BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

news and blogs Archives

1441 canlyniadau

Mae'r Swyddfa Gartref a DEFRA wedi cyhoeddi y bydd llwybr fisa'r Gweithiwr Tymhorol yn cael ei ymestyn tan ddiwedd 2024, sy'n caniatáu i weithwyr tramor ddod i'r DU am hyd at chwe mis i weithio yn y sector garddwriaeth. Bydd 30,000 o fisâu ar gael yn 2022, ond bydd hyn yn cael ei adolygu’n barhaus gyda'r potensial i gynyddu gan 10,000 os bydd angen. Bydd nifer y fisâu yn dechrau lleihau o 2023. Am ragor...
Mae'r Farm Shop and Deli Retailer Awards, nad oes angen talu i gystadlu ynddyn nhw, yn wobrau uchel eu parch yn y diwydiant am chwarae rhan bwysig yn y gwaith o gefnogi a dathlu marchnad fanwerthu arbenigol annibynnol y DU. Yn 2022, bydd y Gwobrau'n cydnabod manwerthwyr arbenigol sy'n helpu i greu byd gwell drwy fentrau cynaliadwy law yn llaw â chefnogi eu cwsmeriaid, eu cymunedau a'u cyflenwyr. Os ydych chi'n fanwerthwr annibynnol sy'n gwerthu...
Mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi y gall gweithwyr yn y DU hunanardystio absenoldeb oherwydd salwch am 28 diwrnod yn lle saith. Daeth y newid i rym ar 17 Rhagfyr 2021 ac mae'n berthnasol i absenoldebau sy'n dechrau ar 10 Rhagfyr 2021 neu ar ôl hynny, hyd at ac yn cynnwys absenoldebau sy'n dechrau ar neu cyn 26 Ionawr 2022. Am ragor o wybodaeth, ewch i Statutory Sick Pay: employee fitness to work - GOV.UK...
Y dyddiad cau ar gyfer Hunanasesiad yw 31 Ionawr 2022. Gall cwsmeriaid gwblhau eu ffurflenni treth ar-lein cyn y dyddiad cau ar adeg sy'n addas iddynt. Os na allwch chi fforddio talu eich bil diweddaraf Gallwch chi greu cynllun talu i ledaenu cost eich bil Hunanasesiad diweddaraf os yw pob un o'r amodau canlynol yn berthnasol: mae arnoch chi £30,000 neu lai nid oes gennych chi unrhyw gynlluniau talu neu ddyledion eraill gyda CThEM mae...
Mae ffurfio gweledigaeth o sut fywyd ydych chi ei eisiau yn y pen draw yn gyflawniad mawr, ac yn gam mawr ar y daith i ddilyn eich angerdd yn llwyddiannus. Ond mae pen draw’r daith yn gallu ymddangos mor bell i ffwrdd fel ei fod yn teimlo mwy fel breuddwyd na realiti. I’w wneud yn fwy real ac i atal mawredd yr hyn rydych chi eisiau ei gyflawni rhag bod yn drech arnoch, mae angen...
Mae'r Gronfa Cadernid Economaidd wedi'i thargedu at fusnesau a sefydliadau yn y sectorau lletygarwch, hamdden ac atyniadau a'u cadwyni cyflenwi, sydd wedi'u heffeithio’n sylweddol gan ostyngiad o fwy na 50% o drosiant rhwng 13 Rhagfyr 2021 a 14 Chwefror 2022. Amcan y gronfa yw ategu mesurau ymateb Covid-19 eraill i gefnogi busnesau, mentrau cymdeithasol a sefydliadau elusennol yng Nghymru. Bydd y Gronfa yn cefnogi: Busnesau wedi cael eu heffeithio rhwng 13 Rhagfyr 2021 a 14...
Mae grŵp Cyngor, Canllawiau ac Arbenigedd Iechyd y Cyhoedd (PHAGE), Asiantaeth Diogelwch Iechyd y DU (UKHSA) wedi cyflwyno tystiolaeth i'r pedwar Prif Swyddog Meddygol ynghylch hyd y cyfnod hunanynysu ar gyfer achosion o COVID-19 a'r potensial i leihau'r cyfnod hwnnw drwy ailadrodd profion dyfeisiau llif unffordd (LFD). Cynghorwyd bod cyfnod o 7 diwrnod o hunanynysu ynghyd â dau brawf llif unffordd negatif yn cael fwy neu lai yr un effaith amddiffynnol i bobl â COVID-19...
Bydd Pythefnos Masnach Deg yn ôl ddydd Llun 21 Chwefror tan ddydd Sul 6 Mawrth 2022. Am bythefnos bob blwyddyn, mae miloedd o unigolion, cwmnïau a grwpiau ar draws y Deyrnas Unedig yn dod ynghyd i rannu straeon y bobl sy’n tyfu ein bwyd a’n diodydd ac yn tyfu’r cotwm yn ein dillad. Ewch i wefan Masnach Deg i gael rhagor o wybodaeth. Os ydych chi’n rhedeg busnes, mae rhagor o wybodaeth yma am sut...
Mae Cyllid a Thollau EM (CThEM) yn atgoffa cwsmeriaid Hunanasesu i ddatgan unrhyw daliadau grant COVID-19 ar eu ffurflen dreth 2020 i 2021. Mae'r grantiau hyn yn drethadwy a dylai cwsmeriaid eu datgan ar eu ffurflen dreth 2020 i 2021 cyn y dyddiad cau ar 31 Ionawr 2022. Y cyfnodau ymgeisio a thalu SEISS yn ystod blwyddyn dreth 2020 i 2021 oedd: SEISS 1: 13 Mai 2020 i 13 Gorffennaf 2020 SEISS 2: 17 Awst...
Awydd bod yn fos arnoch chi'ch hun? Oes gennych chi syniad busnes neu eisiau gwella'ch sgiliau mentergarwch? Os felly, dyma'r digwyddiad i chi. Mae Start Up 2022 yn gwbl hanfodol i ddarpar entrepreneuriaid o bob math. Mae'n gyfle nid yn unig i ddysgu popeth sydd angen ei wybod am ddechrau busnes a’i ddatblygu, ond i gysylltu â chynghorwyr ac arbenigwyr a fydd yn helpu i fynd â'ch menter i'r lefel nesaf. Ymunwch â'r digwyddiad rhithwir...

Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.