BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

news and blogs Archives

1711 canlyniadau

Gwasanaeth rhad ac am ddim gan y Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol (NCSC) yw 'Early Warning' sydd wedi'i gynllunio i roi gwybod i'ch sefydliad am ymosodiadau seiber posibl ar eich rhwydwaith, cyn gynted â phosibl. Mae'r gwasanaeth yn defnyddio amryw o ffrydiau gwybodaeth gan yr NCSC, ffynonellau cyhoeddus, masnachol a chaeedig y gellir ymddiried ynddynt, sy'n cynnwys nifer o ffrydiau breintiedig nad ydynt ar gael mewn mannau eraill. Mae ‘Early Warning’ yn helpu sefydliadau i ymchwilio i...
Mae Cronfa Her Cymru Werdd yn bartneriaeth ar y cyd rhwng Ffilm Cymru a Clwstwr, fydd yn edrych ar ddulliau arloesol a chreadigol o fynd ati i feithrin sector sgrin cynaliadwy i Gymru i ymchwilio i, a datblygu dulliau newydd o weithio yn y diwydiant ffilm a theledu, gyda’r nod o gyflawni allyriadau carbon net sero erbyn 2050. Bydd y gronfa arloesi amlddisgyblaethol newydd yn edrych i ganfod datrysiadau i’r prif heriau amgylcheddol o fewn...
Mae hawliadau o dan y Cynllun Cadw Swyddi drwy gyfnod y Coronafeirws (CJRS) bellach ar agor ar gyfer cyfnodau tâl ym mis Gorffennaf 2021. Rhaid i chi gyflwyno'ch hawliad ar gyfer mis Gorffennaf 2021 erbyn 16 Awst 2021. Dyma'r dyddiadau hawlio yn y dyfodol: ar gyfer diwrnodau ffyrlo ym mis Awst 2021, cyflwynwch eich hawliad erbyn 14 Medi 2021 ar gyfer diwrnodau ffyrlo ym mis Medi 2021, cyflwynwch eich hawliad erbyn 14 Hydref 2021 Am...
Bydd y Gronfa Cadernid Economaidd yn darparu cymorth ar ffurf grantiau arian parod i fusnesau, mentrau cymdeithasol ac elusennau a busnesau cadwyn gyflenwi cysylltiedig sydd yn parhau i’w cael eu heffeithio’n negyddol sylweddol o ganlyniad i gyfyngiadau parhaus COVID-19. Bydd y grantiau'n helpu i dalu costau gweithredu (ac eithrio cyflogau staff) ar gyfer y cyfnod rhwng 1 Gorffennaf 2021 a 31 Awst 2021. Mae ceisiadau ar gyfer y Gronfa Cadernid Economaidd gyda throsiant o fwy...
Cynhelir Gwobrau Busnes Powys ddydd Gwener 8 Hydref 2021. Bydd digwyddiad eleni yn wahanol iawn gan y bydd yn ddigwyddiad “Gyrru i mewn” ym maes parcio Campws Drenewydd NPTC, gyda llwyfannau a sgriniau yn yr awyr agored a bwyd a diodydd tecawê. Mae’r gwobrau yn gyfle i bob busnes, menter gymdeithasol ac elusen ym Mhowys gystadlu am y cyfle i gyrraedd y rownd derfynol boed yn fusnesau mawr neu fach neu’n newydd neu’n bodoli ers...
Mae cynnal profion COVID-19 cyflym yn rheolaidd yn rhan hanfodol o’r camau y gellir eu cymryd i reoli risgiau er mwyn cadw eich staff, cwsmeriaid a’ch busnes yn ddiogel. Nid yw bron i 1 ym mhob 3 o bobl sydd â’r coronafeirws yn dangos unrhyw symptomau, ac felly mae’n bwysig bod pobl yn cael profion rheolaidd er mwyn helpu i atal y feirws rhag lledaenu. Mae profion cyflym ddwywaith yr wythnos ar gael i bobl...
Gan fod y DU wedi gadael yr Undeb Ewropeaidd (UE), mae angen datgan tollau ar bopeth sy’n cael ei fewnforio a’i allforio rhwng Prydain Fawr a’r UE. Efallai y bydd yn rhaid i chi hefyd dalu tollau a pharhau i dalu trethi eraill fel TAW mewnforio. Dyma’r pethau pwysig i’w cofio: os ydych chi’n allforio, mae eisoes angen i chi wneud datganiadau allforio wrth allforio'ch nwyddau os ydych chi’n mewnforio nwyddau rheoledig, mae’n rhaid i...
Eluned Morgan AS, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol datganiad ysgrifenedig isod: Hoffwn egluro’r sefyllfa yng Nghymru a'r camau sy'n ofynnol i ddefnyddwyr Ap Covid-19 y GIG sy'n cael gwybod eu bod wedi bod mewn cysylltiad â rhywun sydd wedi profi'n bositif am Covid-19. Mae cyfraddau achosion yng Nghymru wedi bod yn codi, ac o ganlyniad mae nifer y cysylltiadau y gofynnir iddynt hunanynysu, boed hynny gan swyddogion olrhain cysylltiadau Profi Olrhain Diogelu (TTP) neu...
Mae Llywodraeth Cymru wedi lansio cynllun newydd fydd yn helpu busnesau bwyd a diod o Gymru i gael eu cynnyrch ar silffoedd y siopau mwyaf. Mae Cynllun Manwerthu Bwyd a Diod Cymru wedi cael ei ddatblygu gyda chymorth grŵp o arbenigwyr o’r diwydiant i weld mwy o dwf yn nhrosiant y diwydiant bwyd a diod yng Nghymru o’i gymharu â’r sector yn y DU gyfan. Mae wyth amcan i’r cynllun, gan gynnwys creu llif o...
Mae Acas wedi cyhoeddi cyngor newydd i helpu cyflogwyr ystyried a allai gweithio hybrid fod yn opsiwn ar gyfer eu gweithle a sut i’w gyflwyno’n deg. Math o weithio’n hyblyg yw gweithio hybrid, lle mae staff yn rhannu eu hamser rhwng gweithio o bell a gweithio yng ngweithle eu cyflogwr. Mae’r cyngor yn cynnwys awgrymiadau i gyflogwyr ar sut i: ymgynghori’n eang gyda staff i drafod ystyriaethau ymarferol cyflwyno’r drefn hon ystyried a fyddai’n gweithio...

Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.