BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

news and blogs Archives

2031 canlyniadau

Sicrhau cydnabyddiaeth yn y DU ar gyfer eich cymhwyster proffesiynol o’r UE: Gwybodaeth am sut i sicrhau cydnabyddiaeth yn y DU ar gyfer cymwysterau proffesiynol a enillwyd yn y Swistir, Norwy, Gwlad yr Iâ a Liechtenstein. Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan GOV.UK. Gofynion cyfrifyddu ar gyfer cwmnïau o’r DU: Mae canllawiau wedi'u cyhoeddi ar sut mae cwmnïau sydd wedi'u hymgorffori yn y DU, neu sydd â rhiant-gwmni wedi'i ymgorffori yn y DU, yn...
Os oes gennych chi bobl yn gweithio o gartref yn sgil y pandemig coronafeirws, mae gan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch gyngor i gyflogwyr ei ddilyn. Materion y dylai cyflogwyr ystyried eu cynnwys: gweithio ar eu pen eu hunain heb oruchwyliaeth gweithio gyda chyfarpar sgrin arddangos cadw mewn cysylltiad i adnabod arwyddion o straen a phroblemau iechyd meddwl Dylid hefyd nodi bod yn rhaid i gyflogwyr ddarparu a thalu am brofion llygaid ar gyfer...
I’r rhan fwyaf o bobl, bydd gyrru yn un o’r gweithgareddau peryclaf y byddant yn ei wneud ac mae gan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch ddiddordeb mewn clywed gan bobl sy’n gyrru ar gyfer gwaith, neu’r rhai sy’n eu cyflogi. Amcangyfrifir bod traean o’r holl ddamweiniau ffordd ym Mhrydain yn gysylltiedig â rhywun sy’n gyrru fel rhan o’i swydd ac mae llawer o ddamweiniau eraill yn cynnwys pobl sy’n teithio i neu o’u gweithle...
Modurol Adrodd am allyriadau CO2 ar gyfer ceir a faniau newydd: Gwybodaeth am sut y dylai gweithgynhyrchwyr cerbydau adrodd am allyriadau CO 2 ar gyfer eu cerbydau. Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan GOV.UK. Hedfan Gweithio a gweithredu yn y sector hedfan Ewropeaidd: Mae canllawiau wedi'u cyhoeddi ar gyfer yr hyn sydd angen i chi ei wneud i weithio a gweithredu yn y diwydiant hedfan. Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan GOV.UK. Manwerthu...
Mae’r Goruchaf Lys wedi rhannu ei ddyfarniad ar achos prawf yswiriant tarfu ar fusnes yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol. Mae’r pandemig coronafeirws wedi arwain at darfu eang a busnesau yn cau gan arwain ar golledion ariannol sylweddol. Mae llawer o gwsmeriaid wedi cyflwyno hawliadau am y colledion hyn o dan eu polisïau yswiriant tarfu ar fusnes. Mae’r materion sy’n gysylltiedig â pholisïau Yswiriant Busnes yn gymhleth a chydnabuwyd bod ganddynt y potensial i greu ansicrwydd parhaus...
Fe wnaeth y DU adael yr UE ar 31 Rhagfyr. Daeth rheolau’r berthynas newydd rhwng yr UE a’r DU i rym ar 1 Ionawr 2021. Mae’r ffordd mae busnesau’r DU yn prynu a gwerthu gyda’r UE wedi newid, a gallai hyn effeithio ar eich busnes chi. Cyflwynwyd canllawiau newydd ar y canlynol: Trwydded y DU i’r Gymuned ar gyfer Cludo Nwyddau ar Loriau yn Rhyngwladol: Canllawiau ar gael trwydded y DU ar gyfer y Gymuned...
Bydd rhaid i fusnesau yng Nghymru gynnal asesiad risg penodol y coronafeirws o dan ddeddfwriaeth newydd Llywodraeth Cymru. Bydd yr asesiadau risg hyn yn fan cychwyn ar gyfer gweithredu’r mesurau rhesymol sy’n ofynnol er mwyn lleihau’r cyswllt â’r coronafeirws mewn eiddo sy’n agored i’r cyhoedd ac mewn gweithleoedd. Mae hyn yn cynnwys ystyried materion fel: a yw’r awyru'n ddigonol hylendid sicrhau bod cadw pellter corfforol yn digwydd defnyddio cyfarpar diogelu personol a gorchuddion wyneb Bydd...
Mae pecyn Cronfa Cadernid Economaidd diweddaraf Llywodraeth Cymru gwerth £180 miliwn i gwmnïau yr effeithiwyd arnynt gan gyfyngiadau coronafeirws bellach ar agor a bydd yn cau am 12:00 canol dydd ddydd Gwener 29 Ionawr 2021. Mae'r grant hwn i gefnogi busnesau y mae'r cyfyngiadau a gyflwynwyd ar 4 Rhagfyr 2020 yn effeithio arnynt. Mae’r swm y gall gwmni ei hawlio o’r gronfa benodol i’r sector yn cael ei gyfrifo ar sail nifer y staff a...
Bu’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn y rheng flaen wrth ymateb i effaith Covid 19, a bu galw mawr am gyfarpar diogelu personol, cyfarpar meddygol, diagnosteg a thechnolegau digidol. Mae dulliau gweithio newydd ac arloesol wedi’u mabwysiadu ledled y sector, ac yn y digwyddiad hwn bydd siaradwyr yn ystyried sut y gallwn ddysgu o’r pandemig a’r hyn y mae’r argyfwng yn ei olygu ar gyfer prosesau caffael y GIG a chydweithio â diwydiant yn y dyfodol...
Busnesau bwyd a diod: gweithio gyda'r UE: Gwybodaeth am beth sydd angen i chi ei wneud fel busnes bwyd a diod i weithio gyda'r UE. Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan GOV.UK. Ffynonellau gwybodaeth am ddeddfwriaeth maeth: Mae canllawiau wedi'u cyhoeddi sy'n cynnwys gwybodaeth i helpu busnesau bwyd i gydymffurfio â deddfwriaeth maeth. Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan GOV.UK. Mewnforio neu symud anifeiliaid byw, cynhyrchion anifeiliaid a bwyd a phorthiant risg uchel...

Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.