BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

news and blogs Archives

1791 canlyniadau

Mae’r marc UKCA (Marc Asesiad Cydymffurfiaeth y DU) yn farc cynnyrch DU newydd a ddefnyddir ar gyfer nwyddau sy’n cael eu gosod ar y farchnad yn Ynysoedd Prydain (Cymru, Lloegr a’r Alban). Mae’n cwmpasu’r rhan fwyaf o nwyddau yr oedd angen rhoi marc y CE arnynt, a elwir yn nwyddau ‘dulliau newydd’. Daeth marc UKCA i rym ar 1 Ionawr 2021. Fodd bynnag, er mwyn rhoi amser i fusnesau addasu i’r gofynion newydd, byddwch yn...
Bydd Diwrnod Rhyngwladol Menywod ym maes Peirianneg yn cael ei gynnal ar 23 Mehefin 2021. Ymgyrch ymwybyddiaeth ryngwladol yw'r diwrnod i godi proffil menywod ym maes peirianneg ac mae’n hoelio sylw ar y cyfleoedd gyrfa sydd ar gael i ferched yn y diwydiant hwn. Mae’n dathlu llwyddiannau nodedig peirianwyr benyw ledled y byd. Os yw eich busnes am gymryd rhan, ewch i wefan Diwrnod Rhyngwladol Menywod ym maes Peirianneg am wybodaeth ac adnoddau.
Ddydd Gwener 18 Mehefin 2021, bydd y Prif Weinidog Mark Drakeford yn cyhoeddi na fydd rheolau’r coronafeirws yn newid am bedair wythnos arall er mwyn helpu i ddiogelu rhag yr amrywiolyn delta newydd. Bu Llywodraeth Cymru yn adolygu sefyllfa iechyd y cyhoedd yr wythnos hon, hanner ffordd drwy’r cylch tair wythnos presennol o reoliadau, ar ôl cyhoeddi y byddai’n symud fesul cam i lefel rhybudd un. Cafodd y rheolau ynghylch gweithgareddau a digwyddiadau mwy yn...
Ymgyrch yw Hyb Hinsawdd Busnes y DU sy’n gofyn i fusnesau bach y DU gyda hyd at 250 o weithwyr i ymuno yn y frwydr yn erbyn newid hinsawdd drwy ymrwymo i leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr. Wrth ymrwymo, byddwch yn cael yr adnoddau i’ch helpu i ddeall eich allyriadau, sut i fynd i’r afael â nhw a sut i rannu’r hyn rydych chi’n ei wneud gyda’ch cwsmeriaid a’ch cymuned. Am ragor o wybodaeth, ewch...
Mae Llywodraeth Cymru wedi lansio'r Gronfa Entrepreneuriaeth Canol Tref fel rhaglen beilot i roi cymorth ariannol i entrepreneuriaid a busnesau sy'n awyddus i ddechrau a thyfu busnes yn un o bedwar canol tref ledled gogledd Cymru - Bangor, Bae Colwyn, y Rhyl a Wrecsam. Bydd y gronfa hon ar gael fel grant dewisol o rhwng £2,500 - £10,000 fesul busnes i gefnogi gyda'r costau refeniw sydd ynghlwm â dechrau busnes mewn canol tref neu adleoli...
Gall sefydliadau elusennol gan gynnwys cymdeithasau tai a chwmnïau buddiannau cymunedol yn wneud cais am gyllid gwerth hyd at £10,000 ar gyfer prosiectau a fydd yn helpu i addysgu landlordiaid dibrofiad am rwymedigaethau landlordiaid preifat, a phrosiectau a fydd yn helpu i addysgu tenantiaid am eu hawliau a’u cyfrifoldebau. Mae’r cyllid ar gael trwy’r Sefydliad Elusennol y Tenancy Deposit Scheme (TDS), a’r dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 27 Awst 2021 am 5pm. Mae’r Sefydliad...
Ym mis Mawrth 2021 cyflwynwyd y Strategaeth Ddiwydiannol Amddiffyn a Diogelwch i’r Senedd gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros Amddiffyn. Fel rhan o’r strategaeth bydd y diwydiant, y Llywodraeth a’r byd academaidd yn cydweithio’n fwy agos er mwyn sbarduno gwaith ymchwil, cynyddu buddsoddiad a hyrwyddo arloesedd. Bydd y Weinyddiaeth Amddiffyn yn buddsoddi dros £85 biliwn dros y pedair blynedd nesaf mewn cyfarpar a chymorth amddiffyn, ac mae’n benderfynol o gyflawni dros y Lluoedd Arfog a hefyd...
Mae'r Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnata (CMA) wedi nodi ei safbwynt ar y mathau o honiadau amgylcheddol camarweiniol a wneir am gynhyrchion a allai fod yn torri'r gyfraith, ac mae’n gofyn am ymateb ar ganllawiau drafft i fusnesau am honiadau 'gwyrdd'. Mae hyn yn seiliedig ar adolygiad gofalus o sut mae'r honiadau hyn yn cael eu gwneud a sut mae pobl yn ymateb iddynt. Mae'n esbonio'r ffordd orau i fusnesau gyfleu eu rhinweddau gwyrdd, gan leihau'r...
Mae’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE) wedi ehangu ei gyfres o becynnau cymorth i siarad i gynnwys fersiynau penodol ar gyfer y GIG a’r sector gofal cymdeithasol. Mae yna becynnau cymorth gwahanol i Gymru, sy’n cynnwys fersiwn Gymraeg, ac ar gyfer Lloegr a’r Alban. Fe’u datblygwyd gyda chymorth y sector. Mae pob pecyn cymorth yn gyfrwng i helpu rheolwyr ac eraill i gychwyn sgwrs a allai fod yn anodd gyda’u gweithwyr er mwyn cychwyn...
Mae CThEM yn cyhoeddi'r bwletin i gyflogwyr 6 gwaith y flwyddyn, gan roi'r wybodaeth ddiweddaraf i gyflogwyr ac asiantau am bynciau a materion a allai effeithio arnynt. Mae bwletin mis Mehefin yn cynnwys diweddariadau a gwybodaeth am: COVID-19 y cynllun Talu Wrth Ennill treth a newidiadau i ganllawiau cymorth i gwsmeriaid Mae’r bwletin i gyflogwyr ar gael ar-lein yn unig. Gallwch gofrestru ar gyfer gwasanaeth hysbysiadau e-bost i gyflogwyr CThEM ac fe gewch e-byst gan...

Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.