BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

news and blogs Archives

1541 canlyniadau

Gwahoddwyd Lywodraeth Cymru 8000 o fusnesau yng Nghymru i gymryd rhan yn nhrydydd Arolwg Masnach Cymru. Dywedodd Jonathan Price, Prif Economegydd Llywodraeth Cymru: “Yn sgil Ymadael â'r UE, a'r materion parhaus a achoswyd gan Covid-19, yr ydym yn wynebu heriau economaidd digynsail. Rydym am ddeall y rhain yn well a mesur yr effeithiau ar fusnesau yng Nghymru. “Bydd eich cyfranogiad yn ein helpu i ddeall unrhyw newidiadau allweddol mewn patrymau masnach busnesau sydd wedi'u lleoli...
Ydych chi’n chwilio am swydd newydd heriol a fydd yn eich helpu i ddatblygu eich sgiliau? Ymunwch â #CreuwyrProfiad a dewch o hyd i’ch swydd nesaf ym maes twristiaeth a lletygarwch. Mae mwy i weithio ym maes twristiaeth a lletygarwch na gweini bwyd a diod. Rydych chi hefyd yn rhan allweddol o greu eiliadau cofiadwy i westeion ac ymwelwyr. Gyda mwy a mwy o ymwelwyr yn dod i Gymru, mae angen mwy o staff ar...
Gall elusennau a mentrau cymdeithasol sydd wedi bod yn gweithredu ers o leiaf ddwy flynedd wneud cais nawr am fenthyciadau gwerth hyd at £1.5 miliwn gan Social Investment Business (SIB). Gall sefydliadau cymwys wneud cais am fenthyciadau o rhwng £100,000 a £1.5 miliwn am dymor o flwyddyn i chwe blynedd, heb gosb am ad-dalu’n gynnar. Bydd sefydliadau dan arweiniad BAME a’r rheiny sydd wedi’u lleoli yng Nghymru neu’r Alban yn gallu gwneud cais am fenthyciadau...
Fel rhan o'u hymrwymiad i gefnogi menywod entrepreneuraidd yng Nghymru, mae Busnes Cymru wedi cynhyrchu Canllaw Arfer Da wedi'i anelu at unedau Deori a mannau cydweithio. Mae'r Canllaw hwn yn rhoi Cyngor ymarferol ac awgrymiadau ar sut i ddarparu dull sy'n canolbwyntio mwy ar y rhywiau ar gyfer y rhai sy'n rheoli mannau cydweithio er mwyn annog dull mwy personol i fenywod sy'n cymryd rhan. I gael rhagor o wybodaeth ewch i https://businesswales.gov.wales/cy/canllaw-arfer-da-i-unedau-deori-chan…
Bellach, gall arweinwyr busnesau bach gofrestru eu diddordeb ar gyfer Cymorth i Dyfu Rheolaeth/Help to Grow Management, rhaglen 12 wythnos a ddarperir gan ysgolion busnes blaenllaw ledled y DU. Fe’i cynlluniwyd i fod yn rhaglen hyblyg i’w chyflawni ochr yn ochr â gwaith llawn amser, a bydd yn cefnogi arweinwyr busnesau bach i ddatblygu eu sgiliau strategol gyda modiwlau allweddol sy'n rhoi sylw i reolaeth ariannol, arloesedd a meithrin y maes digidol. Rhaglen ar gyfer...
Mae dargyfeirio'ch bwyd dros ben i elusennau rheng flaen yn haws nag yr ydych chi'n meddwl. Gallai’ch busnes fod yn gymwys i hawlio nawdd i helpu lleihau’ch gwastraff bwyd wrth helpu pobl sydd mewn perygl o ansicrwydd bwyd. Mae Cronfa Bwyd Dros Ben ag Amcan Cymru ar agor i gwmnïoedd Cymreig sydd â bwyd sy’n fwytadwy, ond yn mynd yn wastraff oherwydd ei fod yn rhy gostus neu’n anaddas ar gyfer defnydd masnachol. Amcan y...
Galwad ryngwladol i weithredu yw Dydd Mawrth Porffor, 2 Tachwedd 2021, yn canolbwyntio ar newid profiad pobl anabl fel cwsmeriaid. Bydd yn golygu bod sefydliadau o bob maint ac o bob sector yn cymryd camau pendant, ymarferol, i ateb anghenion cwsmeriaid anabl. Ar draws y Deyrnas Unedig, mae’r Bunt Borffor - grym gwario pobl anabl a’u teuluoedd - yn werth £274 biliwn ac yn codi 14% y flwyddyn ar gyfartaledd, ond mae gan lai na...
Ydych chi wastad wedi bod eisiau rhedeg eich busnes eich hun, ond ddim yn siŵr lle i ddechrau arni? Poeni na fydd eich syniad yn gweithio? Neu ddim hyd yn oed yn siŵr a oes gennych chi syniad o gwbl? Mae Chwarae Teg, NatWest a Simply Do Ideas yn gweithio mewn partneriaeth ar gyfres o ddigwyddiadau ‘Oes gen i syniad?’ a fydd yn dod â darpar entrepreneuriaid at ei gilydd i gydweithio, rhannu a chael...
Waeth pa mor angerddol ydych chi am rywbeth, dydy angerdd ynddo’i hun ddim yn ddigon i sicrhau llwyddiant. Mae angen cyfeiriad clir arnoch chi a fydd yn eich tywys tuag at sut mae llwyddiant yn edrych ac yn teimlo i chi. Mae hynny’n gofyn am waith meddwl gofalus. Er mwyn dilyn eich angerdd yn llwyddiannus, mae angen i chi benderfynu sut rydych chi am ei ddilyn a beth yw pen draw’r daith. Mae’n golygu diffinio’ch...
Gall Eiddo Deallusol gyfrif am fwy na 70% o werth eich busnes, sy’n llawer mwy na’r asedau ffisegol yn eich busnes. Mae pedwar math o hawliau eiddo deallusol yn y DU: patentau hawlfraint nodau masnach cynlluniau cofrestredig Os nad ydych chi’n siŵr pa un (neu rai) sy’n iawn ar gyfer eich busnes chi, ewch i drosolwg Eiddo Deallusol Llywodraeth y DU. Gallwch weld sut mae nodi, diogelu a manteisio ar eich asedau Eiddo Deallusol gydag...

Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.