BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

news and blogs Archives

1341 canlyniadau

Heddiw (21 Chwefror 2022), bydd Llywodraeth Cymru yn lansio strategaeth newydd i sicrhau bod Cymru’n gweithredu ar flaen y gad yn y sector gofod byd-eang, gan helpu i greu swyddi o ansawdd uchel ar hyd a lled y wlad. Mae’r strategaeth yn tynnu sylw at yr amgylchedd ffisegol a busnes unigryw y mae Cymru’n ei gynnig i gwmnïau sy’n chwyldroi galluoedd yn y sector gofod. Mae hefyd yn nodi sut y gallai Cymru fod y...
Mae rhifyn mis Chwefror o’r Bwletin Cyflogwyr yn cynnwys holl ddiweddariadau a chanllawiau diweddaraf CThEM i gefnogi cyflogwyr, gweithwyr cyflogres proffesiynol ac asiantau. Mae’r rhifyn yn cynnwys diweddariadau pwysig ar: newidiadau i brosesau ein Llinell Gymorth i Gyflogwyr paratoi’ch Cyflwyniad Taliad Llawn neu Grynodeb Taliad Cyflogwr diwethaf adrodd ar dreuliau a buddion a grosio buddion a threuliau drwy’r gyflogres cofrestru ar gyfer Gwasanaeth Cymorth i Fasnachwyr paratoi ar gyfer Gwneud Treth yn Ddigidol ar gyfer...
Hawliau a rhyddid hanfodol yw hawliau dynol sydd yn ein diogelu ni oll. Seilir nhw ar urddas, tegwch, cydraddoldeb a pharch. Mae gan fusnesau effaith sylweddol ar ein bywyd a sut rydym yn mwynhau’r hawliau dynol hyn, boed fel cyflogai, cwsmer neu dim ond wrth fyw ochr yn ochr â chwmnïau sydd yn rhannu’n dinasoedd a’n trefi. Pan fydd pobl yn meddwl am gamdriniaethau hawliau dynol yn gysylltiedig â gweithgareddau busnes efallai byddan nhw’n meddwl...
Cynllun peilot yw’r Grant dechrau busnes carbon sero net sy’n cynnig cymorth ariannol a thechnegol i: Helpu egin fentrau cymdeithasol (neu fentrau sy’n dechrau) i gael eu busnes yn barod ar gyfer masnachu neu fuddsoddi Ymwreiddio arferion sy’n ystyriol o’r hinsawdd mewn mentrau cymdeithasol newydd o’r diwrnod cyntaf Mae’r cynllun yn agored i unrhyw fusnes cymdeithasol neu fudiad masnachu gwirfoddol yng Nghymru sy’n cychwyn ar ei daith. Nid oes angen i chi fod yn grŵp...
Gallai’r rhaglen Cyber Security Academic Startup Accelerator Programme ( CyberASAP) fod yn llwybr effeithiol i’ch helpu i ymchwilio i botensial y syniad o ran y farchnad. Dyma’r unig raglen garlam cyn datblygu syniad yn ecosystem seiber y DU, ac mae’n cefnogi a galluogi academyddion i drawsnewid gwaith ymchwil gwych yn arloesedd seiber rhagorol. Gwnewch gais am hyd at £32,000 fesul prosiect er mwyn dod â’ch syniad seiberddiogelwch i’r farchnad. Bydd y gystadleuaeth yn cau am...
Pryderon ariannol yw’r achos mwyaf o straen i weithwyr ledled Cymru a’r DU ac maent yn niweidiol i fusnes hefyd. Mae pobl yn mynd â'u pryderon ariannol i'r gwaith, gan effeithio ar eu perfformiad a lefelau absenoldeb salwch. Mae’r pandemig a’r cynnydd diweddar mewn costau ynni wedi dangos ei bod yn bwysicach nag erioed i sefydliadau gefnogi eu gweithwyr i adeiladu eu lles ariannol. Gwyddom hefyd fod y pandemig wedi golygu heriau sylweddol i lawer...
Mae Llywodraeth Cymru wedi diddymu’r gofyn i ddangos pas COVID i fynd i rai digwyddiadau yng Nghymru, meddai Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon, Dawn Bowden. Hynny wrth i Lywodraeth Cymru barhau i godi rhai o’r cyfyngiadau covid ac i achosion barhau i ostwng. O heddiw 18 Chwefror 2022, ni fydd angen y Pas COVID domestig arnoch i fynd i ddigwyddiadau a lleoliadau dan do ac awyr agored mwyach, gan gynnwys clybiau nos, sinemâu, theatrau...
Ymgynghoriad ar ddarparu labelu alergenau rhagofalus a gwybodaeth ragofalus am alergenau, fel ‘gallai gynnwys’, ar lawer o fathau o fwyd a werthir yng Nghymru, Gogledd Iwerddon a Lloegr. Bydd yr ymgynghoriad hwn o ddiddordeb i'r canlynol: busnesau bwyd sefydliadau, er enghraifft, ysbytai, ysgolion cynhyrchwyr cynradd cwmnïau trafnidiaeth cyrff masnach timoedd diogelwch bwyd awdurdodau lleol gweithwyr gofal iechyd proffesiynol gwyddonwyr ac academyddion sefydliadau sy'n cefnogi pobl sydd â gorsensitifrwydd i fwyd defnyddwyr sydd â gorsensitifrwydd i...
Gall arloesi a phreifatrwydd weithio law yn llaw ac yn wir, fe ddylent wneud hynny. Mae Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth am weld busnesau arloesol yn ffynnu a thyfu, ac am gefnogi busnesau i ddod â chynhyrchion sy’n parchu preifatrwydd ar y farchnad, tra’n diogelu data personol y cyhoedd. Os ydych chi’n sefydliad technoleg ariannol bach sydd newydd ddechrau neu’n sefydliad mawr yn y sector cyhoeddus sy’n defnyddio data personol i wella canlyniadau iechyd, os ydych chi’n...
Yn dilyn llwyddiant y digwyddiad Ras i Sero, Ewrop – Countdown i COP26 a gynhaliwyd ym mis Hydref 2021, mae cyfle nawr i fusnesau ymuno â gweithdy unigryw yn archwilio sut y gall busnesau gyflawni'r uchelgais sero-net drwy lens 2030 Breakthroughs yr Hyrwyddwyr Hinsawdd a'r Glasgow Breakthroughs, a lansiwyd yn COP26. Bydd y gweithdy'n dwyn ynghyd fusnesau bach a chanolig a busnesau mwy, gydag arbenigwyr o blith cynghorwyr polisi, ymchwilwyr a swyddogion cyrff anllywodraethol, i...

Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.