BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

news and blogs Archives

1811 canlyniadau

Mae CThEM wedi cadarnhau y bydd y pumed grant sydd ar gael o dan y Cynllun Cymorth Incwm i’r Hunangyflogedig (SEISS) ar agor i ymgeiswyr o ddiwedd mis Gorffennaf 2021. Bydd y grant ar gael ar gyfer y pum mis rhwng mis Mai a mis Medi 2021, bydd yn drethadwy a bydd yn cael ei dalu fel un rhandaliad. Bydd canllawiau ar gyfer hawlio’r grant ar gael erbyn diwedd mis Mehefin 2021. I gael rhagor...
Mae Dydd Sadwrn y Busnesau Bach unwaith eto eleni yn tynnu sylw at 100 o fusnesau bach, un y diwrnod am y 100 diwrnod sy’n arwain at Ddydd Sadwrn y Busnesau Bach 4 Rhagfyr 2021. Am y wyth mlynedd diwethaf’, mae’r 100 wedi cael sylw nid yn unig ar sianeli cyfryngau cymdeithasol Dydd Sadwrn y Busnesau Bach ac yn y wasg leol a chenedlaethol, maent hefyd wedi ymuno â thîm Dydd Sadwrn y Busnesau Bach...
Mae Chwarae Teg unwaith eto’n dathlu llwyddiannau menywod o bob cefndir a cham mewn bywyd neu waith ledled Cymru. Mae Womenspire yn cydnabod pob agwedd ar fywydau menywod, o lwyddiannau personol i gyfraniadau rhagorol. Mae Womenspire Gwobrau Chwarae Teg yn dathlu llwyddiannau anhygoel menywod ledled Cymru ac yn ysbrydoli cenedlaethau’r dyfodol. Dyma’r Categorïau ar gyfer 2021: Aelod o'r Bwrdd Hyrwyddwr Gymunedol Entrepreneur Arweinydd Dysgwr Seren Ddisglair Menyw mewn Chwaraeon Menyw ym maes STEM Menyw mewn...
Heddiw (dydd Gwener 4 Mehefin 2021), mae’r Prif Weinidog Mark Drakeford wedi cyhoeddi y gall hyd at 30 o bobl gyfarfod yn yr awyr agored ac y gellir cynnal gweithgareddau awyr agored mawr o ddydd Llun ymlaen, wrth i Gymru symud i lefel rhybudd 1. Byddwn yn symud yn raddol i lefel rhybudd 1, gan ailddechrau digwyddiadau awyr agored gyntaf. Bydd y Gweinidogion yn adolygu’r sefyllfa o ran iechyd y cyhoedd eto, cyn 21 Mehefin...
Mae CThEM wedi rhybuddio y dylai cwsmeriaid credydau treth fod yn wyliadwrus ac yn effro i’r posibilrwydd o sgamiau. Gallai pobl sy’n adnewyddu eu credydau treth ac sydd wedi derbyn e-bost neu neges destun ffug ynghylch trethi neu fudd-daliadau gael eu twyllo i feddwl bod y neges wedi dod gan CThEM a rhannu eu manylion personol gyda throseddwyr, neu hyd yn oed drosglwyddo arian oherwydd honiad ffug o ordaliad. Mae llawer o sgamiau’n dynwared negeseuon...
Bydd cystadleuaeth Uwchgynhadledd Systemau Bwyd y Cenhedloedd Unedig, ‘Best Small Business: Good Food for All’, yn nodi’r BBaChau gorau o bob cwr o’r byd sy’n trawsnewid systemau bwyd i sicrhau gwell yfory. Dyddiad cau’r gystadleuaeth yw 6 Mehefin 2021 ac mae’n agored i unrhyw fusnes sydd â rhwng pump a 250 o gyflogeion ac sy’n ymwneud ag unrhyw agwedd ar y gadwyn gyflenwi a gwerth bwyd. Mae’n gyfle gwych i fusnesau bach gael cyhoeddusrwydd, yn...
Oes gennych chi fusnes ger yr arfordir? Os felly, gallech helpu i achub bywydau drwy hyrwyddo rhai o negeseuon diogelwch dŵr allweddol yr RNLI. Wrth i fwy a mwy o bobl barhau i ymweld â’r arfordir, gall busnesau wneud cyfraniad amhrisiadwy at gefnogi’r RNLI drwy ddod yn genhadon diogelwch dŵr. Mae RNLI law yn llaw â Gwylwyr y Glannau yn cynnal yr ymgyrch #ParchwchYDŵr ar gyfer y tymor nofio a gall busnesau fod yn genhadon...
Bydd Rhwydweithiau UK Ability yn cynnal gweminarau 30 munud am ddim i gynnig gwybodaeth ymarferol a defnyddiol i gyflogwyr i’w cadw mewn cysylltiad agos â’r gymuned cyflogwyr Hyderus o ran Anabledd, fel bod cyflogwyr yn derbyn cymorth amserol a phriodol yn ystod ac ar ôl COVID-19 i’w helpu i ddenu, recriwtio, cadw a datblygu pobl anabl yn y gwaith. I wneud hyn yn y ffordd fwyaf effeithiol, mae nifer o Arweinwyr Hyderus o ran Anabledd...
Mae llai na 30 diwrnod ar ôl i ddinasyddion yr UE wneud cais am statws preswylydd sefydlog yn y DU ac rydym yn annog y rheini sy’n byw yng Nghymru i fanteisio ar y cymorth am ddim sydd ar gael gan Lywodraeth Cymru i’w helpu i lenwi’u cais. Mae’r Cynllun hwn gan y Swyddfa Gartref yn cynnig y cyfle i ddinasyddion yr UE, dinasyddion o Ardal Economaidd Ewropeaidd nad yw yn yr UE a dinasyddion...
Mae’r cynllun taliadau newydd ar gyfer y cynllun gohirio talu TAW bellach ar agor i fusnesau a ohiriodd talu TAW rhwng 20 Mawrth a 30 Mehefin 2020 ac a oedd yn methu talu’n llawn erbyn 31 Mawrth 2021. Os ydych chi’n gwneud cais i wasgaru’ch taliadau rhwng 20 Mai a 21 Mehefin, gallwch dalu mewn wyth rhandaliad. 21 Mehefin yw’r dyddiad cau i chi allu ymuno â’r cynllun hwn. Gallwch wneud cais yn gyflym ac...

Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.