BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

news and blogs Archives

1911 canlyniadau

Bydd cyfraddau’r Isafswm Cyflog Cenedlaethol a’r Cyflog Byw Cenedlaethol yn cynyddu ar 1 Ebrill. Yn ogystal â’r cyfraddau newydd, bydd yr oedran y daw gweithwyr yn gymwys i gael y Cyflog Byw Cenedlaethol yn cael ei ostwng. O 1 Ebrill ymlaen, rhaid talu’r Cyflog Byw Cenedlaethol neu uwch i bob gweithiwr 23 oed a throsodd. Mae’r cyfraddau hyn ar gyfer y Cyflog Byw Cenedlaethol (ar gyfer pobl 23 oed a throsodd) a’r Isafswm Cyflog Cenedlaethol...
Mae Rheilffyrdd Trafnidiaeth Cymru yn rhoi cyfle anhygoel i chi uwchsgilio ac uwchraddio eich busnes a mireinio, datblygu a lansio eich cynnyrch i’w farchnata a sicrhau contract gwaith! Os ydych chi’n entrepreneur, yn gwmni newydd, neu’n gwmni sy’n uwchraddio gyda; chynnyrch neu gynnyrch ar y camau cynnar, y gellir ei ddatblygu i wella’r profiad i deithwyr Rheilffyrdd Trafnidiaeth Cymru, rydym yn credu y byddai’r rhaglen yn gweddu’n dda i chi. Gallwch wneud hyn mewn dim...
Ym mis Tachwedd 2020, cyhoeddodd Llywodraeth y DU y byddai pedwerydd grant ar gyfer y Cynllun Cymorth Incwm i’r Hunangyflogedig ac y byddai’r grant yn cwmpasu’r cyfnod rhwng Chwefror 2021 ac Ebrill 2021. I fod yn gymwys, mae’n rhaid i chi fod yn unigolyn hunangyflogedig neu’n aelod o bartneriaeth. Bydd y meini prawf yn ystyried ffurflenni treth 2019-2020 a bydd yn agored i’r rhai a ddaeth yn hunangyflogedig yn ystod blwyddyn dreth 2019-2020. Mae gweddill...
Ydych chi’n rhedeg busnes llwyddiannus yn y sector ffasiwn, tecstilau neu sector dechnolegol gysylltiedig? Oes gennych chi syniad a allai fynd â'ch cwmni a'r diwydiant i'r lefel nesaf? Mae Rhaglen Gymorth Ymchwil a Datblygu Busnes Ffasiwn, Tecstilau a Thechnoleg (BFTT) ar agor ar gyfer Datganiadau o Ddiddordeb (EOI). Mae'r sector ffasiwn, tecstilau a thechnoleg (FTT) yn hyfyw, yn fentrus ac yn amlddisgyblaeth, ac mae’n llywio llawer o sectorau sy’n gysylltiedig â’r diwydiant yn ehangach. Yn...
Mae Llywodraeth Cymru wedi lansio cynllun newydd gwerth £1.3m i helpu sector pysgota a dyframaethu Cymru yn dilyn y ddau argyfwng i'w busnesau a achoswyd drwy adael yr UE a phandemig Covid-19. Bydd rhan gyntaf y cynllun yn gweld grant untro wedi'i dargedu ar gael i fusnesau pysgota cymwys sy'n berchen ar longau yng Nghymru, gyda'r grant sy'n cyfateb i gostau llongau am dri mis, wedi'i gapio ar £10,000. Bydd y taliadau'n seiliedig ar faint...
Mae £150 miliwn arall wedi'i neilltuo i gefnogi busnesau Cymru i ymdrin ag effaith barhaus y pandemig coronafeirws. Bydd y cymorth ychwanegol yn helpu busnesau yn y sectorau lletygarwch, twristiaeth, hamdden a manwerthu nad yw'n hanfodol sy'n talu ardrethi annomestig, a bydd yn gweithredu fel ychwanegiad at y Gronfa i Fusnesau dan Gyfyngiadau. Bydd hyn yn gweld busnes cymwys sydd â gwerth ardrethol o dan £12,000 yn derbyn taliad grant ychwanegol o £4,000. Bydd cwmnïau...
O yfory (dydd Sadwrn 13 Mawrth 2021) ymlaen, bydd pedwar o bobl o ddwy aelwyd yn gallu cwrdd yn yr awyr agored i gymdeithasu, gan gynnwys mewn gerddi. Yn ogystal, bydd cyfleusterau chwaraeon awyr agored, gan gynnwys cyrtiau pêl-fasged, cyrtiau tennis a chyrsiau golff, yn cael ailagor, a bydd ymweliadau dan do â chartrefi gofal yn ailddechrau, ar gyfer un ymwelydd dynodedig. O ddydd Llun ymlaen, bydd pob disgybl ysgol gynradd a disgyblion sy’n astudio...
Fel rhan o'r camau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gefnogi'r gymuned fusnes, bydd y moratoriwm yn erbyn fforffedu am beidio â thalu rhent, a oedd i fod i ddod i ben ar 31 Mawrth, bellach yn cael ei ymestyn hyd 30 Mehefin, 2021. Er y dylai busnesau barhau i dalu rhent lle bynnag y bo modd, bydd y mesur diweddaraf yn sicrhau na chaiff unrhyw fusnes ei orfodi allan o'i safle os...
Mae Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi £18.7 miliwn yn rhagor er mwyn ymestyn cymhellion i helpu busnesau i recriwtio prentisiaid yng Nghymru. Mae’r Cynllun Cymhellion i Gyflogwyr, a fydd bellach yn rhedeg hyd at 30 Medi 2021, yn rhan allweddol o’r ymrwymiad y mae Llywodraeth Cymru wedi’i wneud mewn ymateb i COVID-19 er mwyn helpu busnesau a gweithwyr i adfer ar ôl effeithiau’r coronafeirws (COVID-19). Mae hyn yn golygu y bydd busnesau'n gallu hawlio hyd at...
Ydych chi’n poeni am ddyfodol canol eich tref? Ydych chi wedi ymweld â chanol eich tref i siopa am y Nadolig? Mae COVID-19 wedi cael effaith ar Gymru gyfan. Mae wedi cyflwyno heriau gwirioneddol i fusnesau, manwerthwyr, cyrff cyhoeddus, aelodau etholedig a swyddogion cynghorau ledled y wlad. Mae Archwilio Cymru yn cynnal ymchwil ar ddyfodol trefi Cymru ac eisiau eich barn a'ch profiad ar: beth sy'n gwneud eich tref leol yn lle gwych i ymweld...

Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.