BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

news and blogs Archives

1351 canlyniadau

Cymru heddiw (15 Chwefror 2022) yw’r wlad gyntaf yn y DU i fynnu bod System Monitro Cychod (VMS) yn cael ei gosod ar ei holl gychod pysgota masnachol trwyddedig. Mae eisoes gofyn ar bysgotwyr i osod dyfais o’r fath ar gychod 12 metr a mwy ond mae Gorchymyn yn dod i rym heddiw (15 Chwefror 2022) sy’n golygu bod cychod llai, mwy na 350 ohonyn nhw, yn gosod dyfais o’r fath. Cychod o dan 12...
Mae gwobrau Ysbrydoli! yn dathlu dysgu a sgiliau. Mae Ysbrydoli, sy’n rhan o’r Sefydliad Dysgu a Gwaith, yn chwilio am unigolion, prosiectau cymunedol a sefydliadau sydd wedi elwa yn sgil cyflawniadau dysgu. Mae’r gwobrau yn chwilio am enwebiadau sydd wedi cael profiad cadarnhaol o addysg oedolion – y rhai sydd wedi gwella eu bywydau eu hunain ynghyd â’r bobl o’u cwmpas ledled Cymru, gan arddangos sut gall dysgu gydol oes drawsnewid bywydau. Dyma’r categorïau eleni...
Pa un a ydych chi’n fusnes bach, canolig neu fawr, gall y tywydd effeithio arnoch chi mewn unrhyw le ac ar unrhyw adeg. Mae treulio amser yn cynllunio ac yn paratoi’ch busnes yn gallu arbed amser ac arian i chi pan fydd rhywbeth yn mynd o'i le. Gall pob busnes gymryd camau syml i wneud yn siŵr eu bod yn barod am dywydd gwael. Er enghraifft: cofrestru i gael rhybuddion o lifogydd gosod systemau diogelu...
Mae’r Ymddiriedolaeth Garbon wedi llunio canllawiau sy’n cynnig llwybr i fusnesau bach a chanolig (BBaChau) i sero net. Mae’n cyflwyno’r opsiynau syml sydd ar gael i BBaChau sy’n dechrau ar eu taith sero net ac yn tynnu sylw at yr heriau yn yr hirdymor. Mae’r canllawiau’n cynnwys: Beth mae sero net yn ei olygu? Beth yw ôl-troed carbon? Beth sy’n sbarduno cyflawni sero net? Cyfleoedd i leihau carbon ar gyfer BBaChau. Gwrthbwyso carbon a chael...
Mae Ffederasiwn y Busnesau Bach (FSB) - Gwobrau Dathlu Busnesau Bach yn cydnabod ac yn dathlu cyfraniadau sylweddol busnesau bach a phobl hunangyflogedig yn y DU. Nod y gystadleuaeth yw cydnabod pob unigolyn, cwmni neu deulu sy’n rhedeg neu'n gweithio mewn busnes bach, neu sy’n berchen arno. Dyma'r categorïau: busnes rhyngwladol y flwyddyn gwobr amgylcheddol microfusnes y flwyddyn busnes newydd y flwyddyn busnes twf uchel y flwyddyn busnes teuluol y flwyddyn entrepreneur ifanc y flwyddyn...
Bob blwyddyn mae Pythefnos Masnach Deg yn rhoi cyfle i bobl ledled y DU ddathlu cyflawniadau Masnach Deg a dysgu mwy am y gwahaniaeth mae Masnach Deg yn ei wneud. Cynhelir yr ymgyrch eleni rhwng 21 Chwefror a 6 Mawrth 2022 a'r thema yw Dewis y Byd yr ydych ei Eisiau. Sut i gymryd rhan: estyn allan at grwpiau a busnesau lleol eraill i rannu'r neges Masnach Deg defnyddio adnoddau'r cyfryngau cymdeithasol gan gynnwys negeseuon...
Mae Llywodraeth y DU yn gofyn i fusnesau, masnachwyr a’r cyhoedd roi eu barn ar sut mae’r system dollau yn gweithio a pha welliannau yr hoffent eu gweld. Mae Cyllid a Thollau EM (CThEM) a Thrysorlys EM wedi cyhoeddi galwad am dystiolaeth er mwyn i randdeiliaid allu rhoi adborth ar feysydd allweddol. Mae’r alwad hon am dystiolaeth yn gwahodd safbwyntiau ymatebwyr ar 3 maes: 1. Y sector cyfryngwyr tollau. 2. Y Broses Datganiadau Tollau Syml...
Eluned Morgan, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol. ‘Mae’n bleser gennyf gadarnhau bod trefniadau yn eu lle er mwyn ymestyn y ddarpariaeth o gyfarpar diogelu personol (PPE) am ddim i sefydliadau iechyd a gofal cymdeithasol tan ddiwedd mis Mawrth 2023. Wedi’r ymateb cychwynnol i’r pandemig, cytunwyd ar drefniant ffurfiol ym mis Medi 2020 er mwyn darparu cyfarpar diogelu personol am ddim i sefydliadau iechyd a gofal cymdeithasol. Gwnaethpwyd hyn drwy gytundeb lefel gwasanaeth rhwng Partneriaeth...
Mae oddeutu traean y bwyd a gynhyrchir ledled y byd yn cael ei golli neu ei wastraffu ac yn cael effaith wirioneddol ar newid hinsawdd, gan gyfrannu 8-10% o gyfanswm yr allyriadau nwyon tŷ gwydr o waith ddyn. Dyna pam mae WRAP a Hoffi Bwyd Casau Gwastraff yn neilltuo wythnos o weithredu i godi ymwybyddiaeth o ganlyniadau amgylcheddol gwastraffu bwyd, a hyrwyddo gweithgareddau sy’n helpu i leihau faint o fwyd sy’n cael ei wastraffu. Cynhelir...
Mae dargyfeirio'ch bwyd dros ben i elusennau rheng flaen yn haws nag yr ydych chi'n meddwl. Gallai’ch busnes fod yn gymwys i hawlio nawdd i helpu lleihau’ch gwastraff bwyd wrth helpu pobl sydd mewn perygl o ansicrwydd bwyd. Mae Cronfa Bwyd Dros Ben ag Amcan Cymru ar agor i gwmnïoedd Cymreig sydd â bwyd sy’n fwytadwy, ond yn mynd yn wastraff oherwydd ei fod yn rhy gostus neu’n anaddas ar gyfer defnydd masnachol. Amcan y...

Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.