BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

news and blogs Archives

1551 canlyniadau

Heddiw [dydd Gwener 29 Hydref 2021] bydd y Prif Weinidog, Mark Drakeford yn cyhoeddi y bydd mesurau diogelu lefel rhybudd sero yn cael eu cryfhau er mwyn diogelu pobl a helpu i ostwng lefelau uchel o achosion o’r coronafeirws yng Nghymru. Bydd y Prif Weinidog yn dweud bod Cymru’n wynebu sefyllfa ddifrifol, ac oni bai bod y cyfraddau'n dechrau gostwng dros y tair wythnos nesaf, y bydd yn rhaid i Weinidogion ystyried ailgyflwyno rhai cyfyngiadau...
Gall sefydliadau sydd wedi’u cofrestru yn y DU wneud cais am gyfran o hyd at £8 miliwn ar gyfer prosiectau i weithio ar ddatblygu ecosystem meddalwedd digital security by design (DSbD). Daw’r cyllid hwn o’r Gronfa Her Strategaeth Ddiwydiannol. Nod y gystadleuaeth hon yw cyllido prosiectau amrywiol sy’n gweithio i gyfoethogi ac ehangu’r ecosystem meddalwedd DSbD cyn i’r caledwedd masnachol fod ar gael. Bydd prosiectau’n defnyddio Prototeip Caledwedd Technoleg DSbD (y “Morello Board” fel y’i...
Codwch arian i elusen sy’n golygu’r byd i chi wrth werthu’ch cynnyrch neu’n gwasanaethau dros y Dolig. Mae tymor y Nadolig yn adeg gyffrous! Dyma’r cyfnod gwerthu prysuraf, ond mae hefyd yn dymor ewyllys da. Dyma’r amser perffaith i’ch busnes bach gysylltu â’ch cymuned a gwneud gwahaniaeth go iawn ac mae gan ‘Work for Good’ gronfa cyllid cyfatebol o £50,000 i’ch helpu i greu mwy o argraff nag erioed! Cymerwch ran mewn 3 cham hawdd...
A hwythau wedi’i hysbrydoli gan y posibiliadau byd-eang o ran amodau cymdeithasol, technolegol a hinsoddol y deng mlynedd ar hugain nesaf, mae cymunedau ledled Cymru wedi bod yn dychmygu sut le fydd Cymru yn 2052, gan greu ‘byd stori’ ar gyfer digwyddiad diwylliannol mawr ym mis Medi 2022. Dyma fydd wrth wraidd GALWAD: sef math newydd o stori aml-lwyfan, amlieithog a fydd yn datblygu ar draws drama deledu, llwyfannau digidol a digwyddiadau byw am wythnos...
Mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi ei Chyllideb ar gyfer yr Hydref. Dyma rai pwyntiau pwysig: fis Ebrill 2022 bydd y Cyflog Byw Cenedlaethol yn codi o £8.91 yr awr i £9.50 bydd y doll tanwydd yn parhau wedi rhewi am 12fed flwyddyn toriad 5% i dreth ar gwrw a seidr drafft wedi’i weini o gynwysyddion dros 40 litr bydd hediadau rhwng meysydd awyr yn Lloegr, yr Alban, Cymru a Gogledd Iwerddon yn destun cyfradd...
Mae’r Wythnos Entrepreneuriaeth Fyd-eang yn gasgliad o ddegau o filoedd o ddigwyddiadau, gweithgareddau a chystadlaethau bob mis Tachwedd sy’n ysbrydoli miliynau i archwilio eu potensial fel entrepreneur a meithrin cysylltiadau â buddsoddwyr, ymchwilwyr, gwneuthurwyr polisi ac eraill sy’n hyrwyddo cychwyn busnes. Eleni cynhelir y digwyddiad rhwng 8 Tachwedd a 14 Tachwedd 2021. I gael rhagor o wybodaeth ewch i wefan GEW.
Mae’r ymgynghoriad hwn gan Lywodraeth y DU, sy’n berthnasol i Gymru, Lloegr a’r Alban, yn ceisio safbwyntiau gan unigolion a busnesau ar gynigion i ddiwygio rheoliadau gweithio’n hyblyg. Gall gweithio’n hyblyg fod yn werthfawr iawn i’r rhai sydd angen cydbwyso eu bywydau personol a’u bywydau gwaith, gan gynnwys y rhai sydd â chyfrifoldebau gofalu. Gall hefyd fod o fudd i gyflogwyr - gan ddenu mwy o ymgeiswyr a chynyddu cynhyrchiant a lefelau cymhelliant ymysg staff...
Saesneg yn unig. The coronavirus pandemic has had significant consequences for every aspect of our daily lives, but the world of work in particular has been turned utterly upside down. With mass redundancies, extended furlough periods, and a looming sense of uncertainty, large swathes of the UK workforce have opted to take their careers into their own hands and learn a trade. Over the past year or so, I’ve met people from all walks of...
Mae COP Cymru’n gyfres o ddigwyddiadau sy’n cynnig cyfle i bawb yng Nghymru gymryd rhan mewn trafodaethau pwysig ynghylch y newid yn yr hinsawdd drwy: lansiad Cynllun Sero Net newydd Cymru ar 28 Hydref, lle fydd Gweinidogion yn egluro cam nesaf ein llwybr (2021 i 2025) i fod yn sero net erbyn 2050 pedwar digwyddiad Sioe Deithiol Ranbarthol ledled Cymru (rhwng 4 a 10 Tachwedd) yn pwysleisio enghreifftiau perthnasol o arfer gorau a sicrhau bod...
Mae Llywodraeth y DU wedi gweithio mewn partneriaeth â Lloyds i ddarparu’r Cynllun Ailyswirio Digwyddiadau Byw. O dan y cynllun, bydd Llywodraeth y DU yn gweithredu fel ‘ailyswiriwr’ - gan gamu i’r adwy gyda gwarant i sicrhau y gall yswirwyr gynnig y cynhyrchion sydd eu hangen ar gwmnïau digwyddiadau. Bydd y cynllun yn cefnogi digwyddiadau byw ledled y DU sydd ar gael i’r cyhoedd - fel gwyliau cerddoriaeth a digwyddiadau busnes. Bydd yn talu’r costau...

Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.