BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

news and blogs Archives

1891 canlyniadau

Gall busnesau cofrestredig yn y DU wneud cais am gyfran o hyd at £25 miliwn ar gyfer ymchwil a datblygu cam hwyr a ddatblygwyd yn y DU, i gefnogi twf mewn gallu gyriant carbon isel datblygedig yn y sector modurol a'i gadwyn gyflenwi gysylltiedig. Mae Advanced Propulsion Centre (APC) 18 yn chwilio am y canlynol: prosiectau sy'n cefnogi galluoedd hirdymor y DU trwy sicrhau buddsoddiad Ymchwil a Datblygu tymor hir prosiectau y gellir eu cyflawni...
Os ydych chi’n symud nwyddau rhwng y DU a gwledydd yn yr UE, mae angen i chi ddilyn rheolau tollau a threthi newydd. Bydd y rheolau newydd yn effeithio ar eich busnes os ydych chi’n: prynu nwyddau gan werthwr yn yr UE ac yn dod â’r nwyddau i mewn i’r DU anfon nwyddau rydych chi wedi’u gwerthu i brynwr mewn gwlad yn yr UE. heb gyfnewid arian ond angen symud cyfarpar rydych chi’n ei ddefnyddio...
Mae’r Sefydliad Twristiaeth Gymdeithasol Rhyngwladol (ITSO) yn dwyn ynghyd rhanddeiliaid o’r sectorau twristiaeth gymdeithasol, gynaliadwy ac undod o bedwar ban byd, i hyrwyddo twristiaeth hygyrch a chyfrifol. Yn ddiweddar, cyhoeddodd yr ITSO ei Argymhellion er mwyn helpu darparwyr twristiaeth wrth iddynt groesawu pobl ag anableddau yn ystod argyfwng iechyd fel COVID-19. Ewch i wefan yr ITSO am ragor o wybodaeth am dwristiaeth deg a chynaliadwy.
Gallwch nawr gyflwyno eich ceisiadau am gyfnodau ym mis Mawrth. Rhaid eu gwneud erbyn dydd Mercher 14 Ebrill 2021. Gallwch hawlio cyn, yn ystod neu ar ôl i chi brosesu eich cyflogres. Os gallwch chi, mae'n well gwneud hawliad unwaith y byddwch yn siŵr o union nifer yr oriau y bu eich cyflogeion yn gweithio fel nad oes rhaid i chi newid eich hawliad yn nes ymlaen. Gwnewch yn siŵr eich bod chi a'ch gweithwyr...
Os yw’ch busnes yn defnyddio, gwneud, gwerthu neu fewnforio cemegion yn y DU a’r UE, edrychwch sut mae cydymffurfio â rheoliadau cemegion REACH yr UE a’r DU. Mae REACH y DU yn rhan o gyfundrefn rheoleiddio cemegion y DU. Os ydych chi’n gwerthu neu ddosbarthu cemegion yn y DU neu’r UE, bydd angen i chi gadw at reolau REACH y DU a REACH yr UE. Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan GOV.UK.
Bydd sector twristiaeth Cymru yn gallu dechrau ailagor dydd Sadwrn 27 Mawrth 2021 wrth i'r rheol aros yn lleol gael ei chodi, yn ôl cyhoeddiad gan Mark Drakeford, y Prif Weinidog. Bydd y rheol aros yn lleol yn cael ei disodli gan ardal deithio dros dro i Gymru gyfan, a fydd yn parhau i fod ar waith tan 12 Ebrill 2021, yn amodol ar sefyllfa iechyd y cyhoedd. Am y pythefnos nesaf, dim ond y...
Yn 2021, gohiriwyd gorfodi rheoliadau’r Bwlch Cyflog rhwng y Rhywiau, ac mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol wedi cyhoeddi y bydd cyflogwyr eleni’n wynebu camau gorfodi os nad ydynt yn adrodd ar eu data. Mae hyn yn golygu bod yn rhaid i unrhyw sefydliad sy’n cyflogi dros 250 o aelodau staff gyhoeddi gwybodaeth am eu bwlch cyflog rhwng y rhywiau. Fodd bynnag, yn sgil yr heriau sy’n wynebu llawer o gyflogwyr ar hyn o bryd...
O dan y cyfyngiadau presennol, mae hi’n anhebygol y byddwch yn teithio dramor, ond os ydych chi’n bwriadu teithio i’r Ardal Economaidd Ewropeaidd neu’r Swistir at ddibenion gwaith neu fusnes yn y dyfodol, dylech: Weld a oes angen i chi wneud cais am fisa, trwydded waith neu ddogfennaeth arall. Hefyd, bwrwch olwg ar wefannau’r wlad berthnasol i weld manylion gofynion gwneud cais ac amseroedd prosesu os oes angen i chi wneud cais, a gwnewch gais...
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi pecyn cymorth ychwanegol gwerth £24 miliwn i adfywio canol trefi Cymru sy'n cynnwys: £18.4 miliwn o gyllid benthyciad Trawsnewid Trefi yn rhoi bywyd newydd i eiddo hen a gwag. £3.34 miliwn yn helpu busnesau'r stryd fawr i dyfu a chroesawu technoleg ddigidol arloesol a fydd yn helpu eu busnes i ffynnu fel rhan o Flwyddyn Trefi SMART. £3 miliwn ychwanegol yn cael ei ddefnyddio i gymell mwy o fusnesau yng...
Gall caethwasiaeth fodern effeithio ar bobl o bob oedran, rhyw a hil ac mae’n cynnwys gwahanol fathau o gamfanteisio. Mae caethwasiaeth fodern yn anghyfreithiol. Caiff ei diffinio i olygu bod plant, menywod neu ddynion yn cael eu recriwtio, eu symud, eu llochesu neu eu derbyn drwy ddefnyddio grym, pwysau, twyll, camdriniaeth neu unrhyw ddull arall er mwyn camfanteisio arnynt. Mae caethwasiaeth yn cael ei galw’n drosedd gudd oherwydd mae’n gallu bod yn anodd nodi pwy...

Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.