BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

news and blogs Archives

1561 canlyniadau

Bydd taith Sadwrn y Busnesau Bach yn teithio ledled y DU gan alw mewn 20 o wahanol drefi a dinasoedd yn ystod cyfnod o 5 wythnos, rhwng 1 Tachwedd a 1 Rhagfyr 2021. Dyma’r lleoliadau ar gyfer pob stop yng Nghymru: Bae Colwyn – 12 Tachwedd 2021 Caerdydd – 18 Tachwedd 2021 Bydd y daith yn darparu cyngor a gwybodaeth i fusnesau bach ac mae’r sesiynau am ddim, ond rhaid eu harchebu ymlaen llaw. I...
Mae’r sector busnes cymdeithasol wedi dangos gwytnwch rhyfeddol yn ystod pandemig COVID-19. Nid yn unig y llwyddodd y sector i amsugno’r straen economaidd a chynnal ymarferoldeb beirniadol, ond ehangodd llawer o fusnesau eu hamcanion cymdeithasol i ddiwallu’r anghenion a grëwyd gan y pandemig. Mae'r adroddiad diweddaraf i'r Sector Busnes Cymdeithasol yng Nghymru yn darparu tystiolaeth o ymatebolrwydd y sector i'r pandemig a'i rôl wrth geisio lliniaru rhai o'r effeithiau cymdeithasol ac economaidd niweidiol. I gael...
Y sector trafnidiaeth a logisteg yw un o’r sectorau mwyaf yn y byd, sy’n cynnig llwyth o fathau gwahanol o yrfaoedd. Mae galw mawr am bobl i weithio yn y sector trafnidiaeth a logisteg. Os ydych yn gyflogwr, efallai y gallech chi hefyd gael cymorth. Gall y cymorth sydd ar gael ymwneud â’r rhaglenni canlynol: Gall y rhaglen ReAct hefyd helpu cyflogwyr sydd yn dymuno recriwtio unigolyn cymwys gyda chymhorthdal cyflog o hyd at £3000...
Peidiwch â chael eich dal gan frys gwyllt yr ŵyl – postiwch eich llythyrau a’ch parseli mewn da bryd. Mae cyfyngiadau Covid parhaus, llai o allu cludiant o ran awyrennau a lorïau, cynnydd yn y galw ac amodau tywydd y gaeaf i gyd yn effeithio ar gludiant a darpariaeth leol ledled y byd. Caniatewch ddigon o amser trwy bostio eitemau ac anrhegion Nadolig yn gynnar, yn enwedig ar gyfer danfoniadau rhyngwladol: Dydd Gwener 17 Rhagfyr...
Ymddiriedolwyr yw’r bobl sy’n gyfrifol am elusennau. Maen nhw’n chwarae rôl allweddol, yn gwirfoddoli eu hamser ac yn gweithio gyda’i gilydd i wneud penderfyniadau pwysig am waith yr elusen. Mae Wythnos Ymddiriedolwyr yn ddigwyddiad blynyddol i arddangos gwaith gwych yr ymddiriedolwyr a thynnu sylw at y cyfleoedd sydd ar gael er mwyn i bobl o bob cefndir gymryd rhan a gwneud gwahaniaeth. Bydd Wythnos Ymddiriedolwyr eleni yn cael ei chynnal rhwng 1 Tachwedd ac 5...
Mae Awdurdod y Diwydiant Diogelwch (SIA) yn agor cofrestru ar gyfer ei gynhadledd genedlaethol 2021 am ddim. Cynhelir cynhadledd eleni ddydd Mercher 10 Tachwedd 2021. Dyma’r tro cyntaf i’r SIA gynnal fforwm o’r maint hwn ers dechrau pandemig COVID-19. Thema cynhadledd eleni fydd ‘Cyfleoedd am well diogelwch cyhoeddus mewn byd ôl-COVID-19’. Mae’r gynhadledd ar agor i bob gweithiwr diogelwch trwyddedig ac mae’n rhad ac am ddim. Am ragor o wybodaeth, ewch i GOV.UK.
Mae rhifyn Hydref o’r Bwletin Cyflogwyr yn dod â’r diweddaraf i chi o CThEM a chanllawiau i gefnogi cyflogwyr ac asiantau cyflogres. Mae ynddo wybodaeth bwysig am: Y Cynllun Talu Wrth Ennill, gan gynnwys newidiadau treth ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol Pontio’r DU a Chonfensiwn Y DU – Y Swistir y cytunwyd arno’n ddiweddar ar gydlynu Diogelwch Cymdeithasol Gwybodaeth am COVID-19 gyda diweddariadau ar y Cynllun Cadw Swyddi drwy gyfnod y Coronafeirws diweddariadau treth...
Cafodd y Diwrnod Mentora Cenedlaethol ei sefydlu er mwyn cydnabod manteision sylweddol mentora ar draws y DU ac mae’n cael ei gynnal ar 27 Hydref bob blwyddyn. Mae mentora yn golygu bod un person yn rhoi cymorth i’r llall, a gall wneud gwahaniaeth sylweddol i wybodaeth, gwaith, a ffordd o feddwl y sawl sy’n cael ei fentora. Mae pawb - unigolion, cwmnïau, ysgolion, cymunedau, prifysgolion a llywodraethau, yn cael eu hannog i rannu eu straeon...
Mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi canllawiau ar yr hyn sydd angen i fusnesau ei wneud er mwyn defnyddio safleoedd tollau porthladd rhydd. Maent yn cynnwys gwybodaeth am sut i wneud cais am weithdrefnau tollau arbennig a'u defnyddio. Mae safleoedd tollau porthladdoedd rhydd (a elwir hefyd yn 'barthau rhydd' neu Freeport hefyd) yn barthau tollau diogel lle gallwch fewnforio neu allforio nwyddau y tu mewn i ffin tir y DU, ond lle mae rhai rheolau...
Mae ugain o wledydd yr UE yn caniatáu i gerddorion a pherfformwyr o'r DU deithio yno heb fisa a thrwydded waith. Y gwledydd hyn yw: Awstria, Gwlad Belg, y Weriniaeth Tsiec, Denmarc, Estonia, y Ffindir, Ffrainc, yr Almaen, Hwngari, Iwerddon, yr Eidal, Latfia, Lithwania, Lwcsembwrg, yr Iseldiroedd, Gwlad Pwyl, Romania, Slofacia, Slofenia a Sweden. Mae'r cyfnod a'r gofynion yn amrywio o'r naill Aelod-wladwriaeth i'r llall; argymhellir y dylai gwladolion y DU wirio pa ofynion y...

Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.