BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

news and blogs Archives

1731 canlyniadau

Mae grantiau hyd at £150,000 ar gael i gefnogi elusennau a Chwmnïau Buddiannol Cymunedol sy’n gweithio i ddatblygu sgiliau digidol ac ariannol pobl. Mae’r cyllid ar gael trwy Gronfa Grymuso Ariannol a Digidol Ymddiriedolaeth Santander, sy’n gronfa newydd gwerth £1.8 miliwn. Bydd y gronfa yn cefnogi hyd at 12 prosiect sy’n helpu i ddarparu adnoddau, gwybodaeth a hyder i bobl dan anfantais fel eu bod yn gallu gwneud penderfyniadau gwell ar sail gwybodaeth am arian...
Mae Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn ceisio cyflawni ei hamcanion elusennol ac arddangos y diwydiant amaethyddol ar-lein gyda dathliad wythnos. Bydd y sioe rithiol yn cael ei lansio ar 19 Gorffennaf 2021 a bydd yn cael lle amlwg yn ogystal ar sianeli cyfryngau cymdeithasol y Gymdeithas ble bydd dilynwyr yn gallu mwynhau amrywiaeth o fideos addysgiadol a fydd ar gynnig wythnos y sioe, yn digwydd rhwng y 19 a 22 Gorffennaf 2021. Am ragor o...
UK Trade Tariff: imports and community transport inwards – Os ydych chi’n gwneud datganiad yn defnyddio’r Gwasanaeth Datganiad Tollau (CDS), dilynwch y cyfarwyddyd yn UK Trade Tariff: volume 3 for CDS. Making a delayed supplementary import declaration using CHIEF – Defnyddiwch y cyfarwyddyd hwn ond os ydych yn gwneud datganiadau mewnforio ategol gan ddefnyddio’r gwasnaeth Customs Handling of Import and Export Freight (CHIEF). Making a late supplementary declaration – Gwybodaeth am beth i’w wneud os...
Mae Morgan a Mona yn ddwy fferm wynt arfaethiedig sy’n cael eu cynnig gan bp ac Energie Baden-Württemberg AG (EnBW) ym Môr Iwerddon. Maent wedi eu lleoli tua 30km o’r arfordir, gydag ardal gyfunol o oddeutu 800 km². Cyflenwyr Ar hyn or bryd, mae’r prosiect yn annog cyflenwyr sydd wedi eu lleoli yn y Deyrnas Unedig i gofrestru eu diddordeb yn enbw-bp.com/suppliers, yn arbennig felly’r rhai sydd â chysylltiadau ar draws gogledd Cymru a gogledd-orllewin...
Cyfle i gwmnïau'r DU gwrdd â chynrychiolwyr Boeing Space & Defence o adrannau caffael, technegol ac adrannau eraill BDS (Boeing Defense, Space & Security Division) mewn digwyddiad a gynhelir yng nghanolfan BDS yn Los Angeles, California. Gall cyflenwyr y DU gyflwyno eu technolegau a'u galluoedd i'r timau BDS ar sail un i un yn ogystal ag yn ystod sioe arddangos. Mae ehangu cyfleoedd i gwmnïau'r DU yng nghadwyn gyflenwi Boeing yn rhan o'r bartneriaeth twf...
Mae Aerospace Wales wedi ymuno â Hugh James, ar gyfer gweminar cyfraith cyflogaeth, sy'n trin a thrafod yr ystyriaethau allweddol i gyflogwyr mewn byd ôl-Brexit ac ôl-pandemig. Yn y weminar bydd Rhiannon Dale ac Eleanor Bamber o'r tîm Gwasanaethau Cyflogaeth ac Adnoddau Dynol yn ystyried effaith Brexit ar statws mewnfudo gwladolion yr UE, a beth fydd angen i gyflogwyr ei wneud os ydyn nhw am gyflogi gweithwyr yr UE wrth symud ymlaen. Byddant yn cwmpasu...
Bydd Cymru yn symud yn llawn i lefel rhybudd un o 17 Gorffennaf 2021. Gohiriwyd gwneud y newidiadau hyn bedair wythnos yn ôl oherwydd ymddangosiad a lledaeniad amrywiolyn Delta ar draws y DU, ac er mwyn gallu brechu mwy o bobl yng Nghymru. A bydd yna newidiadau pellach i’r rheolau ar gyfer y tu allan wrth i Gymru gymryd y cam gofalus cyntaf tuag at lefel rhybudd sero newydd. Mae manylion lefel rhybudd sero wedi’u...
Mae pandemig y Coronafeirws wedi amlygu’n hallt pa mor fregus yw sefyllfa ariannol pobl heb gynilion neu rai sydd â dim ond ychydig o arian wrth gefn. Ni fu erioed amser gwell nag yn awr i wella lles ariannol eich gweithlu ac mae Llywodraeth Cymru yn gofyn i gyflogwyr helpu drwy bartneru ag undeb credyd i gynnig cynllun cynilo i’r rheini ar gyflogres y gweithle a mynediad at gredyd fforddiadwy. Mae cynlluniau cynilo cyflogres yn...
Mae gan bob gweithiwr hawl gyfreithiol i gael yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol. Mae hyn yn cynnwys staff tymhorol dros dro, sy'n aml yn gweithio contractau tymor byr mewn bariau, gwestai, siopau a warysau dros yr haf. Y cyfraddau Isafswm Cyflog Cenedlaethol fesul awr o 1 Ebrill 2021 yw: £8.91 - 23 oed neu drosodd (Cyflog Byw Cenedlaethol) £8.36 - 21 i 22 oed £6.56 - 18 i 20 oed £4.62 - dan 18 oed £4.30...
Cafodd y Cynllun Taliadau Cymorth Hunanynysu ei agor ym mis Tachwedd 2020 i helpu pobl i oresgyn rhai o’r rhwystrau ariannol a wynebir gan y rheini y mae gwasanaeth Profi Olrhain Diogelu GIG Cymru yn dweud wrthynt bod yn rhaid hunanynysu gan fod ganddynt symptomau’r coronafeirws neu eu bod wedi dod i gysylltiad â’r haint. Mae’n helpu i gefnogi pobl na allant weithio gartref, yn ogystal â rhieni a gofalwyr ar incwm isel sydd â...

Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.