BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

news and blogs Archives

1461 canlyniadau

Gall recriwtio prentis eich helpu i ehangu eich gweithlu a'i sylfaen sgiliau. Mae cymorth ar gael tuag at gost yr hyfforddiant a'r asesiadau. I helpu busnesau i recriwtio prentisiaid, rydym yn cynnig cymhellion tan 28 Chwefror 2022 (yn amodol ar argaeledd cyllideb). Drwy gyflogi prentis, gallwch: leihau eich costau recriwtio adeiladu gweithlu medrus a brwdfrydig sydd wedi'i deilwra i'ch busnes ehangu eich busnes llenwi unrhyw fylchau o ran sgiliau diogelu eich busnes at y dyfodol...
Mae mynd i’r afael ag anghydraddoldebau iechyd a rhoi mwy o gymorth i helpu pobl i roi’r gorau i smygu yn rhannau allweddol o gynllun newydd i gael Cymru ddi-fwg erbyn diwedd y ddegawd. Mae Llywodraeth Cymru wedi lansio ymgynghoriad ar y strategaeth hirdymor ar reoli tybaco, Cymru Ddi-fwg. Bydd yr ymgynghoriad ar agor tan 31 Ionawr 2022. Targed y strategaeth yw cael Cymru ddi-fwg erbyn 2030, sy’n golygu y bydd llai na 5% o’r...
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi canlyniad yr ymarfer i nodi cyfleoedd i gynyddu ynni adnewyddadwy yn sylweddol yng Nghymru, gweler y pwyntiau isod a allai fod o ddiddordeb i fusnesau yng Nghymru: Argymhellion 18. Byddwn yn gweithio gyda Llywodraeth y DU i ddod â buddsoddiad newydd i borthladdoedd yng Nghymru. Byddwn yn gweithio gyda phorthladdoedd yng Nghymru i nodi cyfleoedd ar gyfer arbenigo a chydweithredu, ac i sicrhau bod porthladdoedd Cymru yn barod ar gyfer...
Mae Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi canllawiau cryf i gefnogi pobl ledled Cymru dros gyfnod y Nadolig. Bydd Cymru wedyn yn cyflwyno cyfyngiadau newydd, gan gynnwys ar gyfer busnesau a gwasanaethau – a hynny o 27 Rhagfyr 2021 ymlaen. Bydd hyn yn cynnwys rheol cadw pellter cymdeithasol o 2 fetr mewn swyddfeydd a rhoi mesurau ychwanegol ar waith i ddiogelu cwsmeriaid a staff – ee, systemau unffordd a rhwystrau ffisegol. Bydd clybiau nos yn cau hefyd...
Mae'r broses ymgeisio ar gyfer y rownd fwyaf erioed o gynllun cymorth ynni adnewyddadwy blaenllaw llywodraeth y DU bellach ar agor, gyda £285 miliwn ar gael bob blwyddyn er mwyn adeiladu'r genhedlaeth nesaf o brosiectau ynni gwyrdd ym Mhrydain. Gall prosiectau ynni adnewyddadwy ledled gwledydd Prydain wneud cais am gyllid ym mhedwaredd rownd y cynllun Contracts for Difference (CfD), sy'n anelu at sicrhau 12GW o gapasiti trydan – mwy o gapasiti adnewyddadwy na'r 3 rownd...
Wyt ti wedi gweld neu glywed rhywbeth annerbyniol yn y gwaith? Wyt ti wedi clywed cydweithiwr neu ffrind yn gwneud sylw amheus, a tithau heb wybod sut i’w herio am y peth? Mae ymgyrch newydd sy'n galw ar y cyhoedd i herio rhagdybiaethau ynghylch aflonyddu ar fenywod - a ystyrir ar gam ei fod yn ‘ddiniwed’ yn aml - wedi cael ei lansio ledled Cymru. Mae Llywodraeth Cymru yn awyddus i helpu i godi ymwybyddiaeth...
Bydd gofynion newydd yn cael eu cyflwyno ar gyfer mewnforio rhai nwyddau SPS, fel cig neu blanhigion, i Brydain Fawr o'r UE o 1 Ionawr 2022. Bydd angen rhag-hysbysiad wrth fewnforio'r rhan fwyaf o gynhyrchion sy'n tarddu o anifeiliaid, sgil-gynhyrchion anifeiliaid, bwyd risg uchel nad yw'n dod o anifeiliaid a phlanhigion a chynhyrchion planhigion a reoleiddir o'r UE i Brydain Fawr. Efallai y bydd yn ofynnol i fusnesau (neu gynrychiolydd sy'n gweithredu ar eu rhan)...
Mae Gweinidog yr Economi Vaughan Gething wedi cyhoeddi bod Llywodraeth Cymru’n gweithio gyda Chymdeithas Adeiladu Sir Fynwy i gyflymu’r broses o sefydlu a gweithredu banc cymunedol, Banc Cambria, ledled Cymru. Mae Rhaglen Lywodraethu Llywodraeth Cymru’n cynnwys ymrwymiad i gefnogi’r broses o greu Banc Cymunedol i Gymru, er mwyn ceisio mynd i’r afael â methiant y farchnad mewn perthynas â’r bwlch yn narpariaeth, effeithiolrwydd ac ansawdd gwasanaethau bancio yng Nghymru. Mae nifer cynyddol o gymunedau ledled...
BioAccelerate yw rhaglen sbarduno parodrwydd am fuddsoddiad Arloesi Aber ar gyfer busnesau sydd yn eu camau cynnar a busnesau newydd sydd â’r nod o’ch helpu i wireddu’ch syniad arloesol. Mae ceisiadau ar agor i unigolion neu grwpiau sy’n awyddus i ddatblygu cynnyrch neu wasanaeth newydd yn y sectorau biowyddoniaeth, gofal iechyd, technoleg amaethyddol neu fwyd a diod. Mae cymorth Arloesi gwerth £60,000 ar gael. Y dyddiad cau ar gyfer gwneud cais yw dydd Mawrth 21...
Mae cynlluniau brys ar droed i gyflymu’r rhaglen brechlyn atgyfnerthu ymhellach, wrth i dysttiolaeth newydd ddangos nad yw dau bigiad yn ddigon i amddiffyn rhag yr amrywiolyn omicron newydd. Ond mae’r pigiad atgyfnerthu’n hollbwysig i wella’r amddiffyniad rhag yr amwyiolyn newydd sy’n lledaenu’n gyflym. Am ragor o wybodaeth ewch i Llyw.Cymru

Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.