg, cyflogaeth...

Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.