BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

news and blogs Archives

1521 canlyniadau

Mae Banc Datblygu Cymru wedi gwneud £51 miliwn o fenthyciadau a buddsoddiadau ecwiti yn 220 o fusnesau Cymru yn ystod y cyfnod o chwe mis rhwng Ebrill a Medi 2021. Mae’r ffigurau hanner blwyddyn a gyhoeddwyd heddiw, 15 fed Tachwedd 2021, gan y Banc Datblygu yn adrodd bod £51 miliwn wedi denu buddsoddiad sector preifat ychwanegol o bron i £38 miliwn ac mae wedi helpu i greu neu ddiogelu dros 1,370 o swyddi. Nodwyd cynnydd...
Yn dechrau heddiw bydd angen Pàs COVID y GIG mewn sinemâu, theatrau a neuaddau cyngerdd yng Nghymru. Mae ymestyn y Pàs COVID yn un o nifer o fesurau sydd wedi’u cryfhau i helpu i gadw pobl yn ddiogel a busnesau ar agor tra bod Cymru'n parhau i fod ar lefel rhybudd sero er bod achosion o coronafeirws yn uchel iawn. Mae'r canllawiau ar hunanynysu hefyd wedi'u newid ac mae pobl yn cael eu hannog i...
Bydd y rhaglen uchelgeisiol yn helpu i sicrhau na fydd yna genhedlaeth goll yng Nghymru yn dilyn pandemig COVID-19. Mae’r Gwarant i Bobl Ifanc yn un o ymrwymiadau allweddol Rhaglen Lywodraethu bum mlynedd Llywodraeth Cymru. Mae’r pecyn cynhwysfawr yn tynnu ynghyd raglenni sydd wedi’u cynllunio i ddarparu’r gefnogaeth iawn ar yr amser iawn yn ôl anghenion amrywiol pobl ifanc ledled Cymru. Mae hyn yn cynnwys gwasanaethau hwylus newydd i helpu pobl ifanc i ddod o...
Bydd wythnos cyflog byw, sef dathliad blynyddol y mudiad Cyflog Byw yn y DU, yn cael ei chynnal rhwng 15 Tachwedd a 21 Tachwedd 2021. Mae'r mudiad yn cynnwys cyflogwyr, arbenigwyr, sefydliadau a phobl sy’n credu bod diwrnod caled o waith yn haeddu tâl teg. Beth ydy manteision busnes talu’r cyflog byw go iawn? 58% o fusnesau’n dweud ei fod wedi gwella'r cysylltiadau rhwng rheolwyr a’u staff 75% yn dweud ei fod wedi cynyddu cymhelliant...
Ar 19 Tachwedd 2021 bydd Diwrnod Rhyngwladol y Dynion yn dathlu'r gwerth cadarnhaol mae dynion yn ei gynnig i'r byd, i’w teuluoedd ac i'w cymunedau. Mae'r diwrnod yn tynnu sylw at fodelau rôl cadarnhaol ac yn codi ymwybyddiaeth o lesiant dynion. Ar lefel leol, gall pobl, elusennau, cyflogwyr a sefydliadau benderfynu defnyddio unrhyw feysydd, materion neu weithgareddau o’u dewis i nodi Diwrnod Rhyngwladol y Dynion. I'w helpu i gael syniadau, fe wnaeth llawer o bobl...
Gyda chynnydd sylweddol yn y niferoedd o bobl sydd wedi bod yn mynd ar wyliau lleol dros y cyfnod diweddar, mae cynllun newydd wedi ei lansio er mwyn annog ymwelwyr i wario mwy ar fwyd lleol yn ystod eu harhosiad. Cynllun Neges@Home, Menter Môn yw’r ateb i gadw gwariant ymwelwyr ar fwyd a diod yn lleol. Bydd Menter Môn yn gweithio gyda chynhyrchwyr a darparwyr lleol ar draws Ynys Môn, Gwynedd a Chonwy i ddatblygu...
Mae Enterprise Nation wedi ffurfio partneriaeth â TSB i sicrhau bod sylfaenwyr busnes benywaidd uchelgeisiol yn gallu cael mynediad at ddigwyddiadau ysbrydoledig, modelau rôl y gellir uniaethu â nhw a chymorth busnes cynhwysol am ddim. Mae'r manteision yn cynnwys: Cymorth – Cewch gyfle i gyfarfod â menywod entrepreneuraidd o'r un anian i sgwrsio, cydweithio a chefnogi eich gilydd ar eich taith. Digwyddiadau a rhwydweithio – Cofrestrwch ar gyfer y Sesiwn Gymdeithasu Fisol nesaf i rwydweithio...
Mae CThEM yn ysgrifennu at unigolion sydd wedi derbyn grantiau o dan y Cynllun Cymorth Incwm i’r Hunangyflogedig ond heb gwblhau’r ffurflen dreth hunanasesu yn llawn ar gyfer 2019/20 eto. Mae’r llythyr yn rhoi manylion y camau sydd angen i hawlwyr eu cymryd. I fod yn gymwys am grant o dan y Cynllun Cymorth Incwm i’r Hunangyflogedig (SEISS), roedd yn rhaid i unigolion fod yn masnachu yn hunangyflogedig neu mewn partneriaeth yn 2019/20. Roedd gofyn...
Bydd mentoriaid o BT a Google yn rhannu arbenigedd a syniadau ar sut i wella eich strategaethau marchnata digidol a’r cyfryngau cymdeithasol, ei gwneud hi'n haws i bobl ddod o hyd i chi drwy Chwilio a mwy. Gallwch chi ddysgu sgiliau busnes digidol, fel defnyddio Google Analytics, creu strategaeth marchnata digidol neu strategaeth cyfryngau cymdeithasol a llawer mwy. Gallwch chi gymhwyso'r hyn a ddysgoch i’ch busnes i wneud iddo dyfu. Ar ôl cofrestru, bydd mentor...
Mae Aelodau'r Senedd wedi cymeradwyo ehangu’r defnydd o bàs COVID y GIG i gynnwys sinemâu, theatrau a neuaddau cyngerdd yng Nghymru. Yn dilyn y bleidlais bydd angen pàs COVID y GIG mewn sinemâu, theatrau a neuaddau cyngerdd o ddydd Llun 15 Tachwedd 2021. I gael rhagor o wybodaeth ewch i Cael eich pàs COVID y GIG. Pàs COVID y GIG: pecyn hyrwyddo | LLYW.CYMRU - Gallwch arddangos a rhannu'r posteri hyn i hyrwyddo ac esbonio...

Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.