BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

news and blogs Archives

1901 canlyniadau

Cynllun benthyciadau newydd i gefnogi busnesau’r DU i gael mynediad at gyllid wrth iddyn nhw dyfu ac adfer ar ôl i bandemig COVID-19 darfu arnyn nhw. Mae’r Cynllun Benthyciadau Adferiad yn sicrhau y gall busnesau o unrhyw faint barhau i gael mynediad at fenthyciadau a mathau eraill o gyllid hyd at £10 miliwn y busnes ar ôl i’r cynllun benthyciadau COVID-19 presennol ddod i ben, gan ddarparu cymorth wrth i fusnesau adfer a thyfu ar...
Yn ddiweddar, agorodd Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol Llywodraeth y DU (BEIS), ar y cyd ag Innovate UK, gystadleuaeth newydd Cam 1: Gwanwyn 2021 Y Gronfa Trawsnewid Ynni Diwydiannol (IETF). Bydd BEIS yn cynnal cyfres o glinigau rhanddeiliaid drwy gydol cyfnod y gystadleuaeth i helpu a chefnogi busnesau sydd â diddordeb mewn gwneud cais am gyllid IETF. Bydd y clinigau rhanddeiliaid yn helpu busnesau sy'n bwriadu gwneud cais am gyllid Cam 1, drwy eu...
Mae cwmni Purah Beeswax Candles yn Llannon, Sir Gaerfyrddin, wedi bod yn defnyddio Helo Blod, gwasanaeth cyfieithu a chynghori cyflym a chyfeillgar sydd ar gael am ddim i helpu busnesau i ddefnyddio mwy o Gymraeg. Mae'r cwmni canhwyllau cynaliadwy wedi bod yn defnyddio'r gwasanaeth am ddim i wneud y Gymraeg yn fwy amlwg yn y busnes. Maent wedi gweld manteision o ddefnyddio'r Gymraeg yn barod. Ar hyn o bryd mae Helen Louise Williams, perchennog Purah...
Gallai Cronfa Gymorth Brexit BBaChau roi hyd at £2,000 i’ch helpu gyda hyfforddiant neu gyngor proffesiynol, os oes gan eich busnes hyd at 500 o weithwyr a throsiant o ddim mwy na £100 miliwn y flwyddyn. Gall masnachwyr wneud cais am hyd at £2,000 i gyd drwy ddau fath o grantiau. Grantiau ar gyfer Hyfforddiant: Gellir defnyddio’r grantiau i ddarparu hyfforddiant ar y canlynol: Sut mae cwblhau datganiadau tollau Sut mae rheoli prosesau tollau a...
Mae’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch wedi diweddaru ei ganllawiau i’ch helpu i gynnal sgyrsiau gyda’ch gweithlu am ddarparu cymorth a chadw mesurau rheoli ar waith. Mae siarad gyda’ch gweithwyr yn golygu y gallwch egluro newidiadau rydych yn eu gwneud i gadw’r gweithle yn ddiogel o ran COVID a dal ati i gynnal eich busnes yn ddiogel. Mae hefyd yn rhoi’r cyfle i weithwyr: ddweud wrthych os ydynt yn bryderus am unrhyw risgiau yn y...
Bydd amserlen newydd ar gyfer cyflwyno prosesau rheoli mewnforion ar y ffiniau yn galluogi busnesau’r DU i ganolbwyntio ar adferiad yn dilyn pandemig COVID. Nawr, bydd Llywodraeth y DU yn cyflwyno prosesau rheoli ffiniau llawn, chwe mis yn hwyrach na’r bwriad gwreiddiol. O 1 Hydref 2021: Bydd angen gofynion cyn-hysbysu ar gyfer cynhyrchion sy’n dod o anifeiliaid, bwyd risg uchel nad yw’n dod o anifeiliaid (HRFNAO) a sgil-gynhyrchion anifeiliaid penodol. Bydd angen tystysgrifau iechyd ar...
Mae’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch yn parhau i gyhoeddi’r canllawiau a’r wybodaeth ddiweddaraf sy’n gysylltiedig â’r coronafeirws, ynghyd â diweddaru cynnwys oedd wedi’i gyhoeddi’n flaenorol. Mae hyn yn cynnwys: Awyru ac aerdymheru – gall awyru digonol (gan gynnwys aerdymheru) helpu i leihau’r risg o ledaenu coronafeirws. Diogelu gweithwyr o gartref – cyngor ar weithio ar eich pen eich hun heb oruchwyliaeth, cyfarpar sgrin arddangos a straen. Hylif diheintio dwylo a diheintydd arwyneb – canllawiau...
Mae Llywodraeth Cymru yn annog mwy o bobl i weithio o bell ac mae wedi nodi uchelgais hirdymor i weld 30% o weithlu Cymru yn gweithio mewn lleoliadau eraill yn lle swyddfa draddodiadol. Mae’n gobeithio cyflawni’r uchelgais hon drwy roi mwy o opsiynau a dewis i bobl o ran eu gweithle. Bwriad yr uchelgais hwn yw helpu canol trefi, lleihau tagfeydd a lleihau allyriadau carbon. Yn Hwlffordd mae gofod cydweithio newydd HaverHub yn cynnig lle...
Mae'r pandemig Covid-19 wedi cael effaith sylweddol ar weithleoedd a'r gweithlu yng Nghymru a gweddill y DU. Mae Sefydliad Iechyd y Byd (WHO) wedi nodi effeithiau negyddol gan gynnwys: cynnydd mewn diweithdra cynnydd mewn risg tlodi a'r rhai tlawd sy'n gweithio cwmnïau’n cau a bylchau economaidd ac iechyd gwahanol ardaloedd daearyddol yn ehangu. Mae Cymru Iach ar Waith eisiau clywed gan ystod eang o gyflogwyr i ddeall yn well effeithiau pandemig Covid-19 ar iechyd cyflogwyr...
Pecyn Cymorth ar gyfer Busnesau Bach a Chanolig ar Fasnachu â’r Undeb Ewropeaidd a Gogledd Iwerddon: Mae crynodeb newydd o gamau y gall fod angen i fusnesau bach a chanolig eu cymryd er mwyn masnachu â’r Undeb Ewropeaidd nawr ar gael. Mae’r ddogfen yn rhoi trosolwg o’r camau i’w cymryd, mae’n amlinellu cymorth, llinellau cymorth ac adnoddau a allai fod yn ddefnyddiol i fusnesau bach a chanolig, ac mae’n cyfeirio pobl at ganllawiau mwy manwl...

Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.