Oeddech chi'n gwybod bod y flwyddyn nesaf yn nodi 30 mlynedd ers sefydlu'r Marc Masnach Deg yn y DU? Trwy gydol 2024, bydd llawer o ffyrdd i ddathlu'r garreg filltir bwysig hon. Ac i ysgwyd pethau i fyny ychydig, mae Pythefnos Masnach Deg yn symud! Yn 2024, cynhelir Pythefnos Masnach Deg rhwng 9 a 22 Medi 2024, bydd symud i fis Medi yn newid parhaol. Bydd y cam hwn yn rhoi mwy o amser i...
news and blogs Archives
11 canlyniad
Mae Dydd Sadwrn y Busnesau Bach (SBS) eleni, diwrnod lle caiff siopwyr eu hannog i wario gyda chwmnïau lleol, ar 2 Rhagfyr 2023. Anogir pob mathau o fusnesau bach i gymryd rhan, felly p’un ai ydych chi’n fusnes teuluol, yn siop leol, yn fusnes ar-lein, yn gyfanwerthwr, yn wasanaeth busnes neu’n gwmni gweithgynhyrchu bach, cofiwch fod Dydd Sadwrn y Busnesau Bach yn eich cefnogi! I gael rhagor o wybodaeth, ewch i wefan Dydd Sadwrn y...
Diwrnod Rhuban Gwyn yw'r diwrnod a gydnabyddir yn rhyngwladol lle mae dynion yn dangos eu hymrwymiad blwyddyn o hyd i roi terfyn ar drais yn erbyn menywod a merched, ac fe’i gynhelir ar 25 Tachwedd 2023. Nid yw newid diwylliant yn digwydd dros nos, ond gallwn roi terfyn ar drais yn erbyn menywod a merched yn ystod ein hoes. Eleni, mae Diwrnod Rhuban Gwyn yn annog unigolion a sefydliadau i wneud dewisiadau a chymryd camau...
Cynhelir Diwrnod Rhyngwladol y Dynion yn y DU ar 19 Tachwedd bob blwyddyn (dydd Sul yn 2023). Mae llawer o sefydliadau a phobl yn cynnal digwyddiadau a gweithgareddau yn ystod yr wythnos flaenorol a'r wythnos ganlynol, yn enwedig os yw'n disgyn ar benwythnos, fel eleni. Gwiriwch y calendar digwyddiadau, tudalen themau a’r dudalen syniadau. Yn ystod mis Tachwedd, cynhelir dadleuon Seneddol, lansio polisïau, diwrnodau cyflogwyr (Perffaith ar gyfer arddangos Cydraddoldeb Amrywiaeth Cynhwysiant), digwyddiadau cymunedol, diwrnodau...
Ydych chi’n fusnes gwyrdd newydd neu’n eco-entrepreneur gyda syniad ardderchog yn y sector economi gylchol a’r economi werdd? Mae Gwobr Green Alley yn chwilio am syniadau gwyrdd gwych, gwasanaethau, cynhyrchion a thechnolegau newydd a all droi gwastraff yn adnodd. Yn gyfnewid am hynny, maent yn cynnig cefnogaeth strategol, cyfleoedd rhwydweithio ac arbenigedd mewn ymuno â’r economi gylchol ledled Ewrop, a gwobr ariannol gwerth €25,000. Rhaid i fusnesau newydd sy’n gwneud cais ar gyfer y Green...
Cynhelir wythnos cyflog byw rhwng 6 Tachwedd a 12 Tachwedd 2023 a dyma ddathliad blynyddol y mudiad Cyflog Byw yn y DU. Y Cyflog Byw go iawn yw'r unig gyfradd gyflog yn y DU sy'n cael ei thalu'n wirfoddol gan dros 14,000 o fusnesau yn y DU sy'n credu bod eu staff yn haeddu cyflog sy'n bodloni anghenion bob dydd - fel y siopa wythnosol, neu daith annisgwyl i'r deintydd. Beth sy'n digwydd yn wythnos...
Mae’r cyflog byw yn dda i fusnes, yn dda i weithwyr ac yn dda i’r economi leol. Drwy dalu’r Cyflog Byw mae cyflogwyr yn cymryd cam gwirfoddol i sicrhau bod eu cyflogai yn gallu ennill cyflog y mae modd iddynt fyw arno. Golyga hyn eu bod yn gallu cyfranogi at gymdeithas, gan ennill digon o arian i fyw, yn hytrach na dim ond crafu byw. Yn ogystal â bod y peth iawn i’w wneud, mae...
Cafodd y Diwrnod Mentora Cenedlaethol ei sefydlu er mwyn cydnabod manteision sylweddol mentora ar draws y DU ac mae’n cael ei gynnal ar 27 Hydref bob blwyddyn. Mae mentora yn golygu bod un person yn rhoi cymorth i’r llall, a gall wneud gwahaniaeth sylweddol i wybodaeth, gwaith, a ffordd o feddwl y sawl sy’n cael ei fentora. Mae pawb - unigolion, cwmnïau, ysgolion, cymunedau, prifysgolion a llywodraethau, yn cael eu hannog i rannu eu straeon...
Bydd Diwrnod Gwisgo Coch blynyddol Dangos y Cerdyn Coch i Hiliaeth yn cael ei gynnal ddydd Gwener, 20 Hydref 2023. Mae Diwrnod Gwisgo Coch yn ddiwrnod cenedlaethol o weithredu sy'n annog ysgolion, busnesau ac unigolion i wisgo coch a rhoi arian i helpu i hwyluso darparu addysg wrth-hiliaeth i bobl ifanc ac oedolion. Mae pob ceiniog a godir yn ystod Diwrnod Gwisgo Coch yn galluogi'r ymgyrch i weithio gyda mwy o bobl ifanc ac oedolion...
Mae tymor y Nadolig yn cael effaith fawr ar fwyafrif busnesau a gweithwyr y Deyrnas Unedig. Dyma amser pan fydd mwy o alw am gynnyrch a gwasanaethau a nwyddau i’w gwerthu mewn rhai busnesau. Mae eraill yn wynebu cyfnod tawel neu’n cau efallai dros y gwyliau. Eleni, mae Dydd Nadolig, 25 Rhagfyr 2023, ar ddydd Llun a Gŵyl San Steffan, 26 Rhagfyr 2023, ar dydd Mawrth. Bydd llawer o weithwyr yn gofyn am amser i...
Pagination
- Page 1
- Next page