BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

news and blogs Archives

1721 canlyniadau

Mae Cynllun Kickstart yn darparu cyllid i greu swyddi 6 mis newydd ar gyfer pobl ifanc 16 - 24 oed sy’n derbyn Credyd Cynhwysol ac sydd mewn perygl o fod yn ddi-waith yn hirdymor. Gall busnesau ddarllen prosbectws newydd yr Adran Gwaith a Phensiynau i gyflogwyr neu fynychu un o’i gweminarau i gyflogwyr i ddysgu mwy. Mae gwybodaeth am sut i wneud cais ar gael yn gov.uk/kickstart. Mae pecyn cymorth cyfathrebu newydd yn awgrymu dulliau...
Canllawiau i fusnesau twristiaeth a lletygarwch ar sut i gadw gweithwyr ac ymwelwyr yn ddiogel yn ystod y pandemig coronafeirws (COVID-19). Gofalwch eich bod yn ymwybodol o Ganllawiau Lletygarwch y DU Cymru yn ogystal â’r Canllawiau ar gyfer busnesau Twristiaeth a Lletygarwch a’ch bod yn cadw llygad am ddiweddariadau. Gwyliwch y ffilm fer hon i’ch helpu i lywio’ch ffordd o gwmpas y canllawiau. Mae gwybodaeth ar gael hefyd ar newidiadau diweddar a rhai sydd ar...
Bydd gan bobl ledled Cymru y cyfle i ddod yn berchnogion tafarndai, theatrau, swyddfeydd post, caeau chwarae a siopau cornel sydd mewn perygl, diolch i lansiad Cronfa Perchnogaeth Gymunedol Llywodraeth y DU, a fydd yn gweld mwy na £7 miliwn yn cael ei neilltuo ar gyfer prosiectau yng Nghymru. Bydd y gronfa yn para pedair blynedd (hyd 2024/2025). Bydd sawl cylch gwneud cais am arian. Agorodd y cyntaf ar 15 Gorffennaf 2021 a bydd yn...
Yn dilyn y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau i’r Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE, mae’r broses ar gyfer cwblhau archwiliadau hawl i weithio ar gyfer dinasyddion yr UE, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd, a’r Swistir wedi newid. Ni all cyflogwyr dderbyn pasbortau neu gardiau adnabod yr UE bellach fel tystiolaeth ddilys o hawl i weithio, ac eithrio ar gyfer rhai dinasyddion o Iwerddon. Yn hytrach, mae angen i chi wirio hawl ymgeisydd am swydd...
Gyda'r tymheredd yn codi i'r entrychion mewn rhannau o Gymru'r wythnos hon, gwnewch yn siŵr bod y cyngor a'r arweiniad cywir gennych i weithio'n ddiogel. Mae'n bwysig cofio'r risgiau o orboethi wrth weithio mewn amodau poeth. Mae gan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch ddigon o arweiniad ar dymheredd yn y gweithle, gan gynnwys: A yw'n rhy boeth i weithio? Beth mae'r gyfraith yn ei ddweud Canllawiau gweithio yn yr awyr agored Straen gwres Dysgwch...
Mae Cyllid a Thollau EM (CThEM) yn annog busnesau'r DU i baratoi ar gyfer newidiadau i dollau a fydd yn cael eu cyflwyno dros y 6 mis nesaf. Bydd dros 160,000 o fusnesau yn derbyn llythyr gan CThEM yn esbonio'r camau y dylent eu cymryd i sicrhau y gallant barhau i fasnachu â'r UE. Mae’r rhain yn cynnwys: gwneud datganiadau atodol penodi cyfryngwr tollau gofynion Tystysgrif Iechyd Allforio Bydd CThEM hefyd yn cysylltu â chwsmeriaid...
Mae hyd at 15 o fusnesau arloesol twf uchel yn cael eu cefnogi yn ystod pob Rhaglen Arloesi i Fusnesau Fyd-eang. Maen nhw’n archwilio ac yn manteisio ar y cyfleoedd i gydweithio, tyfu ac arloesi sy’n bodoli mewn marchnad fusnes benodol sy’n canolbwyntio ar thema benodol, o Amaeth i TG. Mae’r Rhaglen Arloesi i Fusnesau Fyd-eang (GBIP) yn rhoi gwybodaeth fanwl am y farchnad, cyflwyniadau a blas diwylliannol y byddai’n anodd i BBaChau ei chael...
Mae rhaglen newydd i helpu cwmnïau o Gymru nad ydynt erioed wedi allforio o'r blaen i werthu eu cynnyrch mewn marchnadoedd rhyngwladol newydd yn cael ei lansio gan Weinidog yr Economi, Vaughan Gething. Bydd y Rhaglen Allforwyr Newydd, sy'n un o'r mentrau cymorth newydd sy'n cael ei chyflwyno fel rhan o gynllun gweithredu Llywodraeth Cymru ar gyfer Allforio, yn cefnogi cwmnïau nad ydynt erioed wedi allforio o'r blaen neu sydd wedi allforio'n ysbeidiol, i werthu...
Nod yr alwad am Grantiau am Syniadau Archwiliadol, rhan o’r Rhaglen Technoleg Gofod Genedlaethol, yw ariannu prosiectau byr tri mis sy’n cefnogi gweithgareddau technoleg gofod arloesol, gan annog cydweithio rhwng diwydiant ac academyddion, ac annog gweithredwyr newydd yn y sector gofod. Gallai prosiectau gynnwys: Trosglwyddo gwybodaeth Datblygu sgiliau Astudiaethau o’r farchnad Tystiolaeth o gysyniadau ar gyfer technoleg gofod Mae Asiantaeth Ofod y Deyrnas Unedig yn annog y rhai sy’n newydd i dechnoleg gofod gymryd rhan...
Mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi cynlluniau i roi diwedd ar werthu bylbiau golau halogen o fis Medi 2021, fel rhan o ymdrechion ehangach y DU i fynd i’r afael â newid hinsawdd. Bydd deddfwriaeth a gyflwynir hefyd yn cynnwys tynnu fflworoleuadau oddi ar y silffoedd o fis Medi 2023. Bydd halogenau HL R7 yn dal i fod ar gael ar y farchnad, a rhai fflworoleuadau fel T5s. Bydd eithriadau ar waith ar gyfer lampau...

Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.