BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

news and blogs Archives

1971 canlyniadau

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi canllawiau sy’n amlinellu goblygiadau’r berthynas newydd rhwng y DU a’r UE, a nodir yn y Cytundeb Masnach a Chydweithredu ar gyfer dinasyddion, busnesau a chymunedau Cymru yn ogystal â’n diogelwch yn y dyfodol. Mae'r canllawiau'n cynnwys: Beth mae’n ei olygu i bobl sy’n byw yng Nghymru Beth mae’n ei olygu i fusnesau a gweithwyr Cymru Beth mae’n ei olygu i’n diogelwch Beth mae’n ei olygu i’n cymunedau a’n cymdeithas Am...
Mae Innovate UK, sy’n rhan o UK Research and Innovation, yn buddsoddi hyd at £8 miliwn ar gyfer prosiectau ymchwil a datblygu traws-sector, cydweithredol. Nod y gystadleuaeth hon yw gwella cynhyrchiant a natur gystadleuol cwmnïau yn y diwydiant sylfaenol a chadwyni cyflenwi, drwy gyllido prosiectau ymchwil a datblygu traws-sector, cydweithredol. Mae’n rhaid i’ch prosiect weithio ar heriau adnoddau ac effeithlonrwydd ynni sy’n gyffredin i 2 neu fwy diwydiant sylfaenol. Mae’r sectorau diwydiannau sylfaenol yn cynnwys...
Mae The Stationers’ Company wedi cyhoeddi y bydd y Gwobrau Rhagoriaeth Arloesi yn cael eu cynnal yn rhithwir eleni ar ôl eu gohirio’r llynedd yn sgil cyfyngiadau COVID-19. Croesewir cynigion o bob sector ledled y diwydiannau Cyfathrebu a Chynnwys, gan gynnwys cyhoeddi, papur, argraffu a phecynnu, cynhyrchion swyddfa, marchnata, meddalwedd a gemau, cyfathrebu, addysg, darlledu, newyddiaduraeth a’r cyfryngau digidol. Anogir enwebiadau gan gwmnïau masnachol, busnesau newydd, elusennau, cymdeithasau masnach, sefydliadau addysgol a chyrff cyhoeddus fel...
Bydd busnesau a gymerodd Fenthyciadau Adfer a gefnogir gan y Llywodraeth i oroesi drwy bandemig Covid-19 yn cael rhagor o hyblygrwydd i ad-dalu eu benthyciadau. Nawr, bydd gan fenthycwyr Benthyciadau Adfer yr opsiwn i deilwra taliadau yn unol â’u hamgylchiadau unigol a chael y dewis nawr i oedi pob ad-daliad am chwe mis pellach. Ewch i wefan GOV.UK i ddarllen y diweddariad. Mae’r cynllun yn helpu busnesau bach a chanolig i fenthyg rhwng £2,000 a...
Ar Ddiwrnod Rhyngwladol Menywod a Merched mewn Gwyddoniaeth, tynnodd y Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip Jane Hutt sylw at rai o'r menywod anhygoel sy'n arwain y frwydr yn erbyn Covid yng Nghymru a phwysigrwydd astudio STEM. Ewch i wefan Llyw.Cymru i gael gwybod mwy.
Mae llywodraeth y DU wedi cyhoeddi camau pellach ar gyfer teithwyr allan ac i mewn i leihau’r teithio ar draws ffiniau rhyngwladol a lleihau’r risg o drosglwyddo Covid-19. Mae’r Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol wedi cadarnhau o 15 Chwefror 2021 y bydd yn ofynnol i unrhyw un sy’n teithio i’r DU o wlad ar restr gwaharddiad teithio’r DU fod dan gwarantin mewn cyfleuster sydd wedi’i gymeradwyo gan lywodraeth y DU am gyfnod o 10 diwrnod...
Mae Rheolau Tarddiad yn ymwneud â lle cafodd cynnyrch ei weithgynhyrchu ac yn pennu 'cenedligrwydd economaidd' nwydd ar gyfer masnach ryngwladol. Mae angen i fusnesau wybod amdanyn nhw oherwydd bod y Cytundeb Masnach a Chydweithredu yn golygu y gallant fasnachu gyda'r UE heb dalu tariffau – cyn belled â bod eu cynnyrch yn bodloni'r Rheolau Tarddiad perthnasol. Er mwyn allforio'n ddi-dariff i’r UE, rhaid i fasnachwyr wirio bod eu nwyddau'n bodloni'r gofynion Rheolau Tarddiad sydd...
Os ydych chi erioed wedi breuddwydio am sefydlu eich busnes eich hun yna mae gan Chwarae Teg gyfres o sesiynau ar-lein, awr o hyd, i chi. Fe'u cynlluniwyd i'ch helpu i gymryd y camau cyntaf gyda'ch syniad busnes a'i drawsnewid yn rhywbeth ymarferol i'w roi ar waith - gwyliwch y sesiynau Cofrestredig o Archwilio Entrepreneuriaeth. Hefyd, mae cefnogaeth ar-lein ar gael i ysbrydoli a chymell menywod mentrus y genedl. Mae Chwarae Teg wedi sefydlu platfform...
Mae ceisiadau am y trydydd grant SEISS bellach wedi cau. Y dyddiad olaf ar gyfer gwneud cais am y trydydd grant oedd 29 Ionawr 2021. Cyhoeddir manylion am y pedwerydd grant ar 3 Mawrth 2021. Ewch i wefan GOV.UK i gael gwybod mwy.
Bydd gweithwyr llawrydd yn y sector creadigol yng Nghymru yn cael dyraniad ychwanegol o £8.9 miliwn. Bydd y dyraniad ychwanegol o'r Gronfa Adferiad Diwylliannol yn golygu y bydd pob un o'r gweithwyr llawrydd a gefnogir eisoes yn derbyn £2,500 ychwanegol i'w cefnogi drwy'r cyfnod estynedig hwn o lai o weithgarwch. Bydd gweithwyr llawrydd sydd wedi derbyn cymorth yn derbyn llythyr hunan-ddatganiad y bydd angen iddynt ymateb iddo fel bod modd rhyddhau’r cyllid. I gael rhagor...

Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.