BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

news and blogs Archives

2361 canlyniadau

Mae Llywodraeth y DU yn ymgynghori ar fesurau newydd i ddiogelu masnach fewnol yn y DU pan fydd pwerau’n dychwelyd o’r UE ym mis Ionawr 2021. Nod y cynigion yw sicrhau y gall y datganoli barhau i weithio i bawb; bod pob maes polisi datganoledig yn parhau yn ddatganoledig, gan gynnal sicrwydd ar gyfer busnesau drwy sicrhau bod rheolau a safonau ledled y DU yn cael eu cydnabod gan bawb, er mwyn sicrhau bod masnachu...
Mae gweminar wedi’i recordio gan CThEM ar gael i chi ei gwylio pan yn gyfleus i chi, a fydd yn eich helpu gyda thasgau cyflogres a llenwi ffurflen P11D ar gyfer treuliau a buddion blynyddol. Mae’r weminar yn cynnwys: pa gyflogeion sydd angen ffurflen P11D y ffurflen P11D a phryd i’w chyflwyno treuliau a buddion trethadwy cyfraniadau Yswiriant Gwladol sut i gywiro P11D I wylio’r weminar mae angen i chi gofrestru yma.
Nod yr alwad hon gan y Rhaglen Technoleg Awyrofod Genedlaethol (NSTP) yw datblygu gallu sector awyrofod y DU trwy ddarparu cronfa sbarduno ar gyfer syniadau arloesol cynnar. Mae grantiau hyd at £75,000 ar gael gan Lywodraeth y DU i sector awyrofod y DU ddatblygu technolegau masnachol a’u cyflwyno i’r farchnad. Mae cyllid ar gael gan Asiantaeth Awyrofod y DU ar gyfer busnesau, a sefydliadau dielw ac academaidd. Gofynnir am geisiadau ar gyfer prosiectau ymchwil technoleg...
Porth ar-lein yw Veteran Owned UK ar gyfer dros 1204 o fusnesau. Sefydlwyd y porth gan Gyn-beiriannydd o’r Fyddin Frenhinol Brydeinig er mwyn helpu i gefnogi cyn-filwyr sy’n berchnogion busnes a chynnig aelodaeth ar amrywiol lefelau sy’n addas i bawb. Prif nod y safle yw cefnogi busnesau sy’n eiddo i gyn-filwyr felly gall unrhyw gyn-filwr sy’n berchen busnes gofrestru yn y cyfeiriadur yn rhad ac am ddim. Yn ogystal â’r porth Veterans Owned UK, mae...
Mae’r Swyddfa Gartref wedi rhyddhau rhagor o fanylion am system fewnfudo seiliedig ar bwyntiau’r DU, a ddaw i rym ar 1 Ionawr 2021. Mae’r datganiad yn cynnwys gwybodaeth am: ofynion y system seiliedig ar bwyntiau trothwyon cyflogau a sgiliau ar gyfer gweithwyr medrus llwybr ar gyfer myfyrwyr a graddedigion pwy all ymgeisio ymweld â’r DU llwybrau mewnfudo eraill Gall dinasyddion yr UE sy’n byw yn y DU erbyn 31 Rhagfyr 2020 ymgeisio i ymgartrefu yn...
Ydych chi am gael rhagor o wybodaeth am newidiadau i’r Cynllun Cadw Swyddi drwy gyfnod y Coronafeirws a sut gall ffyrlo hyblyg gefnogi eich busnes? Ymunwch yng ngweminar byw CThEM am y wybodaeth ddiweddaraf, gan gynnwys: trosolwg o newidiadau i’r cynllun, gan gynnwys sut gallwch ddod â gweithwyr sydd wedi bod ar ffyrlo yn flaenorol yn ôl i’r gwaith i ddiwallu anghenion eich busnes cyflwyniad i ffyrlo hyblyg a sut mae’n gweithio enghraifft o sut...
‘Bydd y GIG yng Nghymru yn brechu oddeutu 1 miliwn o oedolion a phlant ar draws Cymru yn flynyddol, gan gynnwys imiwneiddiadau plentyndod a’r ffliw.’ Eleni, yn sgil y pandemig COVID-19, bydd darparu’r breichiadau hyn yn fwy o her, yn sgil ystod ehangach o grwpiau agored i niwed (cysgodi), mesurau ymbellhau cymdeithasol, rheoli heintiau a chynnwys brechiad COVID-19. Y senario gorau fyddai brechiad COVID-19 yn cael ei ddarparu ar fyrder i nifer fawr o bobl...
Mae cronfa newydd gwerth £4 miliwn wedi cael ei lansio gan Chwaraeon Cymru er mwyn helpu clybiau a sefydliadau chwaraeon cymunedol ar lawr gwlad. Bydd y gronfa newydd, ‘Cronfa Cymru Actif’, yn ffynhonnell bwysig o gefnogaeth i warchod clybiau a sefydliadau cymunedol sydd wedi cael eu taro’n ddrwg gan bandemig Covid-19 a’u helpu i baratoi ar gyfer ailddechrau gweithgareddau yn ddiogel. Mae’r cyfyngiadau symud wedi creu risg ariannol ddifrifol i lawer o glybiau cymunedol yng...
Ar 1 Ionawr 2021 bydd y cyfnod pontio gyda’r Undeb Ewropeaidd yn dod i ben, a’r Deyrnas Unedig yn gweithredu ffin allanol, lawn fel cenedl sofran. Mae hyn yn golygu y bydd rheolaethau’n cael eu gosod ar symud nwyddau rhwng Prydain a’r UE. Er mwyn rhoi mwy o amser i’r diwydiant wneud trefniadau angenrheidiol, mae Llywodraeth y DU wedi penderfynu cyflwyno’r rheolaethau ffin newydd mewn tri cham hyd at 1 Gorffennaf 2021. Mae Llywodraeth y...
Mae gan chwarae teg nifer o weminarau i helpu eich busnes gan gynnwys: Hanfodion busnes – dydd Mercher 22 Gorffennaf, 12yp i 1yp – wedi’i gynllunio er mwyn eich helpu i gymryd y camau cyntaf gyda'ch syniad busnes a'i drawsnewid yn rhywbeth y gallech chi ei weithredu, cofrestrwch yma Cefnogi menopos yn y gwaith – dydd Iau 23 Gorffennaf, 1yp i 2yp – ymunwch â Hannah Botes o Chwarae Teg a fydd yn rhannu argymhellion...

Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.