BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

news and blogs Archives

2241 canlyniadau

Mae’r Gwasanaeth Cymorth i Fasnachwyr bellach yn fyw ar gyfer busnesau, gan ddarparu addysg a chanllawiau i fasnachwyr sy’n symud nwyddau o dan Brotocol Gogledd Iwerddon, gan gynnwys rhwng Gwledydd Prydain a Gogledd Iwerddon. Bydd y gwasanaeth digidol am ddim yn helpu busnesau a masnachwyr o bob maint i ddeall y newidiadau i’r ffordd y bydd nwyddau’n pan ddaw Protocol Gogledd Iwerddon i rym ar 1 Ionawr 2021. Bydd masnachwyr sy’n cofrestru ar gyfer y...
Gall busnesau sydd wedi’u cofrestru yn y DU wneud cais am ran o £8 miliwn mewn cyllid grant ar gyfer prosiectau sy’n cefnogi adferiad a thwf y diwydiannau sylfaen canlynol, sy’n hanfodol ar gyfer sectorau gweithgynhyrchu ac adeiladu’r DU. sment gwydr cerameg papur metelau cemegau swmp Mae’n rhaid i brosiectau ddangos sut maent yn mynd i’r afael ag effeithlonrwydd ynni neu adnoddau diwydiannau sylfaen a chefnogi cadernid a chynaliadwyedd y sector a’i gadwyni cyflenwi. Mae’r...
Bydd y Cynllun Cefnogi Swyddi newydd yn cael ei gyflwyno o 1 Tachwedd 2020 i ddiogelu swyddi lle mae busnesau yn wynebu llai o alw dros fisoedd y gaeaf yn sgil coronafeirws (COVID-19). O dan y cynllun, a fydd yn para chwe mis, bydd Llywodraeth y DU yn cyfrannu at gyflogau gweithwyr sy’n gweithio llai na’u horiau arferol yn sgil gostyngiad yn y galw. Byddwch yn parhau i dalu cyflogau am yr oriau y mae...
Mae Procurex Cymru yn digwydd ar-lein eleni ar ddydd Llun 19 Hydref. Bydd pob agwedd ar yr arddangosfa yn cael ei hefelychu'n ddigidol, trwy arddangosfa rithwir, parthau academi sgiliau caffael, prif siaradwyr a chyfleoedd rhwydweithio i weithwyr caffael proffesiynol a chyflenwyr. Cynhelir gweminar cyn y digwyddiad ar ddydd Llun 5 Hydref am 2pm, i roi golwg gyntaf ar yr hyn i'w ddisgwyl gan Procurex Cymru. I lawer ohonoch, gall digwyddiadau rhithwir fod yn brofiad newydd...
Rhyddhad treth yw Rhodd Cymorth ar gyfer unigolion sy’n eu galluogi i roi’r dreth incwm neu’r dreth enillion cyfalaf y maent yn ei dalu yn uniongyrchol i elusen ar ben eu rhodd. Mae’n ychwanegu 25c at bob £1 a roddir i elusen. Mae Rhodd Cymorth yn rhyddhad treth bwysig gwerth £1.3 biliwn i’r sector elusennau. Cynhelir Diwrnod Ymwybyddiaeth Rhodd Cymorth eleni ddydd Iau 8 Hydref 2020. Mae’r Grŵp Cyllid Elusennau (CFG) yn gofyn i elusennau...
Mae’r DU wedi gadael yr UE, a bydd y cyfnod pontio ar ôl Brexit yn dod i ben eleni. Mae’r canllawiau marcio, labelu a marchnata sy’n rhaid i chi eu dilyn i fewnforio ac allforio bwyd, plannu hadau a nwyddau gwneuthuredig o 1 Ionawr wedi’u diweddaru. Mae’r canllawiau yn cynnwys adran newydd ar farcio cynhyrchion ar gyfer marchnad Prydain a’r UE: Rhoi nwyddau gwneuthuredig ar y farchnad ym Mhrydain o 1 Ionawr 2021 Rhoi nwyddau...
Mae’r ceisiadau nawr ar agor ar gyfer gwobr Enterprise Nation i Sefydlydd Busnes y Flwyddyn sy’n fenyw. Mae hwn yn gyfle nid yn unig i ddathlu sefydlydd busnes newydd gwych ond hefyd i roi gwobrau anhygoel i’r enillydd er mwyn hybu’r busnes. Mae Enterprise Nation yn chwilio am gystadleuwyr gyda gweledigaeth glir o gyfeiriad eu busnes newydd – a chynlluniau uchelgeisiol ar gyfer tyfu! Ydy hyn yn debyg i chi neu rywun rydych chi’n ei...
Mae’r DU wedi gadael yr UE. Ar 31 Rhagfyr 2020, bydd y DU yn gadael marchnad sengl yr UE a’r undeb dollau. Mae CThEM wedi creu cyfres o fideos byr gyda’r nod o helpu’r busnesau hynny sy’n gwbl anghyfarwydd â thollau: Beth yw Tollau? Beth rydych chi angen ei wybod i ddod â nwyddau i mewn i'r DU? Beth rydych chi angen ei wneud i anfon nwyddau allan o'r DU?
Mae Llywodraeth y DU yn ymestyn pedwar cynllun benthyciadau dros dro a gynlluniwyd i gefnogi busnesau'r DU sy'n colli refeniw ac sy'n profi tarfu ar eu llif arian o ganlyniad i argyfwng COVID-19. Bydd mwy o fusnesau nawr yn gallu elwa ar y canlynol: Cynllun Benthyciadau Tarfu ar Fusnes yn sgil y Coronafeirws (CBILS) Cynllun Benthyciadau Tarfu ar Fusnes Mawr yn sgil y Coronafeirws (CLBILS) Cynllun Benthyciadau Adfer (BBLS) Cronfa Swyddi’r Dyfodol Bydd y cynlluniau'n...
Mae Estyniad i’r Grant SEISS yn darparu cefnogaeth hanfodol i'r hunangyflogedig. Bydd y grant yn gyfyngedig i unigolion hunangyflogedig sydd ar hyn o bryd yn gymwys ar gyfer y SEISS ac sy'n parhau i fasnachu ond sy'n wynebu llai o alw oherwydd COVID-19. Bydd yr estyniad yn darparu dau grant a bydd yn para chwe mis rhwng Tachwedd 2020 ac Ebrill 2021. Telir y grantiau mewn dau gyfandaliad, pob un yn cwmpasu cyfnod o dri...

Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.