BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

news and blogs Archives

1581 canlyniadau

Mae gweithlu’r DU yn heneiddio. Mae pobl eisiau ac angen gweithio am gyfnod hirach ac mae angen i gyflogwyr wneud defnydd mwy effeithiol o weithlu hŷn. Mae hyn yn arbennig o wir o safbwynt menywod - nhw sydd wedi sbarduno’r prif dwf yn y gweithlu hŷn yn ystod y degawd diwethaf. Mae llawer o fenywod bellach yn dychwelyd i’r gwaith ar ôl rhoi genedigaeth ac mae diwygio’r system bensiynau wedi ymestyn bywydau gwaith menywod. Bellach...
Mae'r Cynllun Kickstart yn darparu cyllid i greu swyddi newydd i bobl ifanc 16 i 24 oed ar Gredyd Cynhwysol sy'n wynebu risg o ddiweithdra hirdymor. Gall cyflogwyr o bob maint wneud cais am gyllid hyd at 17 Rhagfyr 2021 sy'n cwmpasu: 100% o'r Isafswm Cyflog Cenedlaethol (neu'r Cyflog Byw Cenedlaethol yn dibynnu ar oedran y sawl sy'n cymryd rhan) am 25 awr yr wythnos am gyfanswm o 6 mis cyfraniadau Yswiriant Gwladol cyflogwr cysylltiedig...
Mae tymor y Nadolig yn cael effaith fawr ar fwyafrif busnesau a gweithwyr y Deyrnas Unedig. Dyma amser pan fydd mwy o alw am gynnyrch a gwasanaethau a nwyddau i’w gwerthu mewn rhai busnesau. Mae eraill yn wynebu cyfnod tawel neu’n cau efallai dros y gwyliau. Eleni, mae Dydd Nadolig, 25 Rhagfyr 2021, ar ddydd Sadwrn a Gŵyl San Steffan, 26 Rhagfyr 2021, ar ddydd Sul. Sy'n golygu y bydd dydd Llun 27 Rhagfyr 2021...
Wyt ti eisiau defnyddio bach mwy o Gymraeg yn dy fusnes? Ry’n ni newydd gyhoeddi rhestr o adnoddau technoleg Cymraeg ar ein gwefan sy’n gallu helpu gyda hyn. Dyma rai o’r enghreifftiau o’r mathau o bethau sydd ar gael am ddim: Cysgliad – eisiau magu hyder wrth ysgrifennu yn Gymraeg? Mae Cysgliad yn wirydd sillafu ac yn gyfres o eiriaduron Cymraeg. Mae mwy na chwe mil o gopïau wedi'u lawrlwytho ers ei ryddhau yn rhad...
Bydd y Weinyddiaeth Gyfiawnder yn cynnal digwyddiad rhithwir rhyngweithiol am ddim i gefnogi busnesau o bob sector sydd â diddordeb mewn recriwtio pobl sy’n gadael carchar. Cewch gyfle i glywed gan fusnesau blaenllaw sydd eisoes yn cael budd o recriwtio pobl sy’n gadael carchar, yn cynnwys Timpson, Greene King a Greggs. Bydd y brif sesiwn yn sôn am lenwi eich bylchau sgiliau drwy recriwtio o garchardai, ac yna bydd tri gweithdy a fydd yn trafod...
Mae Llywodraeth y DU yn ymgynghori ar weithrediad Rheolau Cofnodi Model ar gyfer Platfformau Digidol y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygu Eonomaidd (OECD) sy’n ei gwneud yn ofynnol i blatfformau digidol gofnodi manylion incwm eu gwerthwyr ar eu platfform i’r awdurdod treth a hefyd i’r gwerthwyr. O fis Ionawr 2023, bydd y rheolau hyn yn ei gwneud yn ofynnol i blatfformau gofnodi gwybodaeth am incwm gwerthwyr sy’n darparu nwyddau a gwasanaethau i helpu gwerthwyr...
Rhaid i bobl yng Nghymru ddangos Pàs COVID neu eu statws COVID-19 i fynd i glybiau nos a digwyddiadau mawr o heddiw ymlaen. Mae cyflwyno’r Pàs COVID yn adeiladu ar y mesurau sydd ar waith i helpu i ddiogelu Cymru a’i chadw ar agor yn ystod y pandemig. Mae achosion o’r coronafeirws yn uchel o hyd ledled Cymru, yn enwedig ymysg oedolion iau. Mae’r gyfraith yn newid heddiw i’w gwneud yn ofynnol i oedolion dros...
Mae’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch yn parhau i gynnal hapwiriadau ac arolygiadau ar bob math o fusnesau, ym mhob ardal, er mwyn sicrhau eu bod yn gweithio’n ddiogel i leihau’r risg o COVID. Yn ystod yr hapwiriadau, bydd yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch yn darparu cyngor ac arweiniad i reoli risg a diogelu gweithwyr, cwsmeriaid ac ymwelwyr. Fodd bynnag, lle nad yw rhai busnesau’n llwyddo i wneud hyn, bydd yr Awdurdod Gweithredol Iechyd...
Cynhelir Wythnos Ymwybyddiaeth o Dwyll Elusennol rhwng 18 a 22 Hydref 2021 ac mae'n ymgyrch sy'n cael ei rhedeg gan bartneriaeth o elusennau, rheoleiddwyr, rhai sy’n gorfodi’r gyfraith, cynrychiolwyr a rhanddeiliaid nid-er-elw eraill o bob cwr o'r byd. Pwrpas yr wythnos yw codi ymwybyddiaeth o dwyll a seiberdroseddu sy'n effeithio ar y sector a chreu lle diogel i elusennau a'u cefnogwyr siarad am dwyll a rhannu arferion da. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i...
Cynhelir digwyddiad Autolink eleni yn Stadiwm Dinas Caerdydd ar 19 Hydref 2021. Mae’n gyfle i fusnesau sy’n rhan o ddiwydiant modurol Cymru alw heibio a chlywed am arloesedd, cyfleoedd a heriau yn y gadwyn gyflenwi. Bydd y siaradwyr yn cynnwys: Vaughan Gething AS, Gweinidog yr Economi Ian Henry, Autoanalysis HMM (Europe) LTD Yr Athro Dr Richard Keegan BE, CENG®, MCOMM, PHD, FIEI(R) Meritor HVBS a’r APC Am ragor o wybodaeth ac i gadw’ch lle, ewch...

Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.