BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

news and blogs Archives

2371 canlyniadau

Bydd gweminar y National Cyber Security Centre (NCSC) yn darparu trosolwg o’r risgiau seiberddiogelwch y mae busnesau’n eu hwynebu yn ystod ac ar ôl COVID-19, yn ogystal ag edrych ar yr amrywiaeth o adnoddau sydd ar gael am ddim i fusnesau gan yr NCSC. Cynlluniwyd y weminar ar gyfer busnesau bach a chanolig sydd wedi’u heffeithio gan COVID-19 ac sydd â diddordeb mewn datblygu eu busnes ar-lein. Bydd y weminar yn cynnwys deunydd ar: rôl...
Mae’r Cynllun Cymhorthdal Incwm i’r Hunangyflogedig (SEISS) wedi’i ddiweddaru gyda nifer o newidiadau yn cynnwys y canlynol: mae SEISS wedi cau ar gyfer y grant cyntaf, ond mae’r cynllun yn eich galluogi i hawlio’r ail a’r grant trethadwy olaf. Gallwch gyflwyno hawliad am yr ail grant os ydych yn gymwys, hyd yn oed os na wnaethoch chi gyflwyno hawliad am y grant cyntaf, rhagor o wybodaeth yma cyhoeddwyd canllawiau newydd sy’n berthnasol os ydych chi...
Mae’r Sector Gwasanaethau Proffesiynol a Busnes ac Enterprise Nation, gyda chefnogaeth yr Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol, wedi uno i gynnig cyngor am ddim i fusnesau bach a chanolig i’w helpu i adfer o effaith y Coronafeirws. Mae cyrff proffesiynol a chymdeithasau masnach yn defnyddio arbenigwyr yn eu sector i gynnig galwadau am ddim ar bynciau o gyfrifyddu i hysbysebu, o AD i faterion cyfreithiol. Mae Enterprise Nation yn darparu mynediad am ddim i’r...
Mae ASTUTE 2020 (Technolegau Gweithgynhyrchu Cynaliadwy Uwch), a arweinir gan Brifysgol Abertawe mewn partneriaeth â Phrifysgol Caerdydd, Prifysgol Aberystwyth, Prifysgol De Cymru a Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, yn caniatáu lefel uwch o arloesedd busnes yn nhechnolegau gweithgynhyrchu’r dyfodol, gan sbarduno a chefnogi ymchwil, datblygu ac arloesedd blaengar. Os ydych chi’n gwmni gweithgynhyrchu, gallwch chi gael mynediad at arbenigwyr ymchwil Prifysgol sydd â ffocws ar ddiwydiant i gefnogi eich busnes i dyfu allan o’r...
Nod y Gronfa Twf Glân yw sbarduno’r defnydd o dechnolegau glân arloesol sy’n lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr, drwy wneud buddsoddiadau uniongyrchol mewn cwmnïau sy’n ceisio masnacheiddio technolegau addawol. Mae’r Gronfa yn buddsoddi yn y sectorau canlynol: pŵer adeiladau trafnidiaeth diwydiant gwastraff Mae’r gronfa £40 miliwn newydd yn cyfuno buddsoddiad £20 miliwn gan yr Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol law yn llaw ag £20 miliwn gan y buddsoddwr sector preifat CCLA, buddsoddwr sefydliadol o’r...
Mae Cystadleuaeth Varsity Pitch, wedi’i chefnogi gan NACUE, yn gystadleuaeth genedlaethol, flynyddol ar gyfer cynigion busnes cam cynnar ac mae’n dathlu’r busnesau gorau sy’n dod o golegau a phrifysgolion ledled y DU. Mae tri cham i’r gystadleuaeth, sy’n gyfle ardderchog i fusnesau cam cynnar ddod i gysylltiad â busnesau rhyngwladol, cael adborth credadwy gan arbenigwyr yn y diwydiant, cael cymorth busnes a chyfle i gystadlu ar gyfer y wobr ariannol uwch o £15,000 o gyllid...
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi bod newidiadau i'r ddyletswydd cadw pellter corfforol 2m wedi dod i rym. Mae gan y rheoliad 2m newydd goblygiadau ar gyfer mangreoedd, gan gynnwys siopau. Mae Llywodraeth Cymru wedi ysgrifennu at fanwerthwyr yng Nghymru yn cydnabod y bod yna rhai achlysuron pan nad yw hi wastad yn bosibl i gynnal pellter o 2m ac yn nodi mesurau ychwanegol bydd angen i fusnesau eu rhoi ar waith er mwyn lleihau'r risg...
Bydd profion theori gyrru yn ailddechrau ar ddydd Llun 3 Awst, ynghyd â phrofion galwedigaethol, beic modur, car a threlar, a phrofion gyrru tractor. Bydd profion gyrru yn ailddechrau ar ddydd Llun 17 Awst, yn ogystal â phrofion hyfforddwyr gyrru a gwiriadau safonau. Bydd yr Asiantaeth Gyrwyr a Safonau Cerbydau (DVSA) yn diweddaru’r canllawiau’n fuan i hwyluso dychwelyd yn ddiogel. Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan Llyw.Cymru.
Mae’r DU wedi gadael yr UE, ac mae’r cyfnod pontio ar ôl Brexit yn dod i ben eleni. Gweithredwch nawr i fod yn barod ar gyfer y rheolau newydd o fis Ionawr 2021. Mae’r camau y gallwch eu cymryd nawr, nad ydyn nhw’n dibynnu ar unrhyw drafodaethau, yn cynnwys: teithio i’r UE – bwrwch olwg ar beth sydd angen i chi ei wneud i deithio i Ewrop o 2021 aros yn y DU os ydych...
Ar 15 Gorffennaf 2020, bydd gweledigaeth a chynllun gweithredu newydd ar gyfer y sector menter gymdeithasol yng Nghymru yn cael ei lansio. Yn dwyn y teitl Trawsnewid Cymru Trwy Fenter Gymdeithasol, mae'r ddogfen wedi'i chyd-lunio gan fentrau cymdeithasol, asiantaethau cymorth menter gymdeithasol yng Nghymru, ac mae ganddi gefnogaeth Llywodraeth Cymru. Y nod yw darparu gweledigaeth glir o botensial mentrau cymdeithasol i gyfrannu at fywydau a bywoliaeth pobl yng Nghymru wrth iddynt ailadeiladu yn sgil effeithiau'r...

Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.