BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

news and blogs Archives

2531 canlyniadau

Mae adrannau Llywodraeth y DU yn cynnal cyfres o weminarau i helpu busnesau i ddeall y cymorth sydd ar gael iddyn nhw yn ystod y pandemig coronafeirws. Maen nhw’n cynnwys: pynciau sy’n cynnwys cefnogi a chadw staff a’r hunangyflogedig, cofrestru i fynychu gweminarau yn y dyfodol neu wylio sesiynau wedi'u recordio masnach ryngwladol, cofrestrwch yma busnesau bach, cofrestrwch yma Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan GOV.UK. Ewch i’r tudalennau Cyngor i fusnesau ar y...
Os gall eich busnes helpu gyda’r ymateb i goronafeirws, gallwch ddefnyddio gwasanaeth cymorth gan fusnesau Llywodraeth y DU i helpu. Gofynnir rhai cwestiynau i chi am y math o gymorth y gallwch ei roi ac yna bydd rhywun yn cysylltu â chi cyn gynted â phosibl os oes angen eich cymorth. Mae’r cymorth sydd ei angen yn cynnwys pethau fel: cyfarpar profion meddygol dylunio cyfarpar meddygol cyfarpar diogelu ar gyfer gweithwyr gofal iechyd, fel masgiau...
Mae Croeso Cymru wedi llunio canllawiau ar gyfer busnesau twristiaeth ar Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) (Diwygio) 2020 a’r canllawiau dilynol a gyhoeddwyd, yn enwedig mewn perthynas â derbyn archebion rhwng nawr a 26 Medi. Cyhoeddwyd Rheoliadau 2020 ar 7 Ebrill 2020 ac maent yn pwysleisio na ddylid cymryd unrhyw archebion ar gyfer y cyfnodau lle mae’n ofynnol cau llety gwyliau am y cyfnod cyfyngedig. Bydd pob busnes llety gwyliau (heblaw lle ceir eithriadau...
Mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi y bydd TAW ar gyfarpar diogelu personol hanfodol ar gyfer Covid-19 yn cael ei ddiddymu dros dro. O 1 Mai 2020 tan 31 Gorffennaf 2020 ni chodir TAW ar werthiannau Cyfarpar Diogelu Personol ar gyfer Covid-19. Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan GOV.UK. Ewch i’r tudalennau Cyngor i fusnesau ar y coronafeirws ar wefan Busnes Cymru i gael gwybodaeth ar gyfer eich busnes ynglŷn â delio â’r coronafeirws.
Bydd gan weithwyr ar ffyrlo sy’n bwriadu cymryd absenoldeb rhiant neu fabwysiadu â thâl hawl i dâl yn seiliedig ar eu henillion arferol yn hytrach na’r gyfradd ffyrlo. Mae hyn yn golygu: bydd tâl ar gyfer gweithwyr ar ffyrlo sy’n cymryd absenoldeb am resymau teuluol yn cael ei gyfrifo ar sail enillion arferol yn hytrach na thâl ffyrlo bydd enillion llawn yn gymwys i Dâl Mamolaeth, Tâl Tadolaeth, Tâl Rhiant a Rennir, Tâl Profedigaeth i...
Ydych chi am gael gwybod mwy am y cymorth ariannol sydd ar gael ar gyfer busnesau bach yn ystod yr argyfwng coronafeirws (COVID-19)? Cofrestrwch ar gyfer gweminarau am ddim a gynhelir gan yr Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol. Cymorth ariannol ar gyfer busnesau bach yn ystod coronafeirws - a gynhelir ddydd Mawrth 5 Mai 2020 am 11am. Bydd y gweminar hwn yn trafod: cymhwyster ar gyfer grantiau busnes bach gwneud cais am fenthyciad treth...
Gweithiwr ar ffyrlo? Beth am fynd ati i ddysgu ar-lein? Gall dysgu ar-lein: eich helpu i wella eich sgiliau eich helpu i ddysgu sgiliau newydd helpu gyda’ch llesiant Cysylltwch â Cymru’n Gweithio am gyngor arbenigol ar yr hyfforddiant ar-lein sydd ar gael trwy: ffonio 0800 028 4844 e-bostio cymrungweithio@gyrfacymru.llyw.cymru neu ymweld â gwefan Cymru’n Gweithio am ragor o wybodaeth Mae gwybodaeth a chyngor am gefnogaeth i ddatblygu sgiliau ar dudalennau Porth Sgiliau Busnes Cymru hefyd...
Mae'r Ganolfan Entrepreneuriaeth ym Mhrifysgol Rhydychen wedi lansio Liber, prosiect pedwar mis i fynd i'r afael â'r heriau o ganlyniad i argyfwng Covid-19 mewn carfan o fusnesau newydd a busnesau bach a chanolig. Mae hanes wedi dangos fe ddaw’r datblygiadau arloesol mwyaf pwerus yn ystod cyfnodau o galedi. Mae'n siŵr y bydd hyn yn un o'r adegau hynny. Fodd bynnag, nod prosiect Liber yw lansio llwyddiant entrepreneuraidd y DU, drwy ddod a chriw at ei...
Yn sgil gofynion cadw pellter cymdeithasol, mae gweithio ar eich pen eich hun wedi dod yn llawer mwy cyffredin. Mae gan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch ganllawiau ar gyfer cyflogwyr i gadw gweithwyr unigol yn iach ac yn ddiogel. Mae eu taflen ddiwygiedig Protecting lone workers: How to control the risks of working alone ar gyfer unrhyw un sy’n cyflogi gweithwyr unigol, neu sy’n cyflogi gweithwyr unigol, neu sy’n ymgysylltu â nhw fel contractwyr...
Mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi y bydd hi’n haws i yrwyr bysiau a lorïau adnewyddu eu trwyddedau gyrru sy’n dirwyn i ben, ac mae wedi ymlacio’r gofyniad dros dro i yrwyr bysiau a lorïau ddarparu adroddiad meddygol gan feddyg er mwyn adnewyddu eu trwydded. O dan y cynllun, bydd gyrwyr yn gallu derbyn trwydded blwyddyn dros dro, ar yr amod nad oes ganddynt gyflyrau meddygol sy’n effeithio ar eu gyrru a bod eu trwydded...

Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.