BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

news and blogs Archives

1961 canlyniadau

Mae tîm arloesedd Llywodraeth Cymru yn cynnal digwyddiad rhithwir i helpu BBaChau i gael at y cyllid a’r cymorth i’w galluogi i fuddsoddi mewn technoleg newydd a chryfhau eu dyfodol. Bydd y digwyddiad rhithwir ar 17 Mawrth 2021 yn dangos sut mae busnesau yng Nghymru wedi trawsnewid trwy gyllid y llywodraeth a thrwy fabwysiadu agwedd arloesol at dechnoleg. Bydd y cynrychiolwyr hefyd yn clywed yn uniongyrchol gan bobl fusnes sydd eisoes wedi elwa o weithio...
Y diweddaraf am ganllawiau Cyfleusterau Ffiniau Mewndirol (IBF): Yn dilyn adborth gan ddiwydiant, mae Cyllid a Thollau EM wedi adolygu'n drylwyr yr holl dudalennau canllaw sy'n ymwneud â Chyfleusterau Ffiniau Mewndirol, gan gynnwys: ei gwneud hi'n glir pa ddogfennaeth sydd ei hangen ar safleoedd; pa safleoedd sydd ar gael ledled y wlad; ynghyd ag anogaeth i ddefnyddio safleoedd ar wahân i Waterbrook. Yn ogystal, mae Cyllid a Thollau EM wedi cynnwys gwybodaeth am ganllawiau penodol...
Daeth y cyfnod pontio â’r Undeb Ewropeaidd (UE) i ben ar 31 Rhagfyr 2020, a bydd rheolau mewnforio newydd yn cael eu cyflwyno fesul cam rhwng mis Ionawr a mis Gorffennaf 2021. Ym mis Ebrill, bydd cyfres arall o newidiadau yn dod i rym yn ymwneud ag allforion cynhyrchion sy’n deillio o anifeiliaid i’w bwyta gan bobl o’r UE i Brydain, fel yr amlinellwyd yng Nghynllun Gweithredu'r Ffin. Mae’r newidiadau hyn yn effeithio ar allforion...
Mae CThEM yn cyhoeddi’r bwletin i gyflogwyr 6 gwaith y flwyddyn, gan roi’r wybodaeth ddiweddaraf i gyflogwyr ac asiantau ar bynciau a materion a allai effeithio arnynt. Mae bwletin mis Chwefror yn cynnwys amrywiaeth o bynciau yn cynnwys: Y Cynllun Cadw Swyddi drwy gyfnod y Coronafeirws. Cynllun talu newydd gohirio talu TAW – optio i mewn o ddiwedd Chwefror 2021. Tâl rifersiwn TAW ar gyfer adeiladu a gwasanaethau adeiladu. Paratoi ar gyfer newidiadau treth os...
Ym mis Awst 2020, lansiodd llywodraeth y DU gynllun newydd i wella cysylltedd band eang mewn lleoliadau digwyddiadau, gan eu galluogi i dderbyn mynediad ffeibr llawn. Mae’r cynllun yn adeiladu ar ymrwymiadau o’r Cytundeb Sector Twristiaeth a Chynllun Gweithredu Digwyddiadau Busnes Rhyngwladol llywodraeth y DU. Mae ail gylch y gystadleuaeth band eang ar gyfer lleoliadau digwyddiadau ar agor nawr tan 2 Mawrth 2021. Gall ymgeiswyr wneud cais am gyfran o gyllid £200,000 tuag at gostau...
Mae'r DU wedi ymadael â'r UE ac mae rhai rheoliadau wedi newid er mwyn sicrhau bod cemegion yn cael eu rheoli'n effeithiol ac yn ddiogel gan fod y DU wedi sefydlu cyfundrefnau rheoleiddio annibynnol. Mae'r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE) wedi diweddaru ei ganllawiau ar gyfer y canlynol: Mae canllawiau bywleiddiaid yn cynnwys manylion y gofynion BPR Prydain ar gyfer cynhyrchion bywleiddiaid ym Mhrydain. Mae tudalen Brexit bywleiddiaid yn amlygu'r prif wahaniaethau rhwng BPR...
Mae Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO) wedi cyhoeddi y bydd y Gynhadledd Ymarferwyr Diogelu Data (DPPC) yn cael ei chynnal ar 14 Ebrill 2021 yn ddigidol. Mae Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth am i'r gynhadledd fod mor berthnasol ac ymarferol â phosibl ac maen nhw’n gofyn i'r rhai a fydd yn bresennol ddewis y meysydd pwnc yr hoffen nhw glywed amdanyn nhw, a fydd wedyn yn helpu Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth i lunio agenda'r gynhadledd. Cwblhewch yr arolwg i...
Mae gan Llywodraeth y DU * Gronfa Gymorth Brexit gwerth £20 miliwn i gefnogi busnesau bach a chanolig i addasu i reolau tollau, tarddiad a TAW newydd wrth fasnachu gyda'r UE. Bydd BBaChau sy'n masnachu gyda'r UE yn unig, ac sydd felly'n newydd i brosesau mewnforio ac allforio, yn cael eu hannog i wneud cais am grantiau o hyd at £2,000 i bob masnachwr i dalu am gymorth ymarferol gan gynnwys hyfforddiant a chyngor proffesiynol...
Cynhadledd, arddangosfa a sioe arddangos yw Global Research and Innovation in Plastics Sustainability a gynhelir ar-lein rhwng 16 ac 18 Mawrth 2021. Bydd yn dwyn ynghyd cwmnïau ac unigolion i dynnu sylw at y gorau o weithgareddau’r DU a detholiad o weithgareddau tramor a fydd yn arwain at ei gwneud yn llai tebygol i blastigion (gan gynnwys teiars, tecstilau synthetig a pholymerau bio neu y gellir eu compostio) gyrraedd safleoedd tirlenwi neu gael eu llosgi...
Mae rhestr o linellau cymorth llywodraeth y DU yn nhrefn thema a chamau allweddol ar gyfer busnesau wedi’i chyhoeddi, ac mae’r themau’n cynnwys: Anifeiliaid Data ac Eiddo Deallusol Economi Ffiniau (Mewnforio ac Allforio) Pobl Pysgod Rhaglenni Ynni Mae rhifau’r llinell gymorth ar gael yma. Am ragor o wybodaeth am sut mae paratoi eich busnes ar gyfer y rheolau newydd rhwng y DU a’r UE, ewch i Borth Cyfnod Pontio'r UE Busnes Cymru.

Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.