BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

news and blogs Archives

1571 canlyniadau

Llywodraeth Cymru'n lansio ymgyrch ‘Bydd bositif’ i godi ymwybyddiaeth o'r warant i bobl ifanc. Mae’r ymgyrch ‘Bydd Bositif’, yn ceisio cyfleu Gwarant Llywodraeth Cymru i Bobl Ifanc ac annog pobl ifanc Cymru i ymgysylltu’n gadarnhaol â’u cynlluniau ar gyfer y dyfodol. Mae’r ymgyrch wedi’i datblygu mewn ymateb i effaith COVID-19 ar y cyfleoedd cyflogaeth ac addysgol sy’n wynebu pobl ifanc. Roedd pobl dan 25 oed mewn tri o bob pum swydd a gollwyd yn ystod...
Mae'r dyddiad cau ar gyfer cwblhau ffurflen dreth ar gyfer blwyddyn dreth 2020 i 2021 yn agosáu. Mae Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi (CThEM) yn atgoffa cwsmeriaid Hunanasesiad i wirio bod yr wybodaeth gywir ganddynt er mwyn cwblhau eu ffurflen dreth. Y dyddiad cau ar gyfer dychwelyd y ffurflen treth ar gyfer blwyddyn dreth 2020 i 2021 yw 31 Hydref 2021 ar gyfer y rhai sy’n cael eu cwblhau ar ffurflenni papur a 31 Ionawr...
Mae Gwobrau Sefydliad y Cyfarwyddwyr (IOD) bellach ar agor i geisiadau. Maen nhw’n dathlu talent, llwyddiant a chyflawniadau arweinwyr ac yn tynnu sylw at ragoriaeth fusnes a’r cyfraniadau eithriadol y gall cyfarwyddwyr eu gwneud at ffyniant economaidd a chymdeithasol yn y gymuned. Beth bynnag yw’ch sector neu sefydliad – a ph’un ai’ch bod yn gyfarwyddwr ar gwmni sydd wedi hen ennill ei blwyf, busnes newydd arloesol, busnes teuluol, busnes bach a chanolig, neu’r Trydydd Sector...
Yn ddiweddar, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru becyn o gefnogaeth i adfywio canol trefi Cymru. Y nod yw galluogi busnesau i gynllunio prosiectau sy'n arwain at dwf economaidd ynghyd â'u helpu i wneud y defnydd gorau o dechnoleg ddigidol. Mae hyn yn cynnwys defnyddio data i helpu cwmnïau ddeall sylfaen a thueddiadau eu cwsmeriaid yn well, er mwyn cefnogi busnesau yn eu gweithgareddau cynllunio a marchnata yn y dyfodol. Cyflawnir hyn drwy ‘Blwyddyn y Trefi SMART’ ac...
Cynhelir Diwrnod Gwisgo Coch yng Nghymru, Lloegr a'r Alban ar 22 Hydref 2021. Mae Diwrnod Gwisgo Coch yn ddiwrnod cenedlaethol o weithredu sy’n annog ysgolion, busnesau ac unigolion i wisgo coch a rhoi arian i helpu i hwyluso addysg wrth-hiliaeth i bobl ifanc ac oedolion ledled Cymru, Lloegr a’r Alban. Mae pob ceiniog a gaiff ei chodi yn ystod y Diwrnod hwn yn galluogi’r ymgyrch i weithio gyda mwy o bobl ifanc ac oedolion ledled...
Mae gan Gymru ddiwydiant bwyd a diod bywiog, sy’n amrywio o fusnesau artisan bach i gwmnïau bwyd mwy. Mae’r busnesau hyn yn gwerthu pob math o gynnyrch – o eitemau arbenigol ar gyfer marchnadoedd penodol i eitemau ar raddfa fawr ar gyfer rhwydweithiau dosbarthu sylweddol. Yn dilyn llwyddiant ysgubol y digwyddiad yn 2019, bydd BlasCymru/TasteWales 2021 yn dod â chynhyrchwyr, prynwyr a gweithwyr proffesiynol o’r diwydiant bwyd at ei gilydd ar gyfer cynhadledd a digwyddiad...
Rhwng 18 Hydref a 24 Hydref 2021 bydd partneriaid, gwirfoddolwyr a chymunedau yn dod at ei gilydd i sicrhau y gall pawb gymryd rhan yn y byd digidol. Bydd miloedd o ddigwyddiadau yn cael eu cynnal mewn cannoedd o gymunedau, gan ddarparu ffordd gyfeillgar a chroesawgar i helpu pobl i gymryd y cam nesaf ar eu taith ar-lein, i ddatblygu sgiliau ac i wella bywydau ar hyd y ffordd. Mae yna ganllawiau ac adnoddau defnyddiol...
Beth yw'r system seiliedig ar bwyntiau? Beth yw trothwy cyflog? Sut ydw i'n cael trwydded noddi? Beth sydd angen i mi ei wneud ar gyfer fy nghyflogwyr cenedlaethol yn yr UE? Ar 1 Ionawr 2021 daeth symudiad rhydd i ben a chyflwynwyd system fewnfudo newydd yn y DU sy'n seiliedig ar bwyntiau. Mae'r system newydd yn trin dinasyddion yr UE a dinasyddion y tu allan i'r UE yn gyfartal ac wedi trawsnewid y modd mae...
Mae CThEM yn annog cwsmeriaid Credyd Treth Gwaith i edrych a oes angen iddynt ddiweddaru eu horiau gwaith os yw’r rhain wedi’u gostwng yn sgil coronafeirws. Yn ystod y pandemig, nid yw cwsmeriaid Credyd Treth Gwaith wedi bod angen dweud wrth CThEM am ostyngiadau tymor byr dros dro yn eu horiau gwaith yn sgil coronafeirws – er enghraifft os oeddynt yn gweithio llai o oriau neu ar ffyrlo. Os gostyngodd oriau cwsmer Credyd Treth dros...
Mae cwrs e-ddysgu newydd Guardians of Grub, ‘Becoming a Champion’, wedi’i ddatblygu gan weithwyr diwydiant proffesiynol, a bydd yn mynd â’ch sgiliau lleihau gwastraff bwyd i’r lefel nesaf. Dyma gyfle gwych i uwchsgilio a gwneud gwahaniaeth positif i chi, eich pobl, eich elw a’r blaned. Dyma’ch cyfle i ymuno â chymuned sy’n tyfu o weithwyr proffesiynol y Diwydiant Lletygarwch a Gwasanaethau Bwyd sydd wedi dod i gael eu hadnabod fel Hyrwyddwyr, ac sy’n arwain yr...

Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.