BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

news and blogs Archives

1801 canlyniadau

Mae busnesau yng Nghymoedd De Cymru wedi wynebu nifer o heriau enfawr dros y 24 mis diwethaf - effeithiau llifogydd difrifol, ansicrwydd ynghylch Prydain yn gadael yr UE, cynnydd mewn seiberdroseddu ac, yn amlwg, y pandemig COVID. Mae sicrhau cadernid busnes yn bwysicach nag erioed, ac mae cynllunio ar gyfer parhad busnes yn rhywbeth y dylai pob busnes ei ystyried. Yn y gynhadledd hon, bydd cynrychiolwyr yn clywed gan Wasanaeth Yswiriant y Ffederasiwn Busnesau Bach...
Heddiw (14 Mehefin 2021), mae Vaughan Gething, Gweinidog yr Economi, wedi cyhoeddi y bydd busnesau yng Nghymru yr effeithiwyd arnynt yn sylweddol gan y camau i symud yn raddol i Lefel Rhybudd 1, megis atyniadau dan do a lleoliadau priodas, yn cael gwerth £2.5m o gymorth pellach gan Lywodraeth Cymru. Mae cyllid ychwanegol bellach ar gael i gefnogi busnesau yr effeithir arnynt gan y newid graddol i Lefel Rhybudd 1, oherwydd yr effaith y mae...
Mae newidiadau i’r Cynllun Cadw Swyddi drwy gyfnod y Coronafeirws o fis Gorffennaf 2021. Bydd Llywodraeth y DU yn parhau i dalu 80% o gyflogau arferol eich gweithwyr ar ffyrlo am yr oriau nad ydynt yn gweithio, hyd at derfyn o £2,500 y mis, hyd ddiwedd mis Mehefin 2021. Ym mis Gorffennaf, bydd grantiau’r Cynllun Cadw Swyddi drwy gyfnod y Coronafeirws yn talu 70% o gyflogau arferol gweithwyr am yr oriau nad ydynt yn gweithio...
Mae FarmWell Cymru yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i ffermwyr Cymru a manylion gwasanaethau cymorth gan gynnwys: Yn cadw eich busnes yn gydnerth drwy newid - Dolenni i’r ffynonellau gwybodaeth mwyaf defnyddiol a hawdd eu defnyddio ar draws pob agwedd ar fusnes fferm, lle gallwch ddod o hyd i’r ffeithiau i’ch helpu chi i gynllunio’n llwyddiannus ac yn effeithlon. Aros yn ffit ac yn iach - Dolenni, cyngor a chymorth i’ch helpu chi, gyda’r bwriad o...
Diweddariad i’r Diwydiant Twristiaeth Cyflwynodd Llywodraeth Cymru ddeddfwriaeth smygu newydd yng Nghymru ar 1 Mawrth 2021. Y prif newidiadau yw bod tiroedd ysgolion, tiroedd ysbytai a meysydd chwarae cyhoeddus yn ogystal ag ardaloedd awyr agored mewn lleoliadau gofal i blant yn awr yn lleoliadau di-fwg. Yn y diwydiant twristiaeth, mae’r cyfreithiau newydd yn golygu y bydd yr eithriad presennol i’r gwaharddiad ar smygu sy’n galluogi i unigolion smygu mewn lletyau gwyliau hunangynhwysol a lletyau dros...
Mae gweithgareddau bob dydd fel siopa yn gallu bod yn heriol i gwsmeriaid sy'n agored i niwed. Mae'r Association of Convenience Stores (ACS) wedi cynhyrchu canllawiau, sy'n amlinellu rhai o'r ffyrdd y gallwch ddiwallu anghenion cwsmeriaid bregus neu agored i niwed yn y siop. Gallwch gymryd llawer o gamau bach i sicrhau bod eich siopau'n fwy hwylus a hygyrch i bawb. Gall hyn olygu darparu'r gwasanaeth mewn ffordd wahanol. Bydd gwneud addasiadau i'ch siop o...
Bydd y gystadleuaeth, a gynhelir gan yr Adran dros Dechnoleg Ddigidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon (DCMS), mewn cydweithrediad â’r gweinyddiaethau datganoledig, yn defnyddio diwylliant fel catalydd ar gyfer codi ardaloedd y tu allan i Lundain i lefel uwch a rhoi diwylliant wrth galon cynlluniau adfer ar ôl effeithiau’r pandemig. Mae’r gystadleuaeth ar agor nawr ac anogir ceisiadau gan drefi a dinasoedd o bob cwr o’r DU. Am y tro cyntaf, bydd grwpiau o drefi...
Hoffech chi gychwyn eich busnes eich hun, meithrin gyrfa lawrydd neu sefydlu menter gymdeithasol? Efallai eich bod eisoes ar waith, ond yn chwilio am ffyrdd o wella neu dyfu? Cynhelir Gŵyl Cychwyn Busnes yr Haf, sy'n gwrs cychwyn busnes ar-lein o fri, rhwng 14 ac 18 Mehefin 2021. Gyda digwyddiadau'n cael eu cynnal ar draws 4 llwyfan gyda rhai o entrepreneuriaid mwyaf a disgleiria'r genedl, bydd y cwrs ar-lein 5 diwrnod yn eich helpu i...
Yn ddiweddar, cyhoeddodd Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol (BEIS) Llywodraeth y DU enillwyr cyntaf cystadleuaeth Cronfa Trawsnewid Ynni Diwydiannol Cam 1: Haf 2020. Mae’r rhestr lawn o brosiectau ac enillwyr a fydd yn derbyn cyllid y Gronfa gwerth £16.5 miliwn i’w gweld yma. Dyma’r prosiectau a gafodd gynnig cyllid yng Nghymru: Gwaith dur Celsa Manufacturing (UK) Cyf yng Nghaerdydd. Cynigiwyd £3 miliwn i’r cwmni hwn tuag at brosiect gwerth £8.6 miliwn i osod cyfarpar...
Mae Gwobrau Entrepreneuriaid Barclays yn cydnabod effaith entrepreneuriaid ledled y DU. Mae’r Gwobrau yn dathlu busnesau arloesol, tarfol drwy rownd ranbarthol cyn rownd derfynol genedlaethol yn Llundain Mae Gwobrau Entrepreneuriaid Barclays ar agor i drigolion y Deyrnas Unedig sy’n bodloni’r meini prawf canlynol: busnes yn y DU wedi cofrestru/sefydlu yn y DU cyfeiriad masnachu yn y DU swyddog allweddol neu uwch reolwr yn y DU gallu dangos tystiolaeth o fasnachu yn y DU Mae Gwobrau...

Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.