BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

news and blogs Archives

1471 canlyniadau

Mae rhifyn mis Rhagfyr y Bwletin Cyflogwyr yn dod â holl ddiweddariadau a chanllawiau CThEM at ei gilydd i gefnogi cyflogwyr ac asiantau cyflogres. Mae gwybodaeth bwysig i chi am: y Cynllun Talu Wrth Ennill (PAYE) - mae gwybodaeth bwysig i’r rhai sy’n talu gweithwyr yn gynnar ar gyfer y Nadolig, a chyngor a sut i atal a chywiro camgymeriadau cyflogres Pontio’r DU a’r Confensiwn DU-Swistir y cytunwyd arno’n ddiweddar ar gydlynu Nawdd Cymdeithasol a...
Ar ôl dathlu’n 10fed blwyddyn o ail-ddosbarthu bwyd dros ben yn ddiweddar; dymuna FareShare Cymru siarad â busnesau bwyd a diod sy’n profi problemau gyda bwyd dros ben, ac eisiau mynd i’r afael â’u hôl troed carbon. Mae FareShare Cymru yn troi problem amgylcheddol yn ddatrysiad cymdeithasol, trwy weithio gyda phartneriaid yn y diwydiant bwyd a diod i arallgyfeirio’u bwyd dros ben sy’n fwytadwy i bobl fregus Cymru. Gweithiwn gyda dros 150 o grwpiau cymunedol...
Dylai pawb fanteisio ar eu pigiad atgyfnerthu COVID-19, dyna neges y Prif Weinidog wrth iddo rybuddio bod Cymru’n wynebu ton newydd o heintiau o ganlyniad i’r amrywiolyn Omicron. Yn ei gynhadledd i’r wasg yn dilyn yr adolygiad 21 diwrnod, sydd i’w gynnal ddydd Gwener (10 Rhagfyr 2021), bydd y Prif Weinidog yn dweud er mai dim ond llond llaw o achosion sydd wedi’u cadarnhau yng Nghymru hyd yma, bod angen inni fod yn barod i...
Mae ymgyrch Bydd Wych, Ailgylcha yn ôl er mwyn annog pawb i barhau i ailgylchu dros yr ŵyl. Rydyn ni'n creu mwy o wastraff dros gyfnod y Nadolig nag unrhyw adeg arall o'r flwyddyn. O'r mynydd o fwyd ychwanegol rydyn ni'n ei fwyta i'r domen o bapurau lapio anrhegion Nadolig, mae'n gyfle gwych i ailgylchu popeth allwn ni. Dysgwch fwy yn https://walesrecycles.org.uk/cy/cartref-cymraeg
Mae GwerthwchiGymru yn wasanaeth arlein sy’n helpu busnesau i hyrwyddo eu gwasanaethau a dod o hyd i gyfleoedd i sicrhau contractau gyda’r sector cyhoeddus drwy Gymru. Bob blwyddyn, caiff gwerth biliynau o bunnoedd o gontractau ar gyfer nwyddau a gwasanaethau sector cyhoeddus eu hysbysebu drwy GwerthwchiGymru. Cynigir y contractau hyn gan ystod eang o gyrff sy’n cael eu hariannu’n gyhoeddus yn cynnwys: Llywodraeth leol Awdurdodau lleol Ymddiriedolaethau GIG Colegau a phrifysgolion Os mai busnes bach...
Mae Rheilffyrdd Trafnidiaeth Cymru yn rhoi cyfle anhygoel i chi uwchsgilio ac uwchraddio eich busnes a mireinio, datblygu a lansio eich cynnyrch i’w farchnata a sicrhau contract gwaith! Os ydych chi’n entrepreneur, yn gwmni newydd, neu’n gwmni sy’n uwchraddio gyda; chynnyrch neu gynnyrch ar y camau cynnar, y gellir ei ddatblygu i wella’r profiad i deithwyr Rheilffyrdd Trafnidiaeth Cymru, rydym yn credu y byddai’r rhaglen yn gweddu’n dda i chi. Gallwch wneud hyn mewn dim...
Ydy’ch busnes bach yn mewnforio neu’n allforio gyda’r UE? O 1 Ionawr 2022 ymlaen, os ydych chi’n symud nwyddau rhwng y DU a’r UE, bydd angen i chi wneud datganiadau tollau. Bydd angen cymorth ar lawer o fusnesau bach yn ystod y cyfnod hwn o newid, felly mae Enterprise Nation wedi lansio Canolfan Fasnach Ryngwladol ar y cyd â Deloitte er mwyn helpu busnesau bach i fasnachu’n fwy effeithiol ac effeithlon, gan ddod o hyd...
Mae Llywodraeth Cymru yn awyddus i glywed eich barn am gynigion i ddiwygio'r system rheoli datblygu a pholisi cynllunio yng Nghymru er mwyn helpu awdurdodau cynllunio lleol i reoli ail gartrefi a llety gwyliau tymor byr. Daw'r ymgynghoriad i ben ar 22 Chwefror 2022. Am ragor o wybodaeth ewch i Deddfwriaeth a pholisi cynllunio ar gyfer ail gartrefi a llety gwyliau tymor byr | LLYW.CYMRU
Mae mis Rhagfyr wastad yn gyfnod prysur i lawer o gwmnïau wrth iddynt ffeilio cyfrifon gyda Thŷ’r Cwmnïau cyn diwedd y mis. Gan fod Tŷ’r Cwmnïau yn parhau i ddilyn canllawiau Llywodraeth y DU ar gyfer gweithio'n ddiogel yn ystod y coronafeirws (COVID-19), fe allai hyn olygu ei bod yn cymryd mwy o amser nag arfer i brosesu dogfennau papur a anfonir drwy’r post. Mae eu gwasanaethau ar-lein ar gael 24 awr y dydd, 7...
Mewn partneriaeth â Hubbub, mae Partneriaeth John Lewis yn lansio cronfa gwerth £1 miliwn i gefnogi syniadau chwyldroadol ac arloesol a all gyflymu’r pontio tuag at economi fwy cylchol. O ailystyried gwastraff gyda chynhyrchion neu ddeunyddiau newydd i ganfod ffyrdd creadigol o newid meddylfryd defnyddwyr i ddatblygu modelau busnes a gwasanaethau newydd - byddai’r Her yn hoffi clywed gennych chi. Bydd y gronfa yn darparu grantiau o rhwng £150,000 a £300,000. Os ydych chi am...

Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.