BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

news and blogs Archives

1531 canlyniadau

Lloerennau bach y gellir eu defnyddio i gasglu data gwyddonol, fel gwybodaeth am y newid yn yr hinsawdd, yn amrywio o fesuriadau lefel y môr i fapio datgoedwigo, yw nanolloerennau. Mae'r gystadleuaeth yn gwahodd ymgeiswyr i ddylunio nanolloeren a fydd yn llywio atebion i helpu i fynd i'r afael â'r newid yn yr hinsawdd. Bydd ymgeiswyr yn cystadlu am gyfran o Gronfa Her gwerth £600,000, gan eu galluogi i ddatblygu ac adeiladu eu dyluniad lloeren...
Gyda Llywodraeth Cymru, Prifysgol Caerdydd a'r Ganolfan Ymchwil Polisïau Ewropeaidd, Prifysgol Strathclyde. Mae'r prosiect TRACER a ariennir o dan raglen Horizon 2020 wedi bod yn ymchwilio i sut mae Cymru ac wyth ardal glo-ddwys (a chyn-ardaloedd glo-ddwys) Ewropeaidd eraill yn rheoli'r broses o bontio tuag at systemau ynni mwy cynaliadwy. Mae trafodaethau yn 2020/21 gyda rhanddeiliaid allweddol yn y broses o bontio ynni yng Nghymru wedi amlinellu naratif cryf o ddau gyfnod pontio, gyda dimensiynau...
Mae Wythnos Masnach Ryngwladol gyntaf erioed y DU yn cynnig cyfres o ddigwyddiadau cyffrous i helpu busnesau i ddysgu mwy am werthu byd-eang ac am gysylltu ag arbenigwyr y diwydiant masnach. Os yw’ch busnes yn gwerthu nwyddau neu wasanaethau yn rhyngwladol yn barod, neu heb ddechrau arni eto, os ydych chi’n fusnes bach sy’n newydd i allforio i gwmnïau amlwladol ac am ehangu eich gorwelion, bydd yr Wythnos Masnach Ryngwladol yn eich ysbrydoli ac yn...
Os ydych chi’n gyw-entrepreneur 16-30 oed, mae’r digwyddiad yma i chi. Cynhelir Next Gen Fest yn rhithiol eleni ar 12 Tachwedd 2021, a bydd yn llawn dop o sgyrsiau gan bobl ysbrydoledig a fydd yn rhannu eu straeon a’u gwybodaeth am redeg eich busnes eich hun fel sylfaenydd ifanc. Bydd cynghorion gan baneli arbenigol, cyfleoedd i rwydweithio â rhai o’r un anian â chi a’r cynnig i werthu’ch syniad busnes i banel o arbenigwyr er...
Mae mwy o bobl yng Nghymru yn dechrau menter fusnes newydd ac yn manteisio ar y newidiadau economaidd a ffordd o fyw sydd wedi'u gyrru gan bandemig Covid-19, meddai Gweinidog yr Economi Vaughan Gething heddiw wrth i wythnos Entrepreneuriaeth Fyd-eang ddechrau. Mae'r ffigurau diweddaraf yn dangos bod gwasanaeth Busnes Cymru Llywodraeth Cymru wedi rhoi cyngor ac arweiniad i 3,020 o unigolion sy'n ystyried dechrau busnes ers mis Mawrth 2020, a oedd yn cefnogi creu 1,556...
Mae'r Adran Masnach Ryngwladol (DIT) wedi lansio gwasanaeth newydd i allforwyr. Os oes gennych fusnes yn y DU a'ch bod am werthu nwyddau neu wasanaethau dramor, defnyddiwch y gwasanaeth hwn i ofyn cwestiwn i dîm cymorth allforio DIT. Gallwch ofyn unrhyw gwestiwn sy’n ymwneud â’ch busnes, gan gynnwys: allforio i farchnadoedd newydd gwaith papur sydd ei angen arnoch i werthu eich nwyddau dramor rheolau ar gyfer gwlad benodol lle rydych am werthu gwasanaethau Am ragor...
Mae’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch yn parhau i ddiweddaru ei ganllawiau ar awyru gan annog pob gweithle i ddal ati i weithio’n ddiogel. Wrth i fwy o bobl ddychwelyd i’r gweithle, gall defnyddio awyru da helpu i leihau faint o feirws sydd yn yr aer. Mae hyn yn helpu i leihau’r risg o drosglwyddo aerosol a lledaeniad COVID-19 yn y gweithle. Mae’r canllawiau wedi’u diweddaru ar eu gwefan i gynnwys ein crynodeb syml newydd...
Mae gwasanaeth Busnes Cymru Llywodraeth Cymru, sy'n darparu cymorth a chyngor diduedd ac annibynnol i bobl sy'n dechrau, gweithredu a datblygu busnesau, wedi helpu i greu 25,000 o swyddi ledled Cymru ers 2016, dywedodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething, heddiw. Dywedodd y Gweinidog fod creu'r 25,000 o swyddi mewn busnesau bach a chanolig ledled Cymru drwy gymorth uniongyrchol gan Fusnes Cymru yn arwydd clir o ymrwymiad Llywodraeth Cymru i annog entrepreneuriaeth a datblygu busnesau yng...
Yn ddiweddar, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru becyn o gefnogaeth i adfywio canol trefi Cymru. Y nod yw galluogi busnesau i gynllunio prosiectau sy'n arwain at dwf economaidd ynghyd â'u helpu i wneud y defnydd gorau o dechnoleg ddigidol. Mae hyn yn cynnwys defnyddio data i helpu cwmnïau ddeall sylfaen a thueddiadau eu cwsmeriaid yn well, er mwyn cefnogi busnesau yn eu gweithgareddau cynllunio a marchnata yn y dyfodol. A wnaethoch chi golli'r cyfle i fynychu un...
Cynhelir Ynni Dyfodol Cymru ar 25 Tachwedd 2021 yn ICC Wales, Casnewydd ac mae’n cynnig cyfle unigryw i glywed gan arbenigwyr ledled ein system ynni tra’n rhoi’r cyfle i unigolion, sefydliadau a busnesau gyfarfod, rhwydweithio a thrafod busnes. Themâu’r gynhadledd yw: Ynni adnewyddadwy yn yr 2020au Seilwaith ynni ar gyfer sero-net Dychmygu llwyddiant Cymru Bydd Julie James AS, y Gweinidog Newid Hinsawdd yn rhoi anerchiad yn Ynni Dyfodol Cymru. Am ragor o wybodaeth, ewch i...

Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.