BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

news and blogs Archives

1591 canlyniadau

Heddiw, bydd y Prif Weinidog, Mark Drakeford, yn cyhoeddi cynlluniau newydd i gadw Cymru ar agor ac yn ddiogel yn ystod y misoedd anodd sydd o’n blaenau dros yr hydref a’r gaeaf. Mae Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi Cynllun Rheoli’r Coronafeirws ar ei newydd wedd. Yn y Cynllun, rhoddir manylion bras y camau gweithredu allweddol a allai gael eu rhoi ar waith i reoli lledaeniad y feirws. Ar gyfer y tair wythnos nesaf, yn dilyn yr...
Cynhelir yr wythnos rhwng 18 a 22 Hydref 2021. Mae'r digwyddiad eleni yn gyfle o’r newydd i ddathlu prentisiaethau yn y sector a dod â'r gymuned letygarwch gyfan at ei gilydd i arddangos y llwybrau gyrfa unigryw ac amrywiol mae'r sector gwych a chyffrous hwn yn eu cynnig. Nod yr wythnos fydd ceisio herio'r camsyniadau sy'n gysylltiedig â gyrfaoedd ym myd lletygarwch a sut mae'n golygu mwy na swydd #MoreThanAJob. Bydd thema wahanol bob dydd...
Mae Llywodraeth Cymru yn lansio rhaglen hyblyg newydd i helpu pobl ifanc 16-18 oed i wireddu’r potensial ac i gymryd eu camau cyntaf i fyd gwaith. Nod y rhaglen Twf Swyddi Cymru + Mwy yw creu cyfleoedd all newid bywydau’r rheini nad ydynt mewn addysg, gwaith na hyfforddiant. Daw’n rhan sylfaenol hefyd o Warant Llywodraeth Cymru i Bobl Ifanc sy’n anelu at sicrhau na fydd cenhedlaeth goll yng Nghymru oherwydd y coronafeirws. Bydd Twf Swyddi...
Mae grantiau gwerth hyd at £5,000 ar gael i helpu i ddatblygu menywod, unigolion trawsryweddol ac unigolion anneuaidd rhagorol sy’n ysgrifennu ac yn cyfansoddi caneuon o bob math. Mae’r grantiau ar gael i unigolion perthnasol o bob cefndir a chyfnod gyrfa. Mae’r cyllid ar gael i gefnogi teithio, recordio, hyrwyddo a marchnata, prosiectau cymunedol yn ymwneud â chyfansoddwyr cerddoriaeth o ansawdd uchel, cyfnodau preswyl cyfansoddi cerddoriaeth a pherfformiadau byw o gerddoriaeth newydd yn y DU...
Ydych chi’n BBaCh wedi’i leoli yng Nghymru gydag eiddo deallusol yr hoffech ei roi ar y farchnad? Mae AgorIP yn gwahodd busnesau bach i ganolig i ymgeisio am gymorth ac arian! Fe all eich helpu i gyflwyno technolegau a syniadau newydd i’r farchnad a hwyluso’r gwaith o fasnacheiddio eich ymchwil. Mae AgorIP yn brosiect arloesedd unigryw sy’n gweithio i ddod â syniadau a dyfeisiau’n fyw. Wedi’i ariannu’n rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth...
Mae'r Defence Science and Technology Laboratory (DSTL) wedi cyhoeddi dyddiadau ar gyfer cyfres newydd o weminarau a gynlluniwyd i helpu busnesau bach a chanolig i weithio gyda'r sector amddiffyn. Gweminarau rhad ac am ddim yw’r rhain, a does dim rhaid i fusnesau fod wedi gweithio gyda DSTL neu'r sector amddiffyn o'r blaen. Mae croeso i weithgynhyrchwyr cyfarpar a deunyddiau, peirianwyr, arloeswyr, ymchwilwyr, academyddion, ac eraill sydd â gwir ddiddordeb a'r gallu i weithio gyda DSTL...
Mae Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd yn dathlu ymwybyddiaeth i'r gymuned fyd-eang mewn ffordd empathig, gyda llais sy'n uno, gan helpu unigolion i deimlo'n obeithiol trwy eu grymuso i weithredu ac i greu newid parhaol. Gall problemau iechyd meddwl effeithio ar unrhyw un, unrhyw ddiwrnod o'r flwyddyn, ond mae 10 Hydref yn ddiwrnod gwych i ddangos eich cefnogaeth i well iechyd meddwl a dechrau gofalu am eich lles eich hun. Mae gan Sefydliad Iechyd Meddwl...
Mae’n bleser gan y rhaglen Cymru Iach ar Waith (HWW), a ddarperir gan Iechyd Cyhoeddus Cymru ar ran Llywodraeth Cymru, gyhoeddi eu rhith ddigwyddiad canmoliaeth Covid-19 i'w gynnal ar ddydd Mercher 8 Rhagfyr 2021. Bydd y digwyddiad yn dathlu cyflogwyr ar draws Cymru, sydd wedi arddangos arloesedd, creadigrwydd ac ymroddiad i lesiant eu staff mewn ymateb i'r pandemig COVID-19. Bydd y digwyddiad yn lle ble gall busnesau ddysgu gan ei gilydd ac arddangos eu cyflawniadau...
Mae cryn drafod a dadlau wedi bod am y thema hunangyflogaeth. Sut a pham mae unigolion yn dod yn entrepreneuriaid neu benderfynu mynd yn hunangyflogedig neu ddechrau eu busnes eu hunain? Yn amlwg, mae rhai yn cael eu gorfodi yn sgil colli swydd neu ddiswyddo yn yr hinsawdd sydd ohoni, ond mae eraill mewn swyddi diogel da yn penderfynu mynd amdani hefyd! Yr ail grŵp sydd o ddiddordeb mawr i ni – mae’n beth dewr...
Mae Llywodraeth Cymru wedi estyn y cynllun cymhellion i fusnesau ar gyfer recriwtio prentisiaid yng Nghymru tan fis Chwefror 2022. Mae’r Cynllun Cymhellion Cyflogwyr i Brentisiaid yn rhan allweddol o Ymrwymiad Covid Llywodraeth Cymru i gynorthwyo busnesau a gweithwyr i wella o effeithiau’r coronafeirws. Roedd y cynllun i fod i fod i gau ddoe (30 Medi 2021), ond bydd y cynllun nawr yn parhau i gefnogi busnesau tan 28 Chwefror 2022. O dan y cynllun...

Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.