BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

news and blogs Archives

2011 canlyniadau

Nid yw'r Gyfarwyddeb e-fasnach yn berthnasol i'r DU mwyach, gan fod y cyfnod pontio bellach ar ben. Gall rheolau sy'n ymwneud â gweithgareddau ar-lein yng ngwledydd yr Ardal Economaidd Ewropeaidd fod yn berthnasol o'r newydd i ddarparwyr gwasanaethau ar-lein yn y DU sy'n gweithredu yn yr Ardal Economaidd Ewropeaidd, gan fod y cyfnod pontio bellach ar ben. Os ydych yn ddarparwr gwasanaethau ar-lein, dylech gymryd camau mewn ymateb i'r newidiadau hyn. Mae canllawiau, sy'n amlinellu'r...
Os ydych chi’n sylwi ar gamgymeriad ar ffurflen TAW sy’n gysylltiedig â’r cyfnod a gwmpesir gan y Cynllun Gohirio Taliadau TAW, dylech anfon ffurflen VAT652 at CThEM cyn gynted â phosibl. Yna byddwch yn derbyn Datganiad o Gyfrif yn cadarnhau eich balans, ac os oes angen unrhyw daliadau ychwanegol o ganlyniad, gallwch gysylltu â CThEM i ohirio'r rhain hefyd, cyn diwedd mis Ionawr. Gallwch: dalu’r TAW gohiriedig yn llawn ar neu cyn 31 Mawrth 2021...
Ar 26 Ionawr 2021, bydd CThEM yn cyhoeddi rhestr o enwau cyflogwyr sydd wedi hawlio’r Cynllun Cadw Swyddi drwy gyfnod y Coronafeirws am gyfnodau o fis Rhagfyr ymlaen ar GOV.UK. O fis Chwefror, bydd CThEM yn cyhoeddi’r enwau, gwerth hawliadau a Rhifau Cofrestru Cwmni (i’r rhai sydd gydag un) cyflogwyr sy’n cyflwyno hawliadau’r Cynllun Cadw Swyddi drwy gyfnod y Coronafeirws am gyfnodau sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Rhagfyr 2020. Ni fydd manylion cyflogwyr...
Gyda llai na 6 mis hyd ddyddiad cau gwneud cais am y Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE ar 30 Mehefin 2021, anogir dinasyddion Ewrop i wneud cais nawr i sicrhau eu hawliau yng nghyfraith y DU. Os ydych chi’n ddinesydd o’r UE, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd neu’r Swistir, gallwch chi a’ch teulu wneud cais i’r Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE er mwyn parhau i fyw yn y DU ar ôl 30...
Mae Acas yn rhoi cyngor diduedd am ddim i gyflogwyr a gweithwyr ar hawliau, rheolau ac arferion gorau yn y gweithle. Maent wedi llunio canllawiau i helpu busnesau yn ystod y pandemig coronafeirws ar bynciau amrywiol, gan gynnwys y canlynol: Gweithio’n ddiogel Ffyrlo a chyflog Templedi llythyrau ffyrlo Gweithio gartref yn ystod y coronafeirws Gwarchod a phobl fregus Tâl salwch ar gyfer hunanynysu Gwyliau ac absenoldeb Gweithdrefnau disgyblu a chwyno Iechyd meddwl Am ragor o...
Mae’r DU a’r UE wedi cytuno ar gytundebau pontio i alluogi i ddata personol lifo’n rhwydd o’r UE i’r DU fel rhan o gytundeb masnach Brexit. O dan y trefniadau, bydd busnesau a chyrff cyhoeddus yn y DU yn parhau i dderbyn data yn rhwydd o’r UE am gyfnod o hyd at chwe mis hyd y bydd penderfyniadau digonolrwydd wedi cael eu mabwysiadu. Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth.
Gwyddorau Bywyd Canllawiau i fanwerthwyr: cyflenwi meddyginiaethau dros y cownter i Ogledd Iwerddon: Mae canllawiau wedi'u cyhoeddi sy'n esbonio sut mae cyflenwi meddyginiaethau i Ogledd Iwerddon yn gweithio. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i wefan GOV.UK. Canllawiau i fanwerthwyr: cyflenwi dyfeisiau meddygol i Ogledd Iwerddon: Mae canllawiau wedi’u cyhoeddi yn esbonio sut mae cyflenwi dyfeisiau meddygol i Ogledd Iwerddon yn gweithio. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i wefan GOV.UK. Gwybodaeth ar gyfer Busnes...
Mae cystadleuaeth Mynegiant o Ddiddordeb ar agor nawr ar gyfer prosiectau unigol neu luosog gwerth hyd at £1.35 miliwn i gefnogi datblygiad technolegau, newyddbethau neu wasanaethau sy’n gysylltiedig â Gweithrediadau Tir Morol Deallus ac sy’n dangos y potensial i wireddu manteision mesuradwy i Sector morol y DU. Mae’r gystadleuaeth yn dod i ben ar 15 Chwefror 2021 am hanner dydd. Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan MaRI-UK.
Bydd Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod £200 miliwn pellach ar gael i fusnesau y mae cyfyngiadau COVID-19 yn effeithio arnynt i helpu gyda'u costau Gweithredu. Bydd rhagor o wybodaeth am y pecyn diweddaraf hwn yn cael ei ddarparu ddydd Gwener, 29 Ionawr 2021 a byddwn yn diweddaru tudalennau COVID Cymorth i Fusnesau. Mae'r £200 miiliwn pellach yn ychwanegol at y cyllid sydd ar gael ar hyn o bryd drwy Gronfa Cymorth Penodol i’r Sector Cronfa...
Bydd allforwyr bwyd môr ledled y DU yn derbyn cyllid Llywodraeth y DU o hyd at £23 miliwn, i gefnogi busnesau sydd wedi’u heffeithio fwyaf andwyol gan y pandemig COVID a’r heriau o addasu i ofynion newydd ar gyfer allforio. Bydd y gronfa yn cael ei thargedu at fusnesau allforio pysgod a all ddangos tystiolaeth o golled go iawn wrth allforio pysgod a physgod cregyn i’r UE. Bydd cymorth ar gael ar unwaith ac yn...

Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.