news and blogs Archives
51 canlyniadau
Ydych chi'n fusnes deallusrwydd artiffisial newydd neu’n BBaCh sy'n ceisio datblygu atebion dysgu peirianyddol cyfrifol, cynyddol a dymunol? Bydd Rhaglen Cyflymydd BridgeAI FutureScope gan Digital Catapult yn eich cynorthwyo ar eich taith deallusrwydd artiffisial ac mae wedi cael ei chynllunio i gefnogi busnesau deallusrwydd artiffisial newydd, a BbaChau, i ddatblygu atebion dysgu peirianyddol a deallusrwydd artiffisial cyfrifol, dymunol a chynyddol. Mae'r rhaglen yn darparu mynediad at bŵer cyfrifiant, arbenigedd technegol a busnes, a chymorth sy'n...
Bydd busnesau ac elusennau'r DU yn elwa ar ganllaw rhyngweithiol am ddim i helpu eu staff i adnabod a mynd i'r afael â cham-drin economaidd wrth siarad â chwsmeriaid dros y ffôn. Mae cam-drin economaidd, y mae’r elusen trais domestig Refuge yn amcangyfrif bod 16% o oedolion yn y DU wedi'i brofi, yn digwydd pan fydd gallu unigolyn i gaffael, defnyddio a chynnal adnoddau economaidd yn cael ei dynnu ymaith gan rywun arall mewn ffordd...
Wedi’i ariannu gan Lywodraeth Cymru, datblygwyd y prosiect hwn gyda’r nod o gynyddu cynrychiolaeth ar Fyrddau a Phwyllgorau Cyhoeddus. Bydd dwy raglen yn benodol yn cefnogi pobl o gefndir ethnig lleiafrifol neu bobl ag anabledd, sydd â diddordeb mewn cael penodiad gyhoeddus: Rhaglen i Ddarpar Arweinwyr: Ar gyfer pobl o gefndir ethnig lleiafrifol neu bobl ag anabledd, sydd eisoes â rhywfaint o brofiad arwain (e.e. llywodraethwr ysgol) ac a hoffai ddod yn aelod bwrdd ar...
Mae’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE) wedi datblygu canllaw ar-lein newydd i’ch helpu i ganfod a deall yn gyflym yr hyn y mae’n rhaid i’ch busnes ei wneud i gydymffurfio â chyfraith iechyd a diogelwch. Bydd y canllaw gam wrth gam yn eich helpu i: ddeall beth mae rheoli iechyd a diogelwch yn ei olygu dod o hyd i’r canllawiau iawn i’ch gweithle defnyddio’r dull Cynllunio, Gwneud, Gwirio, Gweithredu i reoli iechyd a diogelwch...
Mae'r safon Pensiwn Byw yn adeiladu ar waith y Cyflog Byw gwirioneddol drwy ddarparu sefydlogrwydd a diogelwch i weithwyr nawr ac yn y dyfodol. Mae'n darged cynilo gwirfoddol i gyflogwyr, i helpu gweithwyr i adeiladu cronfa bensiwn a fydd yn darparu digon o incwm i ddiwallu anghenion dyddiol sylfaenol ar ôl ymddeol. Mae'n cael ei gyfrifo'n annibynnol yn seiliedig ar gost byw wirioneddol. Mae'r safon yn nodi'r cyfraniad blynyddol gofynnol sydd ei angen drwy fywyd...
Bydd Llywodraeth Cymru’n cyd-ariannu trydedd rownd fuddsoddi mewn arloesedd gwyrddach a glanach trwy’r Gronfa Trawsnewid Cerbydau Carbon Isel Ford fel rhan o’i hymateb i’r argyfwng hinsawdd, cyhoeddodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething, heddiw (12 Gorffennaf 2023). Cafodd y Gronfa sy’n cael ei gweinyddu gan Lywodraeth Cymru, ei sefydlu gan y Ford Motor Company yn 2020 i fynd i’r afael â’r heriau technegol diwydiannol strategol sy’n gysylltiedig â cherbydau carbon isel, gan gynnwys storio ynni trydanol...
Sut i wneud cais am gyllid diogelu i warchod eich man addoli yn erbyn troseddau casineb. Yn 2023 a 2024, mae’r Swyddfa Gartref yn parhau i ddarparu mesurau diogelwch amddiffynnol i fannau addoli yng Nghymru a Lloegr o dan ddau gynllun, sef: Cynllun Ariannu Diogelwch Amddiffynnol ar gyfer Mannau Addoli Cynllun Diogelwch Amddiffynnol ar gyfer Mosgiau Mae’r cynlluniau’n darparu cyllid ar gyfer mannau addoli a chanolfannau cymunedol sy’n gysylltiedig â ffydd, sy’n agored i droseddau...
Mae'r Farchnad;e Syniadau yn llwyfan cydweithio ar-lein sy'n cynnig cyfleoedd i sefydliadau amddiffyn a diogelwch arloesol rwydweithio a chydweithio â rhanddeiliaid llywodraeth y DU, defnyddwyr terfynol, arloeswyr, diwydiant a'r byd academaidd. Gellir defnyddio'r llwyfan i greu perthnasoedd newydd a meithrin cydweithrediad rhwng sefydliadau deinamig o bob lliw a llun. Mae'r llwyfan wedi cael ei gynllunio i alluogi cydweithredu ag arloeswyr eraill ledled y DU ac i helpu sefydliadau i ennill arbenigedd a chefnogaeth arbenigol i...
Peidiwch â chael eich dal allan – canllawiau SARs newydd i gyflogwyr Mae’r ICO wedi cyhoeddi canllawiau i gyflogwyr ar sut i ymateb i gais am fynediad at ddata gan y testun (SAR) gan gyflogai presennol neu gyn-gyflogai. Mae’r hawl mynediad yn caniatáu i rywun ofyn am gopi o’i wybodaeth bersonol gan sefydliadau, fel manylion ei gofnodion presenoldeb a salwch, datblygiad personol neu gofnodion Adnoddau Dynol. Y llynedd, gwnaed dros 15,000 o gwynion i’r ICO...
Mae ymgyrch i wneud tafarndai, bwytai a chaffis ledled y DU yn fwy dementia-gyfeillgar wedi cael ei lansio gan arbenigwyr o'r Alban sy'n ymchwilio i effaith heneiddio. Mae Canolfan Datblygu Gwasanaethau Dementia (DSDC) Prifysgol Stirling, sy'n enwog yn rhyngwladol, wedi datblygu cynllun ardystio a fydd yn annog perchnogion tafarndai a bwytai i wneud addasiadau i bobl â chyflyrau dirywiol sy'n gysylltiedig ag oedran. Er mwyn cefnogi hyn, mae DSDC wedi lansio offeryn newydd gydag arweiniad...
Pagination
- Previous page
- Page 5
- Next page