BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

news and blogs Archives

2231 canlyniadau

O 1 Hydref 2020 mae Cyllid a Thollau EM (CThEM) wedi cynyddu'r trothwy ar gyfer talu rhwymedigaethau treth i £30,000 ar gyfer cwsmeriaid Hunanasesu i helpu i leddfu unrhyw faich ariannol posibl y gallent fod yn ei dioddef oherwydd pandemig y coronafeirws (COVID-19). Gellir defnyddio'r gwasanaeth cynllun talu ar-lein eisoes i sefydlu trefniadau rhandaliadau ar gyfer talu rhwymedigaethau treth hyd at £10,000. Rhaid i gwsmeriaid sy'n dymuno sefydlu eu trefniadau Amser i Dalu hunanwasanaeth eu...
Mae’r DU wedi gadael yr UE, ac mae’r cyfnod pontio ar ôl Brexit yn dod i ben eleni. Mae’r rhan fwyaf o bobl yn defnyddio asiantau tollau i ddelio â thollau ar eu rhan. Nid yw asiantau tollau a gweithredwyr parseli cyflym ar y rhestr hon wedi’u cymeradwyo na’u hargymell gan CThEM. Gall fod yn dalcen caled cyflwyno datganiadau tollau mewnforio ac allforio, felly efallai y byddwch chi am ddefnyddio cwmni sy’n arbenigo yn y...
Gall y Benthyciad Arbed Tenantiaeth eich helpu os ydych wedi cael trafferth talu eich rhent oherwydd newid yn eich amgylchiadau yn sgil y coronafeirws. Er enghraifft, os ydych: wedi bod ar ffyrlo wedi bod ar gontract dim oriau ond wedi cael llai o oriau gwaith wedi colli eich swydd a dechrau swydd newydd wedi bod yn derbyn Tâl Salwch Statudol oherwydd eich bod wedi bod yn hunanynysu wedi cymryd amser i ffwrdd heb dâl i...
Mae’r gystadleuaeth Rising Stars 3.0 ar gyfer cwmnïau technoleg arloesol cymharol newydd. Mae’r gystadleuaeth yn arddangos y gorau sydd gan y wlad i’w chynnig ac yn darparu llwyfan i fusnesau yng Nghymru, yr Alban, Cymru a Gogledd Iwerddon serennu. Bydd eich busnes yn elwa ar godi proffil yn sylweddol ar lefel genedlaethol a rhyngwladol, yn ogystal â’r cyfle i ddwyn eich busnes i sylw buddsoddwyr, dylanwadwyr a corfforaethau blaenllaw. Cefnogir cystadleuwyr gydol y broses ymgeisio...
Gall y rheolau gweithio oddi ar y gyflogres fod yn berthnasol os yw gweithiwr yn darparu ei wasanaethau drwy gyfryngwr. Cwmni gwasanaeth personol y gweithiwr fydd y cyfryngwr fel arfer. Gallai hefyd fod yn bartneriaeth, yn gwmni gwasanaethau a reolir neu’n unigolyn. Mae'r rheolau’n gwneud yn siŵr bod gweithwyr, a fyddai wedi bod yn gyflogeion pe baent yn darparu eu gwasanaethau i'r cleient yn uniongyrchol, yn talu mwy neu lai yr un faint o dreth...
Mae Llywodraeth Cymru eisiau clywed eich barn chi ar ddyfodol gweithgynhyrchu yng Nghymru. Bydd y cynllun, Dyfodol Gweithgynhyrchu i Gymru – Fframwaith Gweithredu, yn cael ei ddatblygu i edrych ar sut y gall Llywodraeth Cymru, diwydiant, academia a’r Undebau Llafur gydweithio i sicrhau dyfodol y sector gweithgynhyrchu yng Nghymru. Yr ymgynghoriad yw’r cam nesaf i ddatblygu’r cynllun a fydd ar agor tan 19 Hydref 2020 er mwyn i bobl rannu eu barn. I gael rhagor...
Bydd Hwb Hinsawdd BBaChau - a gynhelir ar y cyd gan y Siambr Fasnach Ryngwladol (ICC), y Fenter Map Ffordd Mynegrifol, y glymblaid We Mean Business ac ymgyrch Race to Zero y Cenhedloedd Unedig - yn cefnogi busnesau bach a chanolig i leihau eu hallyriadau carbon er mwyn sicrhau mwy o gystadleuaeth, magu cadernid busnesau ac ennill mantais gystadleuol. Bydd Hwb Hinsawdd BBaChau yn annog cwmnïau bach a chanolig i ymrwymo i haneru eu hallyriadau...
Mae’r DU wedi gadael yr UE ac yn gadael marchnad sengl ac undeb tollau’r UE. Mae diwedd y cyfnod pontio yn golygu y dylai busnesau weithredu nawr i baratoi ar gyfer newidiadau anochel a rheolau newydd o fis Ionawr 2021. I gefnogi paratoadau busnes, mae’r Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol yn cynnal gweminarau am ddim i’ch helpu i fwrw golwg ar y rheolau newydd a deall y camau i’w cymryd. Cynhelir y sesiynau byw...
Mae’r DU bellach mewn cyfnod pontio tan 31 Rhagfyr 2020, tra bydd trafodaethau gyda’r UE yn mynd rhagddynt ynghylch y berthynas yn y dyfodol. Yn ystod y cyfnod pontio hwn ni fydd eich dyletswydd i reoli risg yn y gweithle yn newid. Mae iechyd a diogelwch da yn dda i fusnes. Bydd yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi yn ystod y cyfnod pontio. Mae rhagor o wybodaeth ar gael...
Bydd y mesurau gwrthdroi ar gyfer gwasanaethau adeiladu yn dod i rym ar 1 Mawrth 2021, er mwyn helpu'r sector adeiladu i ddelio ag effeithiau COVID-19; bydd hyn yn caniatáu mwy o amser i fusnesau baratoi. Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth am gwmpas y tâl gwrthdroi a sut y bydd yn gweithredu ar wefan GOV.UK Bydd Cyllid a Thollau EM yn cynnal cyfres o weminarau ar gyfer busnesau a gweminarau Talking Points...

Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.