BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

news and blogs Archives

2051 canlyniadau

Os yw eich busnes yn masnachu nwyddau gydag Ewrop neu os ydych chi'n cynrychioli busnesau sy'n gwneud hynny, bydd angen i chi fod yn barod am newidiadau o 1 Ionawr 2021. Ni fydd rheolau masnachu yn newid nac yn diflannu, ac mae angen cymryd camau i baratoi, cyn y gallwch fasnachu o 1 Ionawr 2021. Os ydych yn newydd i brosesau tollau gallwch ddechrau cynefino â nhw drwy fwrw golwg ar y fideos ar fewnforio...
Bydd Pythefnos Masnach Deg yn ôl ddydd Llun 22 Chwefror tan ddydd Sul 7 Mawrth 2021. Am bythefnos bob blwyddyn, mae miloedd o unigolion, cwmnïau a grwpiau ar draws y Deyrnas Unedig yn dod ynghyd i rannu straeon y bobl sy’n tyfu ein bwyd a’n diodydd ac yn tyfu’r cotwm yn ein dillad. Ewch i wefan Masnach Deg i gael rhagor o wybodaeth. Os ydych chi’n rhedeg busnes, mae rhagor o wybodaeth yma am sut...
Gadawodd y DU yr UE ar 31 Rhagfyr 2020. Daeth y rheolau sy'n llywodraethu'r berthynas newydd rhwng yr UE a'r DU i rym ar 1 Ionawr 2021. Mae newidiadau i'r ffordd y mae busnesau'r DU yn masnachu gyda'r UE a allai effeithio ar eich busnes. Mae gan HMRC gweminarau fyw sy'n rhoi trosolwg i fusnesau yn y DU sy'n ymwneud â symud nwyddau rhwng yr UE a'r DU. Darganfyddwch beth sydd angen i chi ei...
Mae rhaglen o weminarau sydd wedi’u creu ar gyfer allforwyr Cymreig wedi’i llunio gan Dîm Masnach Llywodraeth Cymru dros y misoedd diwethaf. Mae’r gweminarau hyn bellach ar gael ar y we fel y gall busnesau eu gwylio ar adeg sy’n gyfleus iddynt hwy, un ai drwy Barth Allforio Busnes Cymru - https://businesswales.gov.wales/export/cy/sut-y-gallwn-helpu/gweminarau neu sianel YouTube Busnes Cymru - https://www.youtube.com/user/businesswales/videos. Roedd y rhaglen yn cynnwys detholiad o gyngor ac arweiniad, gan arbenigwyr masnach rhyngwladol, a chanolbwyntiodd...
Mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi cynnydd yn y Cyflog Byw Cenedlaethol a’r Isafswm Cyflog Cenedlaethol o fis Ebrill 2021. Am y tro cyntaf, bydd mwy o bobl iau yn gymwys am y Cyflog Byw Cenedlaethol, wrth i’r trothwy oedran gael ei ostwng o 25 i 23. Yn llawn, dyma’r cynnydd: Y Cyflog Byw Cenedlaethol (23+) yn codi o £8.72 i £8.91 Yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol (21-22) yn codi o £8.20 i £8.36 Yr Isafswm...
Hawlio hawlildiad ar gyfer tollau ar nwyddau rydych chi'n dod â nhw i Ogledd Iwerddon o Brydain Fawr: Cyhoeddwyd canllawiau fel y gallwch ddarganfod sut i hawlio hawlildiad os ydych chi'n dod â nwyddau i Ogledd Iwerddon o Brydain Fawr a allai fel arall fod ‘mewn perygl’ o fod yn destun tariffau fel arall. Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan GOV.UK. Dechrau a gorffen symudiadau tramwy yng Ngogledd Iwerddon gan ddefnyddio tramwy cyffredin ac...
Rheolau Tarddiad: Gwiriwch fod eich nwyddau'n cydymffurfio â masnachu heb dariff gyda'r UE: Gyda chytundeb masnach mewn lle, gall busnesau'r DU fasnachu heb dariffau gyda'r UE o 1 Ionawr os yw eu cynhyrchion yn bodloni Rheolau Tarddiad y cytunwyd arnynt. Mae angen i fasnachwyr y DU wirio a yw eu cynhyrchion yn cydymffurfio a sut i brofi eu tarddiad. Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan GOV.UK. Newidiadau i awdurdodiadau allforwyr cymeradwy o 1 Ionawr...
Mae llywodraeth San Steffan wedi atal tariffau ar gynhyrchion meddygol sy’n cael eu defnyddio yn y frwydr yn erbyn y coronafeirws, gan leihau costau’r eitemau hanfodol hyn i sefydliadau ledled y DU. Bydd y mesurau newydd, sy’n sicrhau na fydd tariffau’n ddyledus ar fewnforio nwyddau gan gynnwys masgiau wyneb, menig a chyfarpar amddiffynnol eraill, yn dod i rym ar 1 Ionawr 2021. Mae’r rhain yn adeiladu ar y rhyddhad tariffau gydol 2020, ar gael i...
Mae Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO) wedi cyhoeddi cod ymarfer newydd ar rannu data, sy’n darparu canllawiau clir i sefydliadau a busnesau ar sut i rannu data yn gyfreithlon. Mae gan yr ICO adnoddau a chymorth i fusnesau hefyd, sy’n cynnwys: chwalu coelion am rannu data gwybodaeth sylfaenol y cod rhannu data cwestiynau cyffredin ar rannu data astudiaethau achos rhestr wirio rhannu data templedi ffurflen gwneud cais i rannu data a ffurflen penderfyniadau rhannu data personol...
Dod â nwyddau i Brydain Fawr o du allan i’r DU o 1 Ionawr 2021: Mae canllawiau wedi’u cyhoeddi ar y lwfansau sy’n golygu y gallwch ddod â swm penodol o nwyddau i Brydain Fawr o du allan i’r DU at eich defnydd eich hun heb orfod talu toll. Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan GOV.UK. Gohirio tollau a chwotâu tariffau o 1 Ionawr 2021: Mae canllawiau wedi’u cyhoeddi ar ohirio tollau a chwotâu...

Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.