BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

news and blogs Archives

2221 canlyniadau

Bydd Diwrnod Gwisgo Coch yn cael ei gynnal am y 6ed flwyddyn yng Nghymru, Lloegr a’r Alban ddydd Gwener 16 Hydref 2020. Mae Diwrnod Gwisgo Coch yn ddiwrnod cenedlaethol o weithredu sy’n annog ysgolion, busnesau ac unigolion i wisgo coch a rhoi £1 i helpu i hwyluso addysg wrth-hiliaeth i bobl ifanc ac oedolion ledled Cymru, Lloegr a’r Alban. Mae pob ceiniog a gaiff ei chodi yn ystod y Diwrnod hwn yn galluogi’r ymgyrch i...
Ar ôl i’r Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol gyhoeddi Ymateb y Llywodraeth i’r Alwad am Dystiolaeth ar Greu Diwylliant Talu Cyfrifol, cyhoeddwyd y byddai’r Cod Talu’n Brydlon yn cael ei gryfhau a’i ddiwygio. Y cam cyntaf oedd trosglwyddo gweinyddiaeth y Cod i Swyddfa’r Comisiynydd Busnesau Bach. Hoffai BEIS nawr ymgysylltu â rhanddeiliaid sydd â buddiant ynghylch sut beth fyddai Cod wedi’i gryfhau. Gydol y pandemig Covid 19, mae dros 300 o sefydliadau wedi ymrwymo...
Mae’r alwad hon am dystiolaeth yn ceisio barn pobl ar ddull y DU o gydnabod cymwysterau proffesiynol a rheoleiddio proffesiynau. Mae’r Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol am glywed gan ystod eang o unigolion, busnesau a sefydliadau sy’n rhyngweithio â phob agwedd ar broffesiynau a reoleiddir, yn arbennig os ydych chi’n: fyfyriwr sy’n astudio ar gyfer cymhwyster proffesiynol yn y brifysgol, mewn addysg bellach neu ar brentisiaeth rhywun sy’n defnyddio gwasanaethau gweithwyr proffesiynol a reoleiddir...
Gallwch ddefnyddio’r Cynllun Kickstart i greu lleoliadau gwaith newydd am gyfnod o 6 mis ar gyfer pobl ifanc sydd ar Gredyd Cynhwysol ar hyn o bryd ac sydd mewn perygl o ddiweithdra hirdymor. Rhaid i geisiadau fod ar gyfer lleiafswm o 30 lleoliad gwaith. Os ydych chi’n creu mwy na 30 lleoliad gwaith gallwch wneud cais yn uniongyrchol drwy gyflwyno eich cais eich hun ar-lein. Os ydych chi’n creu llai na 30 lleoliad gwaith, gall...
Cyfle i ddysgu mwy am fasnachu gyda’r UE o 1 Ionawr 2021. I brynu neu werthu o’r UE, bydd angen i’ch busnes ddilyn rheolau tollau newydd neu ni fyddwch yn cael dal ati i fasnachu. Mae angen cymryd y camau pwysig hyn pa beth bynnag fydd canlyniad trafodaethau â’r UE ac a yw Llywodraeth y DU yn sicrhau Cytundeb Masnach Rydd ai peidio. Rhagor o wybodaeth: Allforio ac anfon nwyddau y tu allan i'r DU...
Mae Cronfa Dreftadaeth y Loteri a Cadw wedi cydweithio i lansio Grantiau Treftadaeth 15 Munud ar gyfer prosiectau sy’n cefnogi gweithgareddau amrywiol sy’n cynyddu ymgysylltiad pobl â threftadaeth y mae modd ei chyrraedd o’u cartref mewn tua 15 munud. Mae grantiau rhwng £3,000 a £10,000 ar gael i awdurdodau lleol, sefydliadau trydydd sector a grwpiau gwirfoddol a chymunedol ar gyfer prosiectau bach sy’n helpu i gysylltu cymunedau yng Nghymru â’u treftadaeth leol. Gallai hyn gynnwys...
Mae rhaglen Arweinwyr Digidol Cymru yn rhwydwaith adnoddau i unigolion a sefydliadau ledled Cymru sydd wedi ymrwymo i sicrhau trawsnewid digidol arloesol a chynaliadwy. Yn ystod Wythnos yr Arweinwyr Digidol®, mae sefydliadau yng Nghymru yn cynnal digwyddiadau, gweithdai a sesiynau ar-lein i helpu arweinwyr i archwilio’r cyfleoedd. Ydych chi’n arweinydd yng Nghymru? Yw eich sefydliad? Os felly, dyma eich cyfle chi i ddangos hynny drwy gynnal digwyddiad yn ystod yr wythnos. Am ragor o wybodaeth...
Nawr, gall busnesau ledled Cymru ddarganfod a allant wneud cais am arian o drydydd cam y Gronfa Cadernid Economaidd. Bydd y gwiriwr cymhwysedd yn galluogi busnesau i weld a allant gael mynediad i gyfran o £80 miliwn y gronfa a fydd yn cefnogi cwmnïau gyda phrosiectau a all eu helpu i drosglwyddo i economi'r dyfodol. O'r swm hwn, bydd £20 miliwn wedi'i glustnodi i gefnogi busnesau twristiaeth a lletygarwch sy'n wynebu heriau penodol a ninnau...
Mae KTN yn cynnal digwyddiadau ar-lein drwy gydol y misoedd nesaf ac yn 2021 ar gyfer Merched sy'n Arloesi! Mae gan bob digwyddiad ffocws gwahanol, ond nod pob un ohonynt yw rhoi ysbrydoliaeth a chyngor ymarferol. Mae'r digwyddiadau ar-lein yn cynnwys: You are not alone – 14 Hydref 2020, 1pm i 2pm, archebwch eich lle yma Building Success and Resilience – 28 Hydref 2020, 2pm i 3pm, archebwch eich lle yma Women in Enabling Technologies...
Mae Llywodraeth Cymru a phartneriaid rhanbarthol, ar y cyd, yn gwahodd pobl i ymuno â nhw i sefydlu gweledigaeth a rennir ar gyfer economïau unigryw y Canolbarth a’r De-orllewin. Trwy weithio gyda’n gilydd, gallwn drechu’r heriau a manteisio ar gyfleoedd er lles holl bobl y rhanbarth. Dros y misoedd i ddod, bydd cyfle i chi gyfrannu mewn nifer o ffyrdd. Cymerwch olwg ar dudalen Fframwaith Economaidd Canolbarth a De-orllewin Cymru - https://businesswales.gov.wales/cy/fframwaith-economaidd-canolbarth-de-…

Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.