BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

news and blogs Archives

2021 canlyniadau

Mewnforio ac Allforio Yr adnodd Masnachu gyda'r DU: Mae’r adnodd hwn yn darparu gwybodaeth ar gyfer busnesau sy’n allforio nwyddau i’r DU, gan gynnwys trethi, tariffau, codau nwyddau a rheoliadau. Mae hefyd yn darparu gwybodaeth ar gyfer nwyddau sy’n mynd i Ogledd Iwerddon. Yr adnodd Gwirio sut mae Allforio Nwyddau: mae’r adnodd hwn yn darparu gwybodaeth ar gyfer allforwyr y DU am dollau, rheolau tarddiad a gweithdrefnau tollau i dros 160 marchnad bedwar ban byd...
Cynllun dielw i fasnachwyr ydy ‘Prynwch Efo Hyder’ a’i nod yw rhoi rhestr i’r henoed, pobl agored i niwed ac aelodau cyffredinol o’r cyhoedd, o Fasnachwyr sydd wedi cael eu fetio a’u harchwilio’n drylwyr gan Wasanaethau Safonau Masnach. Mae’r cynllun yn darparu rhestr i ddefnyddwyr o fusnesau sydd wedi ymrwymo i fasnachu’n deg. I fusnesau sy’n dymuno dangos pam eu bod yn wahanol i bawb arall, mae’r stamp ‘Prynwch Efo Hyder – Cymeradwywyd gan Safonau...
Yn dilyn cytuno ar gytundeb masnach gyda’r UE, mae’r Swyddfa Diogelwch a Safonau Cynhyrchion (OPSS) yn helpu i sicrhau bod busnesau yn deall yr hyn sydd i’w ddisgwyl ganddynt, gan gynnwys problemau fel defnyddio nodau UKCA. Mae hyn bellach yn cynnwys y canllawiau cryno ‘ What’s Changed?’ i newidiadau allweddol mewn cysylltiad â deddfwriaeth diogelwch cynnyrch penodol a mesureg a ddiwygiwyd gan Reoliadau Diogelwch Cynnyrch a Mesureg etc (Diwygio etc) (Ymadael â’r UE) 2019. Mae’r...
Mae Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru, Ken Skates wedi cyhoeddi llythyr yn tynnu sylw tuag at Borth Cyfnod Pontio’r UE Busnes Cymru yn ogystal i draciwr mae Llywodraeth y DU wedi datblygu. Mae Porth Cyfnod Pontio’r UE Busnes Cymru yn ffynhonnell ganolog ar gyfer cyngor ac arweiniad i fusnesau sy'n paratoi ar gyfer y berthynas fasnachu newydd, gan gynnwys gwybodaeth am y datblygiadau diweddaraf. Mae traciwr Llywodraeth y DU ar gael i fusnesau...
Wrth i’r DU ddechrau o’r newydd y tu allan i’r UE, mae camau amrywiol sy’n rhaid i fusnesau eu cymryd i baratoi i osgoi unrhyw darfu posibl i’w gweithrediadau. Dyma’r 6 cham allweddol sy’n rhaid i sawl cwmni eu cymryd: Nwyddau – os ydych chi’n mewnforio neu allforio nwyddau i’r DU, mae’n rhaid i chi gael rhif EORI, gwneud datganiadau tollau neu gyflogi asiant i’w gwneud i chi, gwirio a oes angen papurau ychwanegol ar...
Gwasanaethau digidol Rheoliadau NIS: Darparwyr gwasanaethau digidol y DU sy'n gweithredu yn yr UE: Mae canllawiau wedi'u cyhoeddi ar gyfer yr hyn y mae'n rhaid i ddarparwyr gwasanaethau digidol yn y DU ei wneud i gydymffurfio â'r rheoliadau sy'n ymwneud â diogelwch systemau rhwydwaith a gwybodaeth. Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan GOV.UK. Rheoliadau NIS - darparwyr gwasanaethau digidol nad ydynt yn dod o'r DU sy'n gweithredu yn y DU: Canllawiau ar yr hyn...
Mae’r Cynllun Adyswiriant Credyd Masnach wedi’i ymestyn am chwe mis hyd 30 Mehefin 2021. Mae’r cynllun yn sicrhau bod cwmpas a therfynau credyd yswiriant credyd masnach yn cael eu cynnal yn ystod y pandemig Covid-19 er mwyn helpu busnesau’r DU i fasnachu’n hyderus. Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan GOV.UK.
Mae busnesau yng Nghymru wedi derbyn dros £1.7 biliwn gan Lywodraeth Cymru ers dechrau'r pandemig. Mae'r cyllid yn cynnwys dros £520 miliwn a ddarperir drwy Gronfa Cadernid Economaidd Llywodraeth Cymru, gyda mwy o daliadau'n cyrraedd cwmnïau bob dydd. Mae dros 178,000 o grantiau gwerth cyfanswm o £1 biliwn wedi'u darparu drwy awdurdodau lleol sydd wedi bod yn gweinyddu cynlluniau ar ran Llywodraeth Cymru gan gynnwys y cynllun Ardrethi Annomestig, y Grant Dechrau Busnes a'r Gronfa...
Mae The Henry Royce Institute for Advanced Materials yn cynnig mynediad at gyfarpar gwyddor a pheirianneg deunyddiau modern i gefnogi BBaChau, cwmnïau deillio a busnesau newydd. Mae Cynllun Mynediad at Gyfarpar i BBaChau Royce (yr hen Gynllun Talebau Cyflymu Deunyddiau) ar gael i BBaChau, cwmnïau deillio a busnesau newydd sydd wedi’u lleoli yn y DU ac yn cynnig mynediad at gyfleusterau gyda chymhorthdal, sy’n berffaith ar gyfer busnesau sy’n chwilio am ddatrysiadau i rwystrau i...
O 1 Ionawr 2021, bydd Swyddfa Eiddo Deallusol y DU yn creu dyluniad ailgofrestredig ar gyfer y DU ar gyfer pob dyluniad rhyngwladol (UE) a fydd yn cael ei ddiogelu ar ddiwedd y cyfnod pontio. Os oes cais am ddyluniad rhyngwladol yn dynodi’r UE wedi ei wneud, ond nad yw wedi’i ddiogelu eto neu os yw’r cyhoeddiad wedi’i oedi, bydd gan y daliwr gyfnod o naw mis i wneud cais am yr un hawl â...

Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.