BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

news and blogs Archives

1431 canlyniadau

Mae Llywodraeth Cymru am gael eich barn ar amrywiadau lleol arfaethedig i’r dreth trafodiadau tir (TTT) ar gyfer ail gartrefi, llety gwyliau tymor byr ac eiddo preswyl ychwanegol arall o bosibl, ac maentyn ymgynghori ar newidiadau i’r TTT er mwyn rhoi mwy o gyfle i bobl sy'n awyddus i brynu cartrefi i fyw ynddynt yn barhaol. Rydym yn ceisio barn ar y canlynol: maint yr ardaloedd lle gallai amrywiadau lleol gael eu cyflwyno, er enghraifft...
Mae Llywodraeth Cymru’n annog ffermwyr i gofrestru er mwyn cael dweud eu dweud yng ngham nesaf y broses o gynllunio’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy newydd. Cynhelir y cam nesaf hwn yn haf 2022 a gall pobl gofrestru nawr i fod yn rhan o’r broses. Bydd hyn yn cynnig y cyfle iddynt rannu eu barn ar ymarferoldeb y camau gweithredu arfaethedig sy’n sail i’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy a strwythur a phrosesau’r cynllun ehangach. Bydd y Cynllun Ffermio...
Mae Gwobrau New Welsh Writing 2022 bellach ar agor, a’r thema eleni yw Gwobr Rheidol ar gyfer Rhyddiaith â thema neu leoliad Cymreig. Bydd gwobr o £1,000 yn cael ei rhoi i’r enillydd. I gael rhagor o wybodaeth, defnyddiwch y dolenni canlynol: Gwobrau 2022 – Telerau ac Amodau Gwobrau 2022 – Cyflwyno eich Cais Gwobrau 2022 – Partneriaid a Noddwyr Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 15 Chwefror 2022.
Mae Gwobrau'r Ffederasiwn Bwyd a Diod (FDF) yn cydnabod ac yn gwobrwyo rhagoriaeth ar gyfer arloesi, cystadleurwydd a thalent yn y diwydiant bwyd a diod. Pwy sy’n cael ymgeisio? Gweithgynhyrchwyr bwyd a diod Manwerthwyr, cynhyrchwyr, tyfwyr, lletygarwch Sectorau sy'n gweithio gyda'r gadwyn cyflenwi bwyd a diod gan gynnwys ymchwilwyr, dosbarthwyr, iechyd, awdurdodau lleol a darparwyr addysg Cymerwch gip ar gategorïau'r gwobrau a gwnewch gais am ddim cyn 28 Chwefror 2022, am gyfle i ennill -...
Mae gan gyflogwyr yr un cyfrifoldebau iechyd a diogelwch ar gyfer rhai sy'n gweithio gartref ag unrhyw weithiwr arall. Mae canllawiau gweithio gartref yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE) ar gyfer unrhyw un sy'n cyflogi gweithwyr cartref, gan gynnwys rhai sy'n rhannu eu hamser rhwng eu gweithle a'u cartref (gweithio hybrid). Mae'r canllawiau hyn wedi'u hailwampio a'u hehangu i roi mwy o fanylion am gamau syml i reoli iechyd a diogelwch gweithwyr cartref. Mae...
“Ar ddiwedd mis Rhagfyr cyhoeddais ddatganiadau am y £120m o gymorth ariannol sydd ar gael i fusnesau y mae Omicron yn effeithio arnynt, gallaf gadarnhau yn awr y bydd y cyllid hefyd ar gael i fusnesau sydd newydd eu sefydlu yn amodol ar fodloni'r meini prawf cymhwysedd. Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod bod angen cefnogi'r rhai a ddechreuodd fusnes newydd yn ystod misoedd yr haf. Bydd y cyllid yn cynnig achubiaeth bosibl i'r rhai sydd...
Mae'r Prif Weinidog Mark Drakeford wedi gofyn i bobl barhau i gymryd camau i ddiogelu ei gilydd a diogelu Cymru rhag y don o achosion Omicron. Mae wedi cadarnhau y bydd mesurau lefel rhybudd 2 yn aros yn eu lle yng Nghymru yn dilyn canlyniad yr adolygiad diweddaraf o’r rheoliadau. Mae achosion o’r coronafeirws wedi codi'n sydyn i'w lefelau uchaf erioed wrth i'r don Omicron gynyddu ledled Cymru yn ystod y cyfnod ar ôl y...
Mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi'r cyfraddau statudol arfaethedig ar gyfer tâl mamolaeth, tâl tadolaeth, tâl rhiant a rennir, tâl mabwysiadu, tâl profedigaeth rhiant a thâl salwch o fis Ebrill 2022. Mae'r cyfraddau fel arfer yn cynyddu bob mis Ebrill yn unol â'r mynegai prisiau defnyddwyr (CPI) ac yn digwydd ar y Sul cyntaf ym mis Ebrill, sef 3 Ebrill yn 2022. Mae cyfraddau’r isafswm cyflog cenedlaethol a fydd yn gymwys o 1 Ebrill 2022...
Eluned Morgan AS, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Datganiad 5 Ionawr 2022. “Mae capasiti Cymru o ran profion COVID-19 wedi cynyddu’n sylweddol yn labordai GIG Cymru ac fel rhan o raglen brofi’r DU, sef y rhaglen fwyaf yn Ewrop gyda bron i 400 miliwn o brofion PCR wedi’u cynnal ers dechrau’r pandemig. Wrth i’r don omicron ledu ar draws y wlad, mae’r galw am brofion PCR wedi cyrraedd lefelau uwch nag erioed ar draws...
Eluned Morgan AS, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Datganiad 5 Ionawr 2022. “Yn sgil y risgiau parhaus sy’n gysylltiedig â’r coronafeirws, gan gynnwys yr amrywiolyn newydd omicron, sydd wedi dod i’r amlwg yn gyflym yn ddiweddar, rydym yn parhau i gynghori pobl i beidio â theithio dramor ar hyn o bryd oni bai bod hynny’n hanfodol. Ychydig wythnosau yn unig ar ôl iddo ddod i sylw Sefydliad Iechyd y Byd, mae omicron wedi lledaenu...

Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.